Lletygarwch a Rheoli Gwestai (BA Anrh)
Mae ein gradd Lletygarwch a Rheolaeth Gwestai wedi’i chynllunio i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau, yr hyder a’r wybodaeth am y diwydiant sydd eu hangen arnoch i adeiladu gyrfa lwyddiannus yn un o feysydd mwyaf dynamig y byd. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddysgu gydol oes a thwf personol, gan eich arfogi i feddwl yn greadigol a gweithio gyda gwreiddioldeb mewn sector sy’n newid yn barhaus.
Fel myfyriwr, byddwch yn meithrin dealltwriaeth gref o’r hyn sydd ei angen i reoli busnesau lletygarwch, gyda hyfforddiant sy’n ymdrin â hanfodion rheolaeth lletygarwch, rheolaeth gwestai, ac anghenion gwesteion gwestai. Bydd ein cwrs hefyd yn archwilio effaith lletygarwch rhyngwladol ac yn rhoi cyfle i chi adfyfyrio ar rôl cynaliadwyedd yn y diwydiant byd-eang hwn.
Bydd y rhaglen hon yn datblygu eich sgiliau rheoli ac yn eich helpu i feithrin arbenigedd mewn meysydd allweddol fel rhesymu beirniadol, dadansoddi a chreadigrwydd. Mae’r sgiliau hyn yn amhrisiadwy pan fyddwch yn rheoli cyfrifoldebau cymhleth lletygarwch. Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn barod i gynnig rhagoriaeth mewn gwasanaethau cwsmeriaid sy’n gwneud i chi sefyll allan mewn marchnad swyddi gystadleuol.
Nodwedd unigryw o’n cwrs yw ei ffocws cryf ar hyfforddiant ymarferol. Er mwyn eich paratoi ar gyfer realiti’r gweithle, byddwch yn cwblhau lleoliad profiad yn y diwydiant gorfodol mewn gwesty yn y DU, gan roi’r cyfle i chi gymhwyso’ch dysgu mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Mae’r lleoliadau a’r interniaethau hyn yn eich galluogi i gael mewnwelediadau gwerthfawr ar waith y diwydiant lletygarwch a rhoi eich sgiliau proffesiynol ar waith.
Drwy gydol y rhaglen, byddwch hefyd yn archwilio rheolaeth a marchnata sefydliadau ym maes lletygarwch ac yn datblygu dealltwriaeth o sut mae ffactorau lleol, cenedlaethol a byd-eang yn effeithio ar y diwydiant. Erbyn i chi raddio, bydd gennych ddealltwriaeth systematig o’r amgylchedd busnes a byddwch yn barod i wneud penderfyniadau gwybodus.
Gyda chyfleoedd dysgu ychwanegol, fel darlithoedd gwadd gan arbenigwyr diwydiant a mynediad posibl at Achrediad y Sefydliad Lletygarwch, mae’r radd hon yn darparu sylfaen gynhwysfawr. Mae graddedigion y rhaglen hon yn weithwyr proffesiynol hyderus, medrus sy’n gallu addasu i leoliadau amrywiol yn y diwydiant gwestai a lletygarwch.
Ein nod yw eich paratoi nid yn unig ar gyfer gyrfa lwyddiannus ond hefyd i ddod yn ddinesydd byd-eang sy’n gwerthfawrogi twf proffesiynol a phersonol.
Manylion y cwrs
- Cyfunol (ar y campws)
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein cwrs Lletygarwch a Rheolaeth Gwestai yn cyfuno dysgu ymarferol â meddwl yn feirniadol, gan ganolbwyntio ar sgiliau proffesiynol a phrofiad yn y diwydiant. Trwy senarios diddorol o’r byd go iawn, rydym yn eich helpu i feithrin gwybodaeth hanfodol ar gyfer y diwydiant lletygarwch.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio sylfeini lletygarwch a rheolaeth gwestai, gan gwmpasu meysydd fel profiad cwsmeriaid, rheolaeth busnes, a strwythur y diwydiant lletygarwch. Byddwch yn ennill sgiliau rhagarweiniol mewn gwasanaethau cwsmeriaid ac yn datblygu dealltwriaeth sylfaenol o’r hyn sy’n gwneud rheolaeth lletygarwch lwyddiannus. Mae’r flwyddyn hon yn darparu’r blociau adeiladu hanfodol ar gyfer eich astudiaethau a’ch gyrfa yn y dyfodol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau rheoli a dyfnhau eich dealltwriaeth o weithrediadau lletygarwch. Mae pynciau allweddol yn cynnwys rheoli adnoddau dynol, marchnata, ac effeithiau’r amgylchedd allanol ar reolaeth gwestai. Byddwch hefyd yn ennill profiad yn y diwydiant trwy fodylau ymarferol a lleoliadau sy’n cryfhau eich dealltwriaeth o’r byd go iawn, gan roi mewnwelediadau i chi ar agweddau gweithredol a strategol busnesau lletygarwch.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(60 Credyd)
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn mireinio’ch arbenigedd ac yn datblygu sgiliau arbenigol mewn lletygarwch rhyngwladol, ansawdd gwasanaeth, a rheolaeth strategol. Mae’r flwyddyn hon yn rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth ac yn eich paratoi ar gyfer rolau lefel uchel trwy brosiectau uwch ac interniaethau. Gyda chymorth darlithwyr gwadd ac arbenigwyr yn y diwydiant, byddwch yn cwblhau eich astudiaethau gyda gwybodaeth gref, gyflawn o’r sector lletygarwch a gwestai a pharodrwydd ar gyfer y farchnad fyd-eang.
(20 credydau)
(20 Credyd)
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credyd)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
88 o bwyntiau tariff UCAS.
-
e.e. Safon Uwch: B/A, BTEC: DMM, IB: 29
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;
°Õ³Ò´¡±«â€¯
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;
Llwybrau mynediad amgen 
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried: 
-
‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.  
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. &²Ô²ú²õ±è;
-
Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser. &²Ô²ú²õ±è;
 Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. &²Ô²ú²õ±è;
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;
-
-
Caiff y rhaglen Lletygarwch a Rheoli Gwestai ei hasesu trwy amrywiaeth o ddulliau ymarferol a seiliedig ar waith cwrs a luniwyd i ddatblygu sgiliau proffesiynol ac academaidd. Mae’r elfennau asesu’n cynnwys astudiaethau achos, lleoliadau ymarferol, adroddiadau rheoli, cyflwyniadau, traethodau, cynlluniau busnes, astudiaethau dichonoldeb, gwerthusiadau gwasanaeth gwesteion, ac adroddiadau adfyfyriol. Nod yr asesiadau hyn yw meithrin meddwl beirniadol, arweinyddiaeth, gwasanaeth gwesteion, a sgiliau rheoli hanfodol i lwyddo yn y diwydiant lletygarwch. Mae’r rhaglen yn gwbl ddi-arholiad, gan ffocysu ar dasgau’r byd go iawn, sy’n berthnasol i’r diwydiant ac yn adlewyrchu’r heriau a wynebir gan ymarferwyr proffesiynol lletygarwch.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Mae’n hanfodol bod gan bob myfyriwr fynediad i liniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith ar gyfer dysgu ar-lein a chyswllt band eang addas.
Yn ystod y cwrs gradd hwn, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i fynd ar sawl taith maes yn y DU a thramor. Rydym yn ceisio cadw costau teithiau maes mor isel â phosibl ac mae llawer ohonynt yn derbyn cymhorthdal sylweddol gan y Brifysgol.​
Nid yw’r costau i fyfyrwyr ar gyfer teithiau yn y DU yn fwy na £100 yn ystod y flwyddyn academaidd. Ein nod yw cadw’r gost o dan £500 ar gyfer teithiau tramor ac maen nhw’n deithiau dewisol.​
Ar gyfer teithiau maes dramor, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i dalu amdanynt fesul cam i leihau’r baich ariannol.​ Fel arfer rydym yn disgwyl i’r taliad terfynol ar gyfer taith maes gael ei wneud pedair
-
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhaglen Lletygarwch a Rheoli Gwestai yn cynnig hyblygrwydd, ffocws ar gyfleoedd diwydiant, interniaethau, a chymorth lleoliad i raddedigion, gan alluogi i fyfyrwyr deilwra eu hastudiaethau i gyd-fynd â’u dyheadau o ran gyrfa ac amgylchiadau personol.
Mae’r rhyngweithio cyson gyda chyflogwyr ochr yn ochr â ffocws ar wasanaeth gwesteion a sgiliau cyflogadwyedd proffesiynol sy’n rhoi i fyfyrwyr y cyfle i wireddu eu potensial gyrfaol trwy eu hastudiaethau.
Mae graddedigion y rhaglen hon wedi diogelu ystod eang o rolau gweithredol a rheoli o fewn y diwydiant lletygarwch a gwestai rhyngwladol. Gall llwybrau gyrfa’r dyfodol gynnwys rolau blaen tŷ fel cysylltiadau gwesteion, y dderbynfa, concierge, gweithrediadau blaen tŷ, cydlynu digwyddiadau a chynadleddau, neu wasanaeth bwyd a diod. Mae’r swyddi cefn tŷ’n cynnwys gweithrediadau gwestai, goruchwylio cadw tŷ, cydlynu refeniw, Adnoddau Dynol, gwerthu a marchnata a chynnal a chadw cyfleusterau. Mae graddedigion entrepreneuraidd hefyd wedi dilyn gyrfaoedd fel perchnogion busnes, rhedeg eu gwestai, bwytai, caffis neu ymgynghoriaethau lletygarwch eu hunain. Gall rolau eraill gynnwys arbenigwyr gwasanaeth gwesteion, hyfforddwyr lletygarwch, cynllunwyr digwyddiadau, neu gydlynwyr teithio a thwristiaeth.
Ymhlith yr enghreifftiau o yrfaoedd llwyddiannus mae graddedigion wedi’u cael mae swyddi gyda chwmnïau enwog fel casgliad Seren, Marriott International, Leonardo Hotels, Accor Group, Retreats Group, Whitbread, The Ritz Carlton.