
Cyfleusterau Perfformio, Dawns a Theatr Gerddorol
Ein Cyfleusterau
Ein Cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau Perfformio, Dawns a Theatr Gerddorol wedi’u lleoli ar ein campysau yn Abertawe, Caerdydd a Chaerfyrddin ac maent yn cynnig amrywiaeth o weithdai arbenigol, cyfleusterau a mannau stiwdio.   
Our Facilities Include

Cyfleusterau Caerfyrddin
Mae gan fyfyrwyr sy’n astudio ar gampws Caerfyrddin fynediad at weithdai arbenigol a mannau stiwdio a hefyd maen nhw’n elwa ar brofiad trochol ar y campws lle mae popeth ar garreg y drws, ac i gyd o fewn taith fer ar droed i dref farchnad hyfryd Caerfyrddin.

Cyfleusterau Caerdydd
Mae ein myfyrwyr sy’n astudio yng Nghaerdydd wedi’u lleoli yn Nhŷ Haywood ac mae ganddyn nhw fynediad at nifer o stiwdios ymarfer, yn cynnwys stiwdio ddawns â llawr dawnsio Harlequin, drychau symudol a Barrau Bale ynghyd â system sain Yamaha a phiano llwyfan, ystafell ddatganiadau a labordy cyfrifiadurol i gyd o fewn taith fer ar droed i ganol y ddinas.

Ein Cyfleusterau yn Abertawe
I’n myfyrwyr sy’n astudio BA Technoleg Cerddoriaeth Greadigol yn Abertawe, mae’r cyfleusterau o fewn adeiladau Coleg Celf Abertawe yn cynnwys mynediad at Neuadd y BBC, stiwdios recordio o safon y diwydiant, cyfleuster cymysgu analog, a Stiwdio Gymysgu Dolby Atmos 9.1.4.
Oriel Gyfleusterau
Bywyd ar y Campws
Profiad a Chyfleusterau

Profiad a Chyfleusterau
Dysgwch ragor am y cyfleusterau sydd ar gael ar ein campysau.
O’r llyfrgell a mannau astudio i ddewisiadau o ran llety, cyfleusterau chwaraeon, caffis ac ati.
Dysgwch ragor am y profiad a chyfleusterau yn PCYDDS