Mae prosiect arloesol newydd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn ailddiffinio sut mae cymorth seicolegol ac emosiynol yn cael ei gyflwyno i unigolion sy’n byw gyda cholli breichiau neu goesau. Lansiwyd prosiect Cerdded yn Ein Hesgidiau gan Canolfan Seicoleg a Chwnsela PCYDDS mewn cydweithrediad â’r Limbless Association, elusen flaenllaw yn y DU a ariannwyd gan The VTCT Foundation. Mae’r elusen hon wedi bod yn cefnogi pobl sydd wedi colli breichiau neu goesau ers dros 40 o flynyddoedd gan gyfuno pŵer profiad byw ag arloesi digidol blaengar i gyd-greu adnoddau seico-gymdeithasol ystyrlon.
Croeso i’r Matrics Arloesi, adeilad ac eco-system newydd o’r radd flaenaf sy’n canolbwyntio ar arloesi digidol, yng nghanol Ardal Arloesi SA1 Abertawe.
Yn ddiweddar, cwblhaodd Elenya Moore, myfyriwr BA Addysg Antur Awyr Agored o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), leoliad cyffrous ym Mhrifysgol De - ddwyrain Norwy (USN). Aeth y profiad hwn â hi ar wahanol alldeithiau, yn amrywio o dirweddau wedi’u gorchuddio ag eira yng ngaeafau Nordig i daith caiacio haf ar hyd yr arfordir - antur a asesodd ei sgiliau arwain, ei gwydnwch a’i hangerdd am addysg awyr agored.