ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Ein Cyfleusterau

Ein Cyfleusterau 

Mae ein cyfleusterau Ffilm, Cyfryngau ac Animeiddio ar gampysau Abertawe a Chaerfyrddin ac mae ganddynt amrywiaeth o weithdai arbenigol ac offer ar gyfer myfyrwyr. 

Our Facilities Include

Mae grŵp o fyfyrwyr yn sefyll mewn Ystafell Drochi yn edrych ar y waliau digidol sy’n dangos delweddau dramatig o’r awyr agored.

Cyfleusterau Gwneud Ffilmiau Antur a Chyfryngau Digidol Caerfyrddin

Yng Nghaerfyrddin, mae ein cyrsiau ffilm a chyfryngau yn trochi myfyrwyr yn y diwydiannau creadigol cyfoes. Trwy integreiddio technegau sydd wedi hen ennill eu plwyf yn y diwydiant gyda thechnolegau newydd, bydd myfyrwyr yn datblygu ystod eang o sgiliau academaidd a chynhyrchu. 

Bydd gan fyfyrwyr fynediad i’n hystafell sgrinio trochi Samsung arloesol, yn ogystal ag ystafell Apple Mac sydd â monitorau 4K mawr a meddalwedd Adobe Creative Cloud. Hefyd, mae mannau creadigol yno fel Y Llwyfan, Ystafell Sgrin Werdd, Ystafell Olygu Ôl-gynhyrchu, a chyfleusterau sgrinio. 

Mae dyn ifanc yn sefyll y tu ôl i gamera ffilm ar drybedd; mae dyn ifanc arall yn paratoi i gau'r ffon ar glepiwr i arwyddo dechrau.

Cyfleusterau Ffilm a Theledu Abertawe

Yn fyfyriwr BA Ffilm a Theledu, bydd gennych fynediad i adnoddau o’r radd flaenaf, a gan fod gennym bartneriaid lleoliad yn Abertawe a’r cyffiniau byddwch yn ffilmio ar leoliad yn rheolaidd. 

Mae ein hoffer yn cynnwys Camera Sinema RED (RED ONE), Camera safon Netflix (C70), amrywiaeth o gamerâu ‘cine’ gan Blackmagic a Sony, DSLRs, ystod o lensys o rai o’r oes a fu i rai anamorffig safon Hollywood, offer recordio sain proffesiynol, ystafell sgrin werdd, goleuadau ar gyfer y llwyfan a’r sgrin, offer symudiad, a lleoliadau ffrydio teledu/byw. 

Ystafell ddosbarth gemau cyfrifiadurol ac animeiddio gyda waliau wedi’u haddurno, seddi ergonomig a monitorau mawr; mae darlithydd yn siarad, gan sefyll o flaen sgrin fawr.

Cyfleusterau Animeiddio a VFX a Dylunio Gemau Creadigol Abertawe

Mae ein rhaglenni Dylunio Gemau Creadigol yn cynnig mannau pwrpasol sydd â systemau cyfrifiaduron personol ansawdd uchel fel Unreal Engine 5, Substance Painter, Autodesk Maya, a ZBrush. Yma, bydd myfyrwyr yn plymio i mewn i ddylunio amgylchedd 3D, sgriptio gweledol gan ddefnyddio Unreal Engine, modelu cymeriadau, a chreu gwead, a hynny oll wrth adeiladu portffolios personol.  

Bydd myfyrwyr Animeiddio a VFX Abertawe yn gweithio gyda meddalwedd o safon diwydiant fel NUKE, Houdini 3D, MAYA, Adobe After Effects, a Substance Paint. Maent yn dysgu i fynd o oleuo corfforol i ddigidol yn Maya, gan greu golygfeydd 3D gan ddefnyddio delweddu ffotogrametreg HDRI. Hefyd, mae’r rhaglen yn cynnwys mynediad i gyfleusterau sgrin werdd, camerâu sinema DSLR, ac offer sain ar gyfer recordio maes, gan sicrhau hyfforddiant cynhwysfawr mewn effeithiau gweledol. 

Oriel Gyfleusterau  

Bywyd ar y Campws

Profiad a Chyfleusterau 

Trwy ddefnyddio ei ffôn, mae dynes ifanc yn ffilmio myfyriwr gwrywaidd yn chwarae gitâr acwstig.

Profiad a Chyfleusterau

Dysgwch ragor am y cyfleusterau sydd ar gael ar ein campysau. 

O’r llyfrgell a mannau astudio i ddewisiadau o ran llety, cyfleusterau chwaraeon, caffis a rhagor.