Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o fod wedi croesawu’n ôl Beth Thomas, un o raddedigion BA Rheolaeth Busnes, fel rhan o gyfres Sgyrsiau Cyflogwyr y Gwasanaeth Gyrfaoedd ym mis Mai. Yn un o raddedigion ein campws yn Abertawe, mae Beth wedi mynd ymlaen i adeiladu gyrfa lwyddiannus ym maes marchnata digidol a'r cyfryngau cymdeithasol, gan weithio gyda brandiau enwog gan gynnwys Deliveroo, Birchbox a TikTok.
Mae prosiect arloesol newydd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn ailddiffinio sut mae cymorth seicolegol ac emosiynol yn cael ei gyflwyno i unigolion sy’n byw gyda cholli breichiau neu goesau. Lansiwyd prosiect Cerdded yn Ein Hesgidiau gan Canolfan Seicoleg a Chwnsela PCYDDS mewn cydweithrediad â’r Limbless Association, elusen flaenllaw yn y DU a ariannwyd gan The VTCT Foundation. Mae’r elusen hon wedi bod yn cefnogi pobl sydd wedi colli breichiau neu goesau ers dros 40 o flynyddoedd gan gyfuno pŵer profiad byw ag arloesi digidol blaengar i gyd-greu adnoddau seico-gymdeithasol ystyrlon.