
Ffilm, Cyfryngau ac Animeiddio
Bydd ein rhaglenni Ffilm, Cyfryngau ac Animeiddio yn eich dysgu i drosi’ch gweledigaeth yn wirionedd. Ein nod yw rhoi addysg gynhwysfawr i chi ym meysydd creu ffilmiau, animeiddio, dylunio gemau cyfrifiadurol a mwy. Byddwch yn meithrin sgiliau technegol, galluoedd creadigol a gwybodaeth eang am y diwydiant.
Gyda’n cysylltiadau cydweithredol â’r diwydiant, cewch gyfuno astudiaethau academaidd gyda phrofiad ymarferol ac archwilio cyfleoedd cyfoes drwy gydol y rhaglen. Byddwch yn datblygu’r holl sgiliau creadigol a thechnolegol y bydd arnoch eu hangen i ffynnu yn y byd Ffilm, Cyfryngau ac Animeiddio go iawn.
Rydym eisiau cynnig cyfleoedd cryf a chynaliadwy i chi ehangu eich portffolio trwy eich cefnogi â phrofiadau ymarferol. Cewch amrywiaeth o gyfleoedd mewn lleoliadau yn y byd go iawn, gan gynnwys ar gynyrchiadau ac mewn gwyliau ffilm. Bydd y cyfleoedd yn adlewyrchu’r hyn y gallech ei ddisgwyl yn y gweithle, a byddan nhw’n gwella eich cyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiant. Cewch ddysgu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eich helpu i ennill eich cymhwyster, yn ogystal â’ch helpu i ddatblygu’r yrfa rydych chi wedi breuddwydio amdani.
Dewch yn aelod o’n teulu ni, gyda darlithwyr cyfeillgar a chefnogol sy’n eich adnabod chi’n bersonol, ac a fydd yn eich galluogi a’ch cefnogi i fanteisio ar gyfleoedd yn ystod eich astudiaethau. Mae ein darlithwyr yn weithwyr proffesiynol profiadol sy’n angerddol am addysgu a mentora’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilm, y cyfryngau ac animeiddwyr. Cewch ennill sgiliau diwydiant a fydd yn eich paratoi am ystod eang o gyfleoedd gyrfa yn y diwydiant creadigol.
Pam astudio Ffilm, Cyfryngau ac Animeiddio gyda PCYDDS?
Spotlights

Cyfleusterau
Mannau penodedig i fyfyrwyr a stiwdios dylunio gyda phopeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo. Mynediad i stiwdio gemau cyfrifiadurol bwrpasol gyda chaledwedd o’r radd flaenaf, a mynediad i gyfarpar o ansawdd uchel i chi arbrofi ag ef. Dylunio gyda’r dyfodol mewn golwg gyda sgrin werdd cynhyrchu animeiddiadau ac ystafell drochi newydd sbon. Gyda’r cyfleusterau cywir, mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd.