Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol (Llawn amser) (DipAU)
Mae ein Diploma Addysg Uwch Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol (DipAU) yn cynnig cyfuniad diddorol o brofiad academaidd ac ymarferol, wedi’i gynllunio i’ch helpu i feithrin sgiliau a gwybodaeth graidd ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant digwyddiadau.
Mae’r rhaglen ddwy flynedd hon yn canolbwyntio ar elfennau hanfodol rheolaeth digwyddiadau, gyda chyrsiau sy’n cwmpasu Gwyliau, Digwyddiadau Chwaraeon, Cynadleddau, Priodasau a mwy. Trwy’r cwricwlwm hwn, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o weithrediadau digwyddiadau ac yn cael mewnwelediad i sut i weithio’n greadigol ac yn effeithiol mewn amrywiaeth o gyd-destunau digwyddiadau.
Byddwch yn archwilio pynciau allweddol fel effeithiau ac etifeddiaethau digwyddiadau, ymgysylltu â rhanddeiliaid, cwmpasu a chynllunio, cyllido a marchnata digwyddiadau. Mae’r cyrsiau hyn yn darparu’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i reoli digwyddiadau yn hyderus ac i lywio’ch ffordd trwy’r diwydiant digwyddiadau byd-eang. Mae’r rhaglen hefyd yn ymdrin â materion cynaliadwyedd digwyddiadau, gan eich galluogi i ymgorffori arferion cyfrifol yn eich gwaith.
Caiff y cwrs ei asesu’n gyfan gwbl drwy waith cwrs, gan ganolbwyntio ar aseiniadau ymarferol ac wedi’u seilio ar ddiwydiant. Byddwch yn ennill profiad ymarferol mewn meysydd fel cynllunio a chynhyrchu digwyddiadau, marchnata digwyddiadau, rheoli prosiectau, a rheoliadau diogelwch a thrwyddedu, gan eich paratoi i gymhwyso’ch sgiliau’n uniongyrchol yn y maes.
Erbyn diwedd y rhaglen diploma hon, byddwch yn barod i ymuno â’r diwydiant rheolaeth digwyddiadau gyda sylfaen gadarn mewn cyllid digwyddiadau, ymgysylltu â’r gymuned, a’r sgiliau hanfodol i gefnogi digwyddiadau lleol a rhyngwladol. Mae’r DipAU hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n angerddol am ddigwyddiadau ac yn awyddus i ddechrau gyrfa yn y maes deinamig hwn.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae digwyddiadau a gwyliau yn allweddol wrth annog datblygiad economaidd a chymdeithasol ar gyfer dinasoedd a chyrchfannau, ac mae galw mawr am weithwyr proffesiynol digwyddiadau medrus. Mae’r rhaglen dwy flynedd DipAU hon wedi’i chynllunio i roi sylfaen gref i chi yn y diwydiant digwyddiadau, gyda ffocws ar brofiad ymarferol a mewnwelediadau diwydiant i ddatblygu eich sgiliau creadigol a rheoli.
Fe gewch ddealltwriaeth gadarn o sut mae’r diwydiant digwyddiadau wedi’i strwythuro, gyda ffocws penodol ar letygarwch a gwasanaethau gwesteion, sy’n hanfodol er mwyn creu profiadau cofiadwy mewn digwyddiadau o bob math.
Mae’r rhaglen yn hynod ymarferol, gan gynnig cyfleoedd i chi gynllunio a rheoli digwyddiadau byw, ymweld â gweithrediadau y tu ôl i’r llenni, a chymryd rhan mewn lleoliadau â thâl a chyfleoedd gwirfoddoli i ennill profiad uniongyrchol o’r diwydiant.
Byddwch yn archwilio rôl marchnata a chyfryngau cymdeithasol wrth hyrwyddo digwyddiadau, gan ddysgu sut i gysylltu â chynulleidfaoedd a hybu ymgysylltiad ar gyfer digwyddiadau llwyddiannus.
Drwy gydol y cwrs, fe gewch gyfleoedd i ymgysylltu ag arweinwyr y diwydiant a graddedigion mewn cyfarfodydd rhithwir, cymryd rhan mewn ymweliadau digidol neu fyw â’r diwydiant, ac ymgymryd â phrosiectau sy’n darparu profiad ymarferol. Yn ogystal, bydd profiadau dysgu yn DU a thramor yn ehangu eich dealltwriaeth o reolaeth digwyddiadau byd-eang, a gallwch ddilyn cymwysterau perthnasol i’r diwydiant fel tystysgrifau ABTA a Masnach Teithio neu Hyfforddiant Gwin WSET (gall ffioedd ychwanegol fod yn daladwy).
Fel myfyriwr DipAU, byddwch hefyd yn rhan o’r Sefydliad Lletygarwch, a bydd gennych fynediad i’r Sefydliad Teithio a Thwristiaeth, gan gyfoethogi’ch cysylltiadau a’ch gwybodaeth yn y maes.
Yn y flwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i hanfodion Rheolaeth Digwyddiadau, gyda phwyslais ar letygarwch, twristiaeth a deall effeithiau economaidd digwyddiadau ar economïau lleol. Byddwch yn meithrin sgiliau sylfaenol ym meysydd gweithrediadau digwyddiadau, marchnata a rheoli prosiectau, gan ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaeth bellach.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credyd)
(20 Credyd)
Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn dyfnhau eich arbenigedd gyda ffocws ar bynciau uwch mewn marchnata digwyddiadau, llwyfannu, cynhyrchu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae’r flwyddyn hon yn pwysleisio profiad ymarferol, gydag aseiniadau ymarferol i wella eich gallu i gynllunio a chynnal digwyddiadau llwyddiannus. Byddwch hefyd yn ennill dealltwriaeth ehangach o’r diwydiant digwyddiadau byd-eang ac arferion cynaliadwy.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credyd)
Course Page Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
44 o bwyntiau tariff UCAS 
-
e.e. Safon Uwch: D, BTEC: PP, IB: 27
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;
°Õ³Ò´¡±«â€¯
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;
Llwybrau mynediad amgen 
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau DipAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r flwyddyn sy’n weddill o’r radd baglor. &²Ô²ú²õ±è;
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;
-
-
Caiff y rhaglen ei hasesu trwy gyfuniad strwythuredig o asesiadau ymarferol, digwyddiadau, lleoliadau, astudiaethau achos, archwiliadau, ymarferion hyfforddi, adroddiadau rheoli, cyflwyniadau, traethodau, adolygiadau digwyddiadau, DVD/fideos, flogiau/blogiau, astudiaethau dichonoldeb, prosiectau, cyflwyniadau cynnig a’r cyfle i gynllunio, trefnu ac asesu teithiau digwyddiadau a phrofiadau.
Ble bynnag y bo modd, llunnir asesiadau i ddatblygu sgiliau proffesiynol yn ogystal â datblygu meddwl beirniadol, arweinyddiaeth, rheolaeth digwyddiadau, gwasanaeth gwesteion a gwaith tîm wrth baratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y digwyddiadau. NI fydd arholiadau ar y cwrs hwn.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r deunyddiau sylfaenol sy’n angenrheidiol i fyfyrwyr ymgymryd â’u modylau.
Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yn cael costau ychwanegol yn gysylltiedig â theithiau maes. O flwyddyn i flwyddyn mae’r costau hyn yn amrywio o £25 ar lefel 4, i £500 ar lefel 5 a hyd at £1,000 ar lefel 6, fodd bynnag mae’r rhain i gyd â chymhorthdal.
-
Mae bwrsarïau datblygu gyrfa hyd at £1,000 ar gael i fyfyrwyr i gefnogi lleoliadau, interniaethau a gwirfoddoli mewn digwyddiadau. Efallai y bydd myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am y Prosiect Darganfod er cefnogi Symudedd Rhyngwladol i gefnogi Profiadau Lleoliadau Rhyngwladol byr.
Ewch i’n hadran Scholarships and Bursaries i ddysgu rhagor.
-
- Rheolwr Digwyddiadau
- Cyfarwyddwr Digwyddiadau
- Rheolwr Gwyliau
- Diogelwch Digwyddiadau
- Rheolwr Marchnata
- Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus
- Rheolwr Digwyddiadau a Lleoliadau Chwaraeon
- Rheolwr Prosiectau
- Cydlynydd Priodasau