Celf Gain Stiwdio, Safle a Chyd-destun

Cyflwyniad
Mae’r byd yn parhau i fod yn brofiad heriol, a braidd yn anesboniadwy wedi’i adeiladu ar ansefydlogrwydd ac ansicrwydd… AM LANAST! Natur y celfyddydau gweledol cyfoes yw bwrw ffocws clir ar y byd hwn; felly rydyn ni’n gweld adfywiad o egni adweithiol yn ein his-ddiwylliannau. Mae’r egni cadarnhaol hwn yn amlwg iawn ymhlith ein myfyrwyr yn 2025 ac mae eu cymuned a’u harddangosfa yn dyst iddo.
Yn y stiwdios cewch chi gliw hanfodol i’r egni hwn ac ymateb i ddryswch y byd, mae’n graidd sefydlogrwydd a chymuned, lle gwrandewir lleisiau unigol, gyda deialogau helaeth, a rhyddid i lefaru yn cael ei archwilio a’i ddathlu.
Mae AMESSWHA yn gyfuniad o eiriau, ingol a barddonol greadigol, sy’n cyfeirio at aflonyddwch byd-eang, Eton Mess a bwydlen tecawê ddewisol… i gofleidio AMESSWHA yn ei ymgorfforiad llawn rydych chi’n cymryd cyfran amrywiol o ddisgwrs beirniadol (mae pob alergedd yn cael ei ddarparu ar ei gyfer) sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yn ein myfyrwyr sy’n graddio.
Rydyn ni’n dymuno dyfodol cadarnhaol i’n myfyrwyr yn 2025 gyda’u lleisiau adweithiol a deinamig anuniongyrchol, gan ychwanegu at y frwydr fyd-eang i ddiogelu’r celfyddydau a’r rhyddid mynegiant.
Yr Athro Sue Williams
Ein Gwaith
‼«±è±ð²Ô&²Ô²ú²õ±è;°Â¾±»å±ð’&²Ô²ú²õ±è;
Gosodiad cyfrwng cymysg
“The ever-present watcher peering through the keyhole, peering through the keyhole in your own head, if nowhere else. You are a woman with a man inside watching a woman. You are your own voyeur.†- Margaret Atwood Y tu ôl i bob menyw mae gwagle sy’n llenwi popeth, sy’n barod i’w bwyta, wedyn i’w fwyta ei hun.

‘Looking Forward to the Weekend’
Gosodiad cerfluniol
Brechdan o eiconograffeg eglwysig ac estheteg tafarndai. Mae Cotter yn anelu at ddod o hyd i’r tir canol rhwng dau ofod sy’n ymddangos ar wahân, yr eglwys a’r dafarn.

‘A²õ²â²õ³Ù´Ç±ô±ð’&²Ô²ú²õ±è;
Gosodiad cyfrwng cymysg
Mae Robyn Evans wedi creu’r llinell benodol hon o waith er cof am ffrind orau Amy, a fu farw ym mis Medi 2023. Mae’r gwaith celf a gyflwynir yn yr arddangosfa hon yn portreadu’r unigrwydd a’r galar sy’n deillio o beidio â chael rhywun mor bwysig yno mwyach.

‘R¾±³Ù³Ü²¹±ô¾±²õ³Ù¾±³¦â€™&²Ô²ú²õ±è;
Gosodiad cyfrwng cymysg
Mae Hamblet yn archwilio’r cwlwm dwfn rhwng menywod a natur. Trwy wthio ffiniau a herio tabŵs, mae hi’n dathlu pŵer y corff benywaidd a chryfder ysbrydol y Ddaear.

‘H U S K’
Gosodiad cyfrwng cymysg
Hiraethlon, gwyrdroadol, estynnol, nychlyd. Mae’n glynu wrth y croen ac yn plicio i ffwrdd fel hen bapur wal mewn tÅ· sy’n cofio gormod. Pwytho gweddillion cof at ei gilydd - rhai bregus, rhai anhyblyg - sy’n llunio lleoedd sy’n bodoli rhwng cysur a chlawstroffobia, presenoldeb ac absenoldeb.

‘Time and Everything In Between’
Fideo, sain a ffilm Super 8
Gosodiad fideo sy’n archwilio amser, canfyddiad a chof. Mae gwaith Olejniczak gyda ffilm Super 8 sydd wedi dod i ben yn dod yn llestr ar gyfer gweithiau ysbrydol, dros dro sy’n meddu ar linynnau o bydredd ac atgofion.

‘M±ð°ù²µ±ð°ù’&²Ô²ú²õ±è;
Olew ar arwynebau cymysg
Effeithiau stiwdio.
/
Y cyfan am beth
/
O arfer anwybod.

‘Transparency Beyond Boundaries’
Acrylig ar Bersbecs
Mae gwaith Shoval yn gyfres o waith nad yw’n awgrymu unrhyw themâu penodol ond yn hytrach sy’n annog ei gynulleidfa i rannu eu barn i greu sgwrs amrywiol a ffurf barhaus o fynegiant

‘S²â²Ô³¦³ó°ù´Ç²Ô¾±³¦¾±³Ù²â’&²Ô²ú²õ±è;
Gosodiad cyfrwng cymysg
Mae Szczygiel yn datblygu ei hymarfer o amgylch y cysyniad o gadw unigrwydd pob bod dynol, sy’n dod yn sail i werth rhyddid. Mae canolbwyntio ar y broses yn dod yn naratif trawsnewidiol, gan ddefnyddio cyfryngau a deunyddiau cymysg sy’n ffurfio iaith gelf ryfeddol lle mae gan “y gair byw†rôl ganolog.

‘I’m Just a Girl’
Gosodiad cyfrwng cymysg
Symud trwy boen, pleser, anhrefn, ac aileni. Mae gwaith Athiwolf yn hanfod anhrefnus bod, heb ei hidlo. Mae’n siarad â’r ailadrodd di-baid o “slayy†a goroesi, o dorri a dod. Mewn byd sy’n ceisio diffinio a chyfyngu, datganiad diymhongar yw hwn o bresenoldeb, gwytnwch, a rhythm creulon hyfryd bod.

‘‘Wrong Way Up’
Gosodiad cyfrwng cymysg
Blas ar ddyfodol heb fodau dynol. Mae byd ôl-ddynol ymdrochol Warner wedi’i lenwi â deunyddiau domestig o dan olau UV. Mae ecoleg newydd wedi ei gwireddu lle mae’r deunyddiau hyn wedi dod at ei gilydd i ddod yn rhywbeth newydd.

‘03112001.´³±Ê·¡³Ò’&²Ô²ú²õ±è;
Cyfrwng cymysg
Yn chwarae gyda’r anallu i ddal yr hanfod dynol yn y peiriant; Mae sganiwr cludadwy a’i fersiynau o’r hunaniaeth y mae’n eu hystumio, mewn sgwrs gyson.

‘A³Ü²Ô³Ù¾±±ð&²Ô²ú²õ±è;µþ±ð±ð’&²Ô²ú²õ±è;
Gosodiad cyfrwng cymysg
Mae casgliad Wilkins o waith yn cloddio gwneud llwybrau clasurol, ffynhonnau sych a mannau llaith amhenodol, i archwilio natur gyson nodau atgenhedlu, dros dro.
