Ҵý

Skip page header and navigation

Croeso

Croeso i Ystafelloedd Trochi PCYDDS, nod y cyfleusterau yw darparu amgylchedd addysgu a dysgu o’r radd flaenaf i staff a myfyrwyr PCYDDS. Ystafelloedd wedi’u dylunio’n benodol ydynt, gan ddefnyddio technoleg i ddarparu profiad addysgol trochol. 

Mae’r Ystafelloedd Trochi yn cynnwys 3 wal fideo fawr, gan greu amgylchedd digidol amgaeedig. Ynghyd â system sain amgylchynol, nod y gofod yw symbylu aml-synhwyrau, pwysleisio pwysigrwydd profiad myfyrwyr o fewn addysg, cyfoethogi cadw myfyrwyr a deall cysyniadau cymhleth. 

Mae’r Ystafelloedd Trochi yn manteisio ar rym dysgu drwy brofiadau, gan ddymchwel y rhwystrau sy’n gysylltiedig â phensetiau VR. Mae’r mannau trochi hyn yn pontio theori ac ymarfer trwy gyfuniad o’r rhithwir a ffisegol, gan gynnwys pob dysgwr a dull dysgu. Gall unrhyw aelod o staff ac unrhyw gwrs ar draws PCYDDS archebu’r gofodau, ac maent yn addas ar gyfer defnyddwyr niferus. Yn bennaf, mae’r mannau cydweithredol hyn yn hyrwyddo profiadau dysgu mewn grwpiau, yn cynnig amgylchedd saff i efelychu gwahanol amgylcheddau, o arsylwadau ystafell ddosbarth ysgolion i hyfforddiant iechyd a diogelwch mewn lleoliad diwydiannol risg uchel. 


Caiff Ystafelloedd Trochi PCYDDS eu cefnogi gan y Tîm Profiad Digidol ac Ymgysylltu. Os hoffech ragor o wybodaeth neu archebu’r ystafelloedd i ddod am ymweliad ac arddangosiad, cysylltwch â ni: immersive@uwtsd.ac.uk

Defnyddior Ystafelloedd

Space Concept Immersive Room

Defnyddio’r Ystafelloedd 

Mae’r Ystafelloedd Trochi yn fannau aml-swyddogaeth y gellir eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Yn sefydliad addysg uwch, y prif ffocws yw hwyluso holl weddau addysgu a dysgu a gynigir gan PCYDDS, fodd bynnag, gellir hefyd defnyddio’r ystafelloedd ar gyfer: 

  • Gweithdai

  • Arddangosfeydd 

  • Ymchwil 

  • Ymweliadau ac arddangosiadau 

  • Digwyddiadau 

Y Dechnoleg

Y Dechnoleg 

Mae’r dechnoleg a ddefnyddiwyd i adeiladu’r ystafelloedd wedi’i dylunio a’i datblygu i fod yn sythweledol, lle gall defnyddwyr o bob gallu technegol arddangos cynnwys a chreu profiad diddorol. Mae’r technolegau craidd sydd yn yr Ystafelloedd Trochi yn cynnwys 3 wal fideo fawr, arddangosfa sgrin gyffwrdd, a stac gweinyddion. 

Escape Room - Immersive Room

Y Sgriniau

Mae prif ffocws yr ystafelloedd, y 3 wal fideo, wedi’u dylunio a’u hadeiladu i fod yn un cynfas di-dor sy’n lapio o gwmpas yr ystafell. 

Paneli arddangos LED IER/IEA Samsung, sy’n arwain y diwydiant o ran ansawdd lluniau Ystod Deinamig Uchel (HDR), gan greu cynnwys gweledol ansawdd uchel yn yr Ystafelloedd Trochi. Mae eglurder y llun yn amlygu’r gallu i efelychu amgylcheddau ffisegol yn effeithiol, gan ychwanegu realaeth i’r profiad sy’n cyfoethogi addysgu a dysgu. 

    • Arddangosfa: Paneli arddangos IER/IEA Samsung 
    • Cyfanswm y Cabinetau: 85 
    • Llorweddiad Picsel: 1.5mm 
    • Cyfanswm Dimensiynau: Lled: 16.3 m Uchder: 2.7 m 
    • Cyfanswm Cydraniad: Lled: 10,880 px Uchder: 1800 px 
    • Sain: 7.1 Amgylchynol
    • Arddangosfa: Paneli arddangos IER/IEA Samsung 
    • Cyfanswm y Cabinetau: 76 
    • Llorweddiad Picsel: 1.5mm 
    • Cyfanswm Dimensiynau: Lled: 18.2m Uchder: 2.2m 
    • Cyfanswm Cydraniad: Lled: 12160px Uchder: 1440px 
    • Sain: 7.1 Amgylchynol

Arddangosiad Sgrin Gyffwrdd

immersive room set up in Swansea

Arddangosiad Sgrin Gyffwrdd

Wedi’i leoli yng nghefn yr ystafelloedd mae Sgrin Gyffwrdd Samsung 55”, sy’n gweithredu fel prif allfa’r cyfrifiaduron (sydd yn y stac gweinyddwyr) sy’n rheoli’r ystafelloedd. Mae’r sgrin gyffwrdd wedi’i gosod ar stand y gellir ei addasu a’i symud, sy’n caniatáu i’r defnyddiwr reoli’r system weithredu’n gyflym gan greu rhyngwyneb defnyddiwr rhyngweithiol a sythweledol.  

Fformat Ffeiliau

Hefyd, mae ICE yn ein galluogi i ollwng a llusgo cynnwys, gan roi’r gallu i arddangos cyfryngau’n gyflym a di-dor. P’un a ydych yn anfon y cynnwys ymlaen llaw, neu os hoffech brofi cynnwys o USB, gallwn arddangos cynnwys mewn nifer o fformatau: 

  • Lluniau: Pob maint (.jpg, png) 

  • Fideos HD, 4K, 8k, 12k, 360 (.mp4, .mov) 

  • Ffeiliau: PDF (.pdf) 

Igloo Core Engine (ICE)

Igloo Core Engine (ICE)

I reoli’r cynnwys sy’n cael ei arddangos, rydym yn defnyddio Injan Graidd Igloo (ICE), meddalwedd gweithredu cynnwys sydd wedi ennill gwobrau, sy’n eich galluogi i weld a rhyngweithio gyda chynnwys o fewn yr Ystafelloedd Trochi. Mae ICE yn caniatáu i chi ffrydio cynnwys yn gyflym gan ddefnyddio system haenog, neu sesiynau wedi’u ffurfweddu neu arbed ymlaen llaw. Mae gan ICE fynediad i amrywiaeth o gymwysiadau fel: 

  • YouTube 360
  • Google Streetview
  • Unreal Engine
  • Unity
  • Revizto
  • Matterport
  • Google Slides
  • Gwe borwr ICE 
  • Ffrydio NDI
Igloo Core Engine - Touch Screen

Sut i ddod o hyd i ni

Mae Ystafell Drochi Abertawe yn Y Fforwm 003, ar Gampws IQ, Abertawe. Mae’r lleoliad yn y cyfeiriad a ganlyn: 

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Glannau Abertawe, Campws IQ, Abertawe, SA1 8EW. 

Mae Ystafell Drochi Caerfyrddin yn y Bloc Addysgu a Dysgu, Ystafell 006, ar Gampws Caerfyrddin. Mae’r lleoliad yn y cyfeiriad a ganlyn: 

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Campws Caerfyrddin, Caerfyrddin SA31 3EP 

Cysylltwch â ni

Mae’r tîm Profiad ac Ymgysylltu Digidol yn barod bob tro i helpu gydag archebion ar gyfer yr Ystafell Drochi neu i ddatblygu cynnwys, ar draws pob campws. Cysylltwch â ni os hoffech: 

  • Gael rhagor o wybodaeth. 

  • Trefnu ymweliad ac arddangosiad 

  • Holi am gyfleoedd posibl i gydweithredi 

  • Gwneud dechrau ar gynnwys a phrosiectau trochi