Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o fod wedi croesawu’n ôl Beth Thomas, un o raddedigion BA Rheolaeth Busnes, fel rhan o gyfres Sgyrsiau Cyflogwyr y Gwasanaeth Gyrfaoedd ym mis Mai. Yn un o raddedigion ein campws yn Abertawe, mae Beth wedi mynd ymlaen i adeiladu gyrfa lwyddiannus ym maes marchnata digidol a’r cyfryngau cymdeithasol, gan weithio gyda brandiau enwog gan gynnwys Deliveroo, Birchbox a TikTok. Introduction.

girl sitting smiling on a pink chair

Bellach yn gweithio fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cyfryngau Cymdeithasol yn y cwmni ymgynghori Frankly, dychwelodd Beth i rannu ei phrofiadau gyda myfyrwyr presennol, gan gynnig mewnwelediad i’r dirwedd ddigidol sy’n esblygu, adfyfyrdodau ar ei thaith bersonol, a chyngor ymarferol ar gyfer lansio gyrfa yn y diwydiant.

Wrth dyfu i fyny ym Merthyr Tudful yn Nghymoedd De Cymru, doedd prifysgol ddim wastad yn gam amlwg i Beth. “Yn yr ysgol, nid mynd i’r brifysgol oedd y ‘norm’ mewn gwirionedd,” meddai. “Cefais fy magu yn gwylio ffrindiau a theulu yn aros yn yr ardal i weithio. Doeddwn i ddim wir yn sylweddoli bod cymaint o gyfleoedd allan yno, heb sôn am y gallent fod yn rai i mi.”

Rhannodd Beth fod ei hamser yn PCYDDS wedi ‘newid bywyd’: “Roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n mynd i’r brifysgol i gael gradd, ond fe wnes i adael gyda chymaint mwy na hynny.” Rhwng ymarfer ei sgiliau rhwydweithio a gwthio ei hun y tu hwnt i’w ffiniau cyfforddus, darganfu angerdd a luniodd ei llwybr gyrfa yn y pen draw.

Bu bywyd myfyriwr yr un mor ddylanwadol â’i darlithoedd wrth lunio ei chyfeiriad. Fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr, rhedodd un o’i hymgyrchoedd llwyddiannus cyntaf gan ddefnyddio fideo firol Harlem Shake, gan sbarduno ei diddordeb yn sut y gallai cynnwys yrru ymgysylltu a dylanwadu ar ymddygiad.

Ar ôl graddio, lansiodd Beth ei blog harddwch a’i sianel YouTube ei hun ar adeg pan oedd y cyfryngau cymdeithasol yn dal i fod yn ofod datblygol. Gydag ychydig o rolau perthnasol yn ne Cymru ac interniaethau di-dâl y tu hwnt i gyrraedd, roedd y profiad hunan-ddechrau hwn wedi ei helpu i gael ei rolau cyntaf ym maes marchnata digidol.

Ers hynny, mae Beth wedi gweithio gyda rhai o’r brandiau defnyddwyr a thechnoleg mwyaf adnabyddus. Yn Deliveroo, arweiniodd strategaeth gymdeithasol a dylanwadwyr y DU ac Iwerddon. Yn TikTok, roedd hi’n rhan o’r tîm sefydlu Live ar gyfer Ewrop, gan helpu i ddatblygu un o feysydd cyflymaf ei dwf y platfform.

Trwy gydol ei sgwrs, adfyfyriodd Beth ar werth creu eich cyfleoedd eich hun, bod yn rhagweithiol, a pheidio ag aros am ganiatâd.

woman holding a microphone in front of backdrop that's branded 'TikTok Live'

Meddai:

Os ydych chi eisiau gweithio yn y cyfryngau cymdeithasol, dechreuwch nawr. Os oes gennych ffôn a safbwynt, mae gennych chi eisoes yr hyn sydd ei angen arnoch i ddechrau.”

Rhannodd Beth yn agored hefyd am yr heriau y mae hi wedi’u hwynebu - o syndrom y ffugiwr ac ofn siarad mewn cyfarfodydd, i gael ei gwrthod am swyddi di-rif ar hyd y ffordd. “Roedd pob ‘na’ yn rhoi gwell ymdeimlad i mi o bwy oeddwn i a beth oeddwn i eisiau,” meddai. “Ond mae’n rhaid i chi barhau i fynd.”

Heddiw, ochr yn ochr â’i rôl yn Frankly, mae Beth hefyd yn grëwr cynnwys llawrydd. Gyda miliynau o edrychiadau ar draws ei sianeli, mae’n dod â’i harbenigedd nid yn unig i frandiau byd-eang ond yn uniongyrchol i gynulleidfaoedd, gan greu cynnwys hygyrch, sy’n aml yn ddoniol am fywyd, gwaith a heriau modern.

O dref fechan yng Nghymoedd Cymru i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn y byd, ysbrydolodd Beth fyfyrwyr presennol PCYDDS gan ddangos y gall chwilfrydedd, gwaith caled, a pharodrwydd i roi cynnig ar rywbeth newydd agor drysau, ni waeth ble rydych chi’n dechrau. 

Roedd ei neges yn bwerus ac yn bersonol: “Doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw un yn y diwydiant hwn pan ddechreuais i. Doedd gen i ddim cysylltiadau. Ond fe wnes i weithio’n galed, creu pethau i mi fy hun, ac adeiladu rhwydwaith ar hyd y ffordd. Os gallaf i ei wneud, gallwch chi ei wneud hefyd.”


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;+447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon