Chwilio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
-
Mae academydd o'r Drindod Dewi Sant wedi rhoi tystiolaeth i ymchwiliad pwysig yn y DU i addysg uwchradd. Gwahoddwyd Gareth Evans, Cyfarwyddwr Polisi Addysg yn Yr Athrofa: Canolfan Addysg o fewn y brifysgol, i roi tystiolaeth i Bwyllgor Tŷ'r Arglwyddi ar Addysg ar gyfer Plant 11-16 oed mewn gwrandawiad ddydd Iau (Mehefin 15).
Type: Newyddion, â’r tagiau canlynolTagiau -
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cyrraedd y rhestr fer am y Rhaglen Addysgol Orau 2023, (categori Busnes Mawr) dan nawdd HIT Training, a Thîm Datblygu Talent y Flwyddyn 2023 dan nawdd Caterer.com yn y Gwobrau Lletygarwch byd-eang blynyddol gan y Sefydliad Lletygarwch, sy’n arddangos y gorau sydd gan y diwydiant i'w gynnig.
Type: Newyddion, â’r tagiau canlynolTagiau -
Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnal cynhadledd academaidd ‘Residuum’ rhwng 17 a 21 Gorffennaf yng Nghanolfan Ddylunio Alex yn Abertawe. Mae’r gynhadledd eleni, a drefnir gan y rhaglen Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio yn Abertawe, yn argoeli i fod yn ddigwyddiad diddorol sy’n ysgogi’r meddwl, gan ddod ag ysgolheigion, ac ymarferwyr celf a dylunio at ei gilydd o bob rhan o’r byd.
Type: Newyddion, â’r tagiau canlynolTagiau -
Mae ymchwil gan Dr Rebekah Humphreys o’r Drindod Dewi Sant, sy’n canolbwyntio ar sut mae’n bosibl dadsensiteiddio i’r defnydd o anifeiliaid ar gyfer ymchwil wyddonol, wedi cael sylw ar y podlediad gwyddoniaeth poblogaidd, ResearchPod.
Type: Newyddion, â’r tagiau canlynolTagiau -
Mae myfyrwyr Darlunio yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi bod yn cydweithio gyda Oasis, canolfan ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd, i greu murluniau artistig trawiadol.
Type: Newyddion, â’r tagiau canlynolTagiau -
Ar Ddydd Iau, 1af Mehefin 2023 ar stondin Prifysgol Y Drindod Dewi Sant ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin bydd Peniarth, un o brif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysg Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru, sy’n rhan o Ganolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol yn lansio cyfres newydd Mêts Maesllan 2 dan nawdd Llywodraeth Cymru.
Type: Newyddion, â’r tagiau canlynolTagiau -
Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Ajeenkya D Y Patil (ADYPU) yn arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Phrifysgol Ajeenkya D Y Patil (ADYPU) yn India wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i gyfnewid arbenigedd ym maes technoleg a systemau gofal iechyd
Type: Newyddion, â’r tagiau canlynolTagiau -
Mae Cymru Fyd-eang wedi lansio rhaglen fentora beilot dri-mis ar y cyd â T-Hub, campws arloesi busnesau newydd mwyaf y byd. Nod y fenter yw cefnogi a hybu'r diwydiant busnesau newydd yn Telangana, India drwy feithrin arloesedd, entrepreneuriaeth a chyfnewid gwybodaeth.
Type: Newyddion -
Mae Menter a Busnes wedi agor ail swyddfa yn Yr Atom yng Nghaerfyrddin.
Type: Newyddion, â’r tagiau canlynolTagiau- newyddion 2024
-
Mae darlithwyr Blynyddoedd Cynnar Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Paul Darby a Natasha Jones o Blentyndod, Ieuenctid ac Addysg, wedi cael ychydig ddyddiau gwych yn hyfforddi addysgwyr o Sir Benfro.
Type: Newyddion