
Cyfleusterau Perfformio, Dawns a Theatr Gerddorol, Caerfyrddin
Ein Cyfleusterau
Ein Cyfleusterau
Fel myfyriwr yn y diwydiannau perfformio yng Nghaerfyrddin, cewch fynediad at amrywiaeth o weithdai, mannau theatr, stiwdios ac ystafelloedd ymarfer.
Cluster Facilities
Mae ein cyfleusterau arbenigol i’r Diwydiannau Perfformio yn cynnwys y canlynol:
BA Actio ac MA Theatr Gymhwysol: Mae gan fyfyrwyr fynediad i ofod perfformio Y Llwyfan, man ymarfer Stiwdio Parry, Theatr yr Halliwell a dwy stiwdio ddawns.
Dylunio a Chynhyrchu Setiau: Mae gan y brif weithdy Dylunio a Chynhyrchu Setiau ddigonedd o le i adeiladu setiau Ffilm, Teledu a Theatr ar raddfa lawn. Yno, mae ystod o offer adeiladu ar lefel broffesiynol gan Festool, cyfleusterau ar gyfer gwaith ‘polycarving’, castio resin, paentio golygfeydd a gwaith pypedau ar raddfa fawr. Mae’r gofod yn hyblyg a gellir symud pethau o gwmpas yn hawdd i gynnal sesiynau a addysgir, prosiectau byw ac i groesawu criwiau proffesiynol o gwmnïau ffilm. Hefyd, mae gan fyfyrwyr fynediad i ystafell Mac, pensetiau VR ac Ystafell Drochi’r campws.

Ein Lleoliad
Mae Caerfyrddin yn cynnig canolfan gyfoethog a bywiog o greadigrwydd sy’n tynnu at ei gilydd gyfuniad unigryw o bynciau o’r celfyddydau creadigol a seiliedig ar berfformio gyda phrosesau ffilm a chyfryngau digidol uwchdechnoleg, i greu cymuned ddysgu sy’n ddeinamig, arloesol a chyffrous. Mae’r campws yn bair creadigol ar gyfer ymarferwyr ac entrepreneuriaid wedi’i leoli o fewn adeiladau trawiadol ac eiconig.

Mannau stiwdio

Mannau perfformio

Gweithdy Dylunio Set a Chynhyrchu

Mannau ymarfer





Gwahanol fath o ystafell ddosbarth mewn profiad trochol ar y campws
Rydym yn tanysgrifio i’r syniad bod pobman yn ystafell ddosbarth o fewn ein cymuned greadigol. Y cyfleoedd i ddysgu mewn gweithdai, darlithfeydd, stiwdios ymarfer a lleoliadau yw lle caiff syniadau eu llunio, eu trafod a’u gweithredu – mae’r rhain yn fannau ar gyfer adfyfyrio, trafod, ymholi a chyfleoedd. P’un a ydych chi’n actor, yn artist neu’n ddylunydd, byddwch chi’n gweithio ochr yn ochr, a gydag, ysgrifenwyr creadigol, gwneuthurwyr ffilmiau, cynhyrchwyr cyfryngau newydd, gwneuthurwyr pypedau a chyfarwyddwyr.

Ystafell Drochi

Oriel Gyfleusterau
Campus Life (add relevant campus)
Bywyd ar y Campws

Bywyd ar gampws Caerfyrddin
Archwiliwch yr ystod ardderchog o gyfleusterau sydd ar gampws Caerfyrddin, ac yn cynnig profiad buddiol cyffredinol i fyfyrwyr. Mae’r campws yn cynnwys adnoddau dysgu o’r radd flaenaf, mannau ar gyfer celfyddydau creadigol, stiwdios ac ystafelloedd ymarfer, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgell yn llawn dop o gasgliadau digidol a chorfforol. Gall myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yn y ganolfan chwaraeon, sy’n cynnwys campfa, dosbarthiadau ffitrwydd a chaeau chwaraeon. Yn ogystal, mae gan y campws ddigonedd o fannau cymdeithasol, caffis a hwb undeb y myfyrwyr, gan greu awyrgylch cymuned bywiog sy’n berffaith ar gyfer twf academaidd a phersonol.