Bydd myfyrwyr o Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA) Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cyflwyno’r sioe gerdd bwerus Amazing Grace gan Mal Pope yn Theatr y Sherman, Caerdydd, ar 27 a 28 Mehefin 2025. Wedi’i chyfarwyddo gan Angharad Lee, mae’r cynhyrchiad yn adrodd hanes trawiadol Evan Roberts a’i rôl yn arwain Diwygiad Crefyddol Cymru ym 1904.