
Perfformio, Dawns a Theatr Gerddorol
Os ydych chi’n breuddwydio am serennu ar y sgrin, neu efallai â’ch bryd ar weithio yn yr esgyll, mae ein Rhaglenni Perfformio, Dawns a Theatr Gerdd yn hyfforddi myfyrwyr a’u datblygu i fod yn berfformwyr a gweithwyr y dyfodol. Rydym yn gwneud hyn drwy gynnig addysg gynhwysfawr ar draws y rhaglenni, a’ch galluogi i ganfod pwy ydych chi ac i ffynnu.
Mae’r rhaglenni Perfformio, Dawns a Theatr Gerdd yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gyrfa. Mae ein modiwlau wedi’u seilio ar arfer ac yn canolbwyntio ar y proffesiwn, a byddan nhw’n eich paratoi â set o sgiliau technegol cryf, â galluoedd creadigol, ac â dealltwriaeth ddofn o’r diwydiant. Cewch baratoi portffolio helaeth cyn dechrau ar eich gyrfa, gan achub y blaen ar eraill pan fyddwch yn chwilio am waith mewn maes hynod gystadleuol.
Os ydych chi’n angerddol am actio, cerddoriaeth neu ddylunio, mae lle i chi yma. Oherwydd y profiadau ymarferol a’r cysylltiadau â’r diwydiant, cewch ystod eang o gyfleoedd os dewiswch ymuno â ni.
Caerfyrddin yw cartref ein graddau BA Actio a BA Dylunio Setiau. Mae’r rhaglenni hyn yn cyd-fynd a’i gilydd, gan greu gweithluoedd cyflogadwy sydd â digon o brofiad ymarferol i ffynnu yn y diwydiant. Fel myfyriwr yng Nghaerfyrddin, bydd gennych fynediad at weithdai a theatrau ar y campws, a bydd hyn yn eich galluogi i gyfuno eich astudiaethau academaidd gyda phrofiad ymarferol.
Yng Nghaerdydd mae Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA), sef sefydliad sy’n cynnig rhaglenni gradd sy’n darparu techneg gadarn i fyfyrwyr, ynghyd â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt. Mae Haywood House yn y Brifddinas yn gampws yn yr arddull conservatoire ac mae ganddi gysylltiadau cryf â Chanolfan y Mileniwm ac â BBC Cymru.
Pam Astudio Perfformio, Dawns a Theatr Gerdd yn PCYDDS?
Spotlights

Cyfleusterau
Mae dewis astudio Perfformio, Dawns a Theatr Gerddorol gyda ni yn golygu dewis cyfleusterau gwych. O fannau stiwdio mawr, ystafelloedd perfformio a lloriau dawnsio yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin, i ofod gweithdy mawr ar gyfer myfyrwyr Dylunio Set ar gampws Caerfyrddin, bydd gennych bopeth sydd ei angen arnoch i lwyddo. Mae gennym hefyd labordai cyfrifiadurol ar gyfer ein myfyrwyr Technoleg Cerddoriaeth Greadigol yn Abertawe.