
Bydd ein cwrs Darlunio yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS yn addysgu sgiliau darlunio ac ymwybyddiaeth ddylunio’r byd go iawn i chi. Hefyd, mae’n darparu gwybodaeth a phrofiad o’r diwydiannau creadigol, gan eich helpu i ddilyn llwybr gyrfa llwyddiannus a chynaliadwy. Rydym yn eich annog i ddefnyddio ffyrdd o feddwl dargyfeiriol a chydgyfeiriol yn eich gwaith, yn annibynnol ac yn gydweithredol, mewn amgylchedd dysgu seiliedig ar arfer. Mae’r cwrs yn ffocysu ar y diwydiant ac yn darparu sgiliau trosglwyddadwy a rhagolygon cyflogaeth ardderchog.
Mae sgiliau entrepreneuraidd a menter yn rhan annatod o ddarlithoedd a gwaith cwrs er mwyn eich paratoi ar gyfer y diwydiant. Mae’r cwrs yn cwmpasu ystod o brosiectau sy’n cael eu seilio ar ddiwydiant sy’n mynd i’r afael â materion cymdeithasol, amgylcheddol a gwleidyddol, gan ymdrin â phynciau y byddwch yn siŵr o ddod ar eu traws yn broffesiynol.
Mae cysylltiadau gyda busnesau a diwydiant yn rhan hanfodol o’n rhaglen a chaiff y rhain eu cynnal a’u datblygu trwy brosiectau ‘byw’, lleoliadau gwaith, ymweliadau gan ymarferwyr proffesiynol ac ymweliadau addysgol. Mae’r cysylltiadau hyn yn sicrhau bod ein graddedigion yn gyflogadwy iawn ac wedi’u paratoi’n dda ar gyfer gwaith yn y diwydiannau creadigol. Mae llawer o’n graddedigion yn llwyddo mewn gyrfaoedd llawrydd, ac eraill yn dod o hyd i swyddi gyda stiwdios dylunio, tai cyhoeddi, asiantaethau hysbysebu, cylchgronau a phapurau newydd. Ymhlith ein cleientiaid nodedig mae Llyfrau Plant Usborne, Moonpig, Lego, Ymddiriedolaethau GIG, Marks & Spencer, Tigerprint, Yr Amgueddfa Brydeinig, a Lush Cosmetics.
Trwy gydol eich taith greadigol, byddwch yn archwilio arfer darlunio gan ddefnyddio cyfryngau traddodiadol a digidol. Mae’r cwrs yn cynnig gofod stiwdio pwrpasol lle cewch arbrofi a mireinio eich iaith weledol. Cewch gyfleoedd i arddangos eich gwaith mewn arddangosfa diwedd blwyddyn, a fydd yn rhoi i chi’r profiad sydd ei angen i ymuno â’r byd proffesiynol.
Mae ein cyfleusterau wedi’u cynllunio i gefnogi ystod eang o ddeunyddiau a phrosesau ar gyfer gwaith traddodiadol a digidol. Mae gennym Stiwdios Darlunio bywiog, stiwdio gwneud printiau ar gyfer Lino, Printio Sgrin, Ysgythru a Cholagraff a stiwdio argraffwaith gyda pheiriannau argraffwaith Adana ac offer gwneud llyfrau. Gallwn hefyd gynnig Printio Risograff ac offer torri â laser. Mae ein hystafell darlunio digidol yn cynnwys cyfrifiaduron iMac, tabledi Wacom, a sgriniau Cintiq, sy’n cynnwys pecynnau meddalwedd allweddol fel Photoshop, Illustrator, InDesign, ac After Effects.
Nod ein cwrs yw datblygu eich arfer proffesiynol trwy arbrofi a defnyddio technegau darlunio traddodiadol a chyfoes. Byddwch yn gweithio ar ddarluniau ar gyfer llyfrau plant a phrosiectau eraill, gan ddatblygu sgiliau hanfodol ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes darlunio.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Ar y campws
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Ein Hathroniaeth
Mae ein hathroniaeth addysgu yn cynnig rhyddid i fyfyrwyr ddewis ym mha ffordd yr hoffent ddatblygu eu harfer darlunio - boed hynny drwy ddulliau traddodiadol, technegau digidol neu gyfuniad o’r ddau. Rydym yn cefnogi ac ysbrydoli grwpiau sy’n ddigon mawr i gynhyrchu egni torfol, ond yn ddigon bach i sicrhau hyfforddiant unigol a sylw personol gan feithrin creadigrwydd unigol o fewn amgylchedd dysgu cefnogol, wedi’i seilio ar arfer.
Ategir ein harddull a arweinir gan brosiectau gan weithdai seiliedig ar sgiliau sy’n cyfoethogi gallu technegol ac ymholi creadigol. Ein nod yw datblygu sgiliau entrepreneuraidd ac arfer proffesiynol sy’n eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiannau creadigol.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen mewn arfer darlunio. Byddwch yn archwilio cyfryngau traddodiadol a digidol, gan ddatblygu sgiliau arlunio, gwneud printiau, a darlunio digidol. Byddwch yn astudio modylau sy’n cwmpasu pynciau fel gwneud delweddau, astudiaethau gweledol, a darlunio golygyddol. Rhoddir pwyslais ar ddeall a defnyddio iaith weledol i fynd i’r afael â gwahanol brosiectau wedi’u seilio ar ddiwydiant.
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar fireinio eich arfer darlunio trwy arbrofi gyda gwahanol dechnegau a chyfryngau. Byddwch yn ymgysylltu â dysgu seiliedig ar arfer, gan weithio ar brosiectau sy’n ymdrin â materion cymdeithasol, amgylcheddol a gwleidyddol. Caiff sgiliau entrepreneuraidd eu datblygu trwy ddarlithoedd a gwaith cwrs a fydd yn eich helpu i adeiladu eich brand personol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn gweithio ar brosiectau uwch, sy’n arwain at arddangosfa blwyddyn olaf a sioe graddio. Mae’r flwyddyn hon yn pwysleisio arfer proffesiynol annibynnol, gan eich galluogi i arbenigo yn eich dewis faes. Byddwch yn cwblhau prosiect annibynnol ac yn datblygu portffolio graddedig er mwyn eich paratoi ar gyfer gwaith yn y diwydiannau creadigol.
(20 credydau)
(40 credydau)
(60 credydau)
Course Page Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Facilities & Exhibitions
Cyfleusterau ac Arddangosfeydd
Mae’r adran Ddarlunio yn llawn offer i archwilio ystod eang o ddefnyddiau a phrosesau ar gyfer gwaith traddodiadol a digidol.

Mae ein Sioeau Haf yn arddangos gwaith eithriadol ein myfyrwyr sy’n graddio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol.

Cwrdd â’n Myfyrwyr
Cwrdd â’n Myfyrwyr
Newyddion
Newyddion
Gwybodaeth allweddol
-
120 o bwyntiau tariff UCAS 
-
e.e. Safon Uwch: ABB, BTEC: DDM, IB: 33 a Phortffolio
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs dan sylw. Caiff eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio gwaith.
°Õ³Ò´¡±«â€¯
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;
Llwybrau mynediad amgen 
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:
-
– Tystysgrif mewn Addysg Uwch (CertHE).
Cwrs blwyddyn yw hwn sy’n cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i gelf a dylunio, gan sefydlu sail gadarn i’ch dyfodol creadigol. Yn ystod y cwrs, byddwch yn ymwneud ag ystod eang o ddisgyblaethau artistig a meysydd dylunio, gan eich helpu i ddarganfod eich diddordebau a mireinio eich sgiliau.  
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Cyfweliad
Mae’n ofynnol i holl ymgeiswyr Coleg Celf Abertawe gael cyfweliad.
Rydym yn mwynhau’r broses gyfweld yn fawr, gan ddod i’ch adnabod chi a’ch gwaith, ac rydym yn teimlo mai dyma’r ffordd orau i ddod o hyd i’r myfyrwyr iawn i’n rhaglenni. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod gan ein hymgeiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud y dewis iawn iddyn nhw hefyd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn eich cyfweliad, cysylltwch â ni yn artanddesign@uwtsd.ac.uk
Portffolio
Gofynnwn i chi ddod â phortffolio o beth gwaith o’r gorffennol ac yn gyfredol. Eich portffolio yw casgliad o’ch gwaith mwyaf cyffrous a chynrychiadol, gan arddangos eich galluoedd creadigol, sgiliau technegol, a gweledigaeth artistig. Mae’n adrodd stori eich taith greadigol, gan roi sylw i’ch arddull, diddordebau, a syniadau unigryw wrth iddyn nhw ddatblygu. Rydym yn dehongli’r term ‘portffolio’ yn eang ac yn hapus i chi wneud yr un peth. Gall hyn gynnwys darnau gorffenedig, gwaith ar ei hanner, llyfrau braslunio, lluniadau, a phrosiectau sy’n parhau i ddatblygu, am fod y rhain yn rhoi cipolwg i ni ar eich proses feddwl a chreadigol. P’un a ydyn nhw mewn fformat ffisegol neu ddigidol, mae’ch portffolio’n gyfle i arddangos eich taith greadigol mewn ffordd sy’n teimlo’n ddilys i chi, gyda phob darn yn rhoi sylw i’ch potensial creadigol a’ch brwdfrydedd dros y rhaglen rydych yn gwneud cais amdani.
Rydym yn deall bod llawer o ymgeiswyr yn parhau i fod ar ganol eu cymwysterau (e.e. Safon Uwch, BTEC, L3, Sylfaen) ac yn datblygu corff o waith, felly nid oes pwysau i bopeth fod wedi’i gwblhau nac yn gaboledig.
-
Ar ddechrau pob modwl, byddwn yn cyhoeddi’r ‘Manyleb Asesu’, sy’n disgrifio’n glir, ym mhob maen prawf asesu, yr hyn sy’n ofynnol.
Mae sesiynau adborth wythnosol yn galluogi i fyfyrwyr ffocysu ar y gofynion, heb amharu ar y rhyddid i allu ehangu ar syniadau.
Fel arfer, cyflwynir hyfforddiant technegol trwy ddarlith arddangos ac yna bydd staff yn helpu pob myfyriwr yn unigol wrth iddynt symud ymlaen trwy her.
Ceir adborth ffurfiannol a chrynodol ar gyfer pob modwl, mewn ysgrifen ac ar lafar. Pan gaiff yr adborth crynodol ei ryddhau, gall myfyrwyr drefnu tiwtorial ‘un i un’ i drafod eu hadborth ymhellach.
Nid oes arholiadau ysgrifenedig ar gyfer y cwrs hwn.
-
Mae’r holl gostau ychwanegol a nodir yn yr adran hon yn ddangosol. Er enghraifft, rydym yn cydnabod y gallai’r union gostau sy’n gysylltiedig â thaith maes amrywio o flwyddyn i flwyddyn.
Gorfodol
- Cyfradd myfyrwyr Adobe Suite: £120 y flwyddyn, ond yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd mewn clwstwr gan Y Drindod Dewi Sant.
Costau Angenrheidiol
- Portffolio A3: £20
- Casgliad o offer – fflaim, pren metel, llewys plastig, gyriant caled, cof bach, beiros, pensiliau, marcwyr: £70
- Cyflenwadau celf darlunio: £100
- ²Ñ²¹³¦µþ´Ç´Ç°ì:&²Ô²ú²õ±è;£1500
- Costau argraffu: £200
- Llyfrau braslunio: £40.
Dewisol
- Teithiau Myfyrwyr: £200 i £500.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael ewch i’n hadran ar Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
-
Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.
-
Bydd llawer o raddedigion yn llunio gyrfaoedd llawrydd llwyddiannus gan weithio gydag ystod o gleientiaid yn rhyngwladol; mae rhai ohonynt yn cael eu cynrychioli gan brif asiantaethau Darlunio Llundain.
Mae graddedigion eraill yn dod o hyd i waith gyda stiwdios dylunio, tai cyhoeddi, asiantaethau hysbysebu, cylchgronau a phapurau newydd. Ymhlith y cleientiaid mae:
- Usborne Children’s Books
- Moonpig
- Lego
- Ymddiriedolaeth GIG
- Allihoper Greeting Cards
- Marks & Spencer
- The Great British Card Company
- Tigerprint, Bright Agency
- Cwmn Cyhoeddi Graffeg
- Tokyo DisneySea Park
- Cylchgrawn Welsh Country
- Bay Studios
- The British Museum
- Magic Leap Inc. Visible Art
- Lush Cosmetics
- The Print Haus
- Astra Games
- Locksmith Animation
Hefyd, mae’r rhaglen yn darparu sylfaen da ar gyfer y rheiny sydd eisiau dilyn gyrfa ym maes addysgu, yn arbennig addysgu celf a dylunio mewn ysgolion ac, ar ôl profiad proffesiynol, addysgu darlunio a dylunio mewn sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch.