ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol (CertHE)

Abertawe
1 Blynedd Llawn amser
32 o Bwyntiau UCAS

Ydych chi’n angerddol am fwyd ac yn awyddus i ddylanwadu ar y diwydiant bwytai? Mae’r cwrs TystAU Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol wedi’i gynllunio i’ch helpu i adeiladu gyrfa lwyddiannus yn y maes bywiog hwn. Drwy’r rhaglen hon, byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth hanfodol, gan eich paratoi i weithio’n greadigol ac yn hyderus yn y diwydiant gastronomeg wrth gael effaith gadarnhaol ar gymdeithas.

Mae ein cwrs wedi’i strwythuro i wella eich sgiliau proffesiynol a phersonol, gan eich paratoi ar gyfer gwahanol rolau ar draws y diwydiant bwyd. Byddwch yn dysgu hanfodion rheolaeth bwytai, yn archwilio gastronomeg ryngwladol, ac yn deall beth sy’n gwneud profiad ciniawa yn gofiadwy. Y tu hwnt i’r sgiliau technegol, mae’r cwrs yn eich annog i feddwl fel dinesydd byd-eang, gyda phwyslais ar arferion cynaliadwy a chyfrifol. Nid yn unig y bydd y gwerthoedd hyn yn siapio’ch gyrfa ond hefyd yn eich paratoi i fod yn arweinydd yn y diwydiant bwyd sydd ohoni, sy’n newid yn barhaus.

Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn datblygu sgiliau rheolaethol a deallusol hanfodol. Mae hyn yn cynnwys y gallu i feddwl yn feirniadol, datrys problemau yn greadigol, ac adfyfyrio ar eich profiadau. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o reolaeth bwytai, gan ddysgu sut i fodloni disgwyliadau cwsmeriaid a chreu profiadau cadarnhaol o wasanaeth cwsmeriaid. Yn ogystal, byddwch yn cael cipolwg ar ddiwylliant bwyd, marchnata, a’r agweddau unigryw ar reoli bwyty mewn gwahanol leoliadau diwylliannol.

Un o uchafbwyntiau’r cwrs hwn yw’r lleoliad bwyty proffesiynol. Fe gewch y cyfle i gymhwyso’r wybodaeth a gawsoch yn yr ystafell ddosbarth mewn bwyty yn y byd go iawn, gan ennill profiad ymarferol amhrisiadwy. Mae’r lleoliad hwn yn eich galluogi i fagu hyder a datblygu’ch cymhwysedd, gan eich gwneud chi’n barod i gamu i’r diwydiant ar ôl graddio.

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi datblygu sylfaen gref ym maes rheoli gastronomeg, gan gynnwys mewnwelediadau i strwythur, rheolaeth a marchnata sefydliadau’r sector. Bydd gennych hefyd y sgiliau i ddatblygu cynhyrchion bwyd newydd a chynnal safonau uchel o ran ardystio hylendid bwyd, gan eich paratoi i fodloni gofynion y diwydiant bwyd sydd ohoni.

Mae’r cwrs hwn yn llwybr at yrfa foddhaus ym maes gastronomeg ryngwladol, lle cewch gyfle i adael eich Ã´l mewn diwydiant byd-eang.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Cyfunol (ar y campws)
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Achrededig:
Institute of Hospitality Education Membership Scheme

Pam dewis y cwrs hwn

01
lleoliadau gwaith diwydiant
02
Mae cyflogadwyedd yn greiddiol i’r rhaglen.
03
Perthnasoedd gwaith cryf ag arweinwyr yn y diwydiant bwytai.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Rydym yn credu mewn ymagwedd ymarferol, sy’n gysylltiedig â’r diwydiant at ddysgu, gan gyfuno profiad ymarferol â gwybodaeth ddamcaniaethol. Trwy bartneriaethau diwydiant agos ac adborth parhaus gan gyflogwyr, mae’r cwrs hwn yn cadw golwg craff ar anghenion datblygol y sector bwytai.

Yn y cwrs blwyddyn hwn, byddwch yn datblygu sgiliau craidd mewn rheolaeth bwytai a gastronomeg ryngwladol, a byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r diwydiant bwytai.

Byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn mewn rheoli bwytai a gastronomeg ryngwladol.  Byddwch yn dysgu technegau coginio hanfodol, sgiliau profiad cwsmeriaid ac yn cael cipolwg ar y diwydiant bwyd byd-eang. Mae eleni’n cynnwys lleoliad mewn bwyty proffesiynol i ddefnyddio’ch sgiliau mewn lleoliad byd go iawn.

Cyflwyniad i Gastronomeg

(20 credydau)

Lleoliad: Sgiliau coginio

(20 credydau)

Rheolaeth Effeithiol

(20 credydau)

Cynnyrch, Tarddiad a Chyrchu

(20 credydau)

Lleoliad: Profiad Cwsmer a Sgiliau Gwasanaeth

(20 credydau)

Lleoliad: Rheoli Bwyty

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 32 o Bwyntiau Tariff UCAS - e.e. Safon Uwch: E, BTEC: PPP, IB: 24 

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.  &²Ô²ú²õ±è;

    °Õ³Ò´¡±«â€¯â€¯&²Ô²ú²õ±è;

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.  &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  &²Ô²ú²õ±è;

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. &²Ô²ú²õ±è;
     
    Gofynion Iaith Saesneg  &²Ô²ú²õ±è;

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.  &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. &²Ô²ú²õ±è;

    Gofynion fisa ac ariannu &²Ô²ú²õ±è;

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   &²Ô²ú²õ±è;

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    &²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.  &²Ô²ú²õ±è;

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  &²Ô²ú²õ±è;

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. &²Ô²ú²õ±è;

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol  

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg  

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg 

  • Ar ddechrau’r rhaglen, bydd myfyrwyr yn mynychu wythnos gynefino lle byddant yn derbyn gwybodaeth am eu rhaglen yn ogystal â’r gofynion asesu.

    Ni ddefnyddir arholiadau ar y rhaglen ac eithrio’r rhai a osodir yn allanol gan yr Ymddiriedolaeth Addysg Gwin a Gwirodydd (WSET), sef cymhwyster ‘gwerth ychwanegol’.

    Gosodir gwaith cwrs (y brif strategaeth asesu) a thasgau ymarferol ar fformatau amrywiol, sy’n cynnwys:

    • Ymarferion ymarferol yn y dosbarth (e.e. seminarau dadlau)
    • Chwarae rôl (e.e. ffug gyfweliadau, sefyllfaoedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac ati)
    • Cyflwyniadau
    • Cofnodion Dysgu â€” a gwblheir ar leoliad neu mewn sesiynau ymarferol mewnol
    • Prosiectau ymchwil
    • Mentora gan gymheiriaid
    • Beirniadaeth fideo
    • Traethodau
    • Adroddiadau
    • Asesiadau lleoliad profiad gwaith.
  • Mae’r holl gostau ychwanegol a nodir yn yr adran hon yn ddangosol. Cydnabyddir, er enghraifft, y gallai’r union gostau’n gysylltiedig â thaith maes amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

    Gwneir pob ymdrech i gadw costau myfyrwyr mor isel â phosibl, ac fel arfer, caiff teithiau maes dewisol eu cynllunio ymhell ymlaen llaw. Mae’r ddisgyblaeth academaidd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr dalu mewn rhandaliadau misol.

    Gorfodol

    Cost offer – esgidiau diogelwch, dillad gwynion cogydd, cit offer cegin sylfaenol (gan gynnwys cyllyll): costau amcan o dan Â£300.

    Costau Angenrheidiol

    • Teithio i leoliad – gwneir pob ymdrech i leoli myfyrwyr o fewn pellter cymudo i’w cartref. Mae myfyrwyr yn gyfrifol am eu costau teithio i leoliad.
    • Teithiau maes yn y DU – rhaid i’r myfyriwr dalu’r costau ac fe fyddant yn gysylltiedig â theithio a llety: maent yn debygol o fod yn llai na £100 y flwyddyn.

    Dewisol

    • Mae teithiau maes rhyngwladol yn ddewisol ac felly rhaid i’r myfyriwr dalu’r gost gyfan. Mae’r costau amcan yn debygol o fod yn llai na Â£750.
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae cyflogadwyedd yn greiddiol i’r rhaglen.

    Yn ogystal â sgiliau sy’n benodol i fwytai a gastronomeg, mae gan y rhaglen fodylau sy’n ymgorffori sgiliau trosglwyddadwy, sef arloesi, delio â digwyddiadau annisgwyl, gwydnwch, menter a chyfrifoldeb personol, datrys problemau a chreadigrwydd, arfer adfyfyriol a datblygu meddylfryd mentrus.

    Ategir yr addysgu a arweinir gan arfer gan ddarlithoedd gwadd a theithiau maes rheolaidd i fwytai, cynhyrchwyr bwyd, marchnadoedd bwyd penodol, a chynhyrchwyr gwin a diodydd crefft.

    Hefyd, bydd dysgwyr yn cael cyfle i dderbyn arweiniad gyrfaol pwrpasol yn ogystal â sesiynau datblygu sgiliau i wella eu hyder, megis hyfforddiant LinkedIn i wella eu presenoldeb ar-lein, a ffug gyfweliadau.