ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Mesur Meintiau Rhan Amser (HND - Diploma Cenedlaethol Uwch)

Abertawe
3 Blynedd Rhan Amser

Mae’r Brentisiaeth Mesur Meintiau hon yn cynnig cyfuniad o theori a chymhwysiad ymarferol i’ch paratoi ar gyfer gyrfa werth chweil yn y maes hwn.

Fel Syrfëwr Meintiau, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli prosiectau adeiladu, gan sicrhau eu bod yn rhedeg yn esmwyth o’r dechrau i’r diwedd. Mae ein cwrs wedi’i gynllunio i ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth, gan eich gwneud yn raddedig cymwys sy’n barod ar gyfer y byd proffesiynol.

Mae’r diwydiant adeiladu yn esblygu’n gyflym, gyda thechnoleg a darpariaeth integredig yn dod yn fwyfwy pwysig. Datblygir ein rhaglen ar y cyd ag arbenigwyr yn y diwydiant a chyrff proffesiynol gan gynnwys Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a Chanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC). Mae’r partneriaethau hyn yn sicrhau bod ein cwricwlwm yn bodloni gofynion ac anghenion presennol y diwydiant.

Mae’r cwrs hefyd wedi’i achredu gan y Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB), a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), gan roi cydnabyddiaeth broffesiynol i chi a gwella eich cyflogadwyedd.

Trwy gydol y cwrs, byddwch yn cymryd rhan mewn modiwlau sy’n canolbwyntio ar ddatrys problemau creadigol a chydweithio. Mae ein cwricwlwm yn cwmpasu ystod eang o bynciau, gan gynnwys rheoli costau, caffael, mesur a meintioli, rheoli risg, ac economeg dylunio.

Byddwch hefyd yn ennill arbenigedd mewn meysydd fel contractau, cynllunio costau, ac amcangyfrif. Mae’r cwrs yn pwysleisio pwysigrwydd sgiliau ariannol, sgiliau cyfreithiol, sgiliau rheoli, a sgiliau cyfathrebu, sy’n hanfodol ar gyfer rheoli prosiectau adeiladu o’r dechrau i’r diwedd.

Yn ogystal â dysgu yn yr ystafell ddosbarth, mae’r cwrs yn cynnig profiadau ymarferol sy’n eich galluogi i gymhwyso’ch gwybodaeth mewn lleoliadau byd go iawn.

Mae’r profiad hwn yn y diwydiant yn amhrisiadwy, gan roi cipolwg i chi ar arfer proffesiynol a’ch helpu i adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau diwydiant.

Prentisiaethau

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Prentisiaethau
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Rhan Amser
Achrededig:
CABE logo

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Mae prentisiaethau’n llwybr dysgu gydol oes heb unrhyw derfyn oedran, felly ar yr amod nad ydych mewn addysg amser llawn a thros 18 oed gallwch wneud cais.
02
Mae prentisiaeth gradd yn dechrau ar Lefel 4, fodd bynnag, bydd profiad/cymwysterau blaenorol perthnasol yn cael eu hystyried. Byddwch yn astudio’n rhan-amser o amgylch eich ymrwymiadau gwaith, a bydd y rhaglen yn para 2-4 blynedd.
03
Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth a bydd gennych hawl i gyflog, gwyliau statudol ac amser i ffwrdd â thâl i astudio.
04
Rhaid i brentisiaid fod mewn gwaith perthnasol, ond mae gradd-brentisiaeth yn addas ar gyfer pob sector o ddiwydiant a busnesau o bob maint.
05
Rhaid i brentisiaid fod yn gymwys i weithio yn y DU a derbyn isafswm cyflog o £12,000 y flwyddyn o leiaf.
06
Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn hunangyflogedig yng Nghymru.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

“Mae’r diwydiant adeiladu yn effeithio ar bawb, gan ddylanwadu ar gynhyrchiant a lles, ac yn creu’r cartrefi, ysbytai, ysgolion, gweithleoedd a’r isadeiledd sy’n hanfodol ar gyfer ansawdd bywyd da ,†Caroline Gumble, CIOB. 

Mae ein hathroniaeth dysgu ac addysgu wedi’i gwreiddio mewn darparu addysg ymarferol, sy’n berthnasol i’r diwydiant. Ein nod yw arfogi myfyrwyr â’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y sector deinamig ac arloesol hwn.

Hanfodion Technoleg Adeiladu

(20 credydau)

Sgiliau ar gyfer Arfer Proffesiynol

(10 credyd)

Tirfesur Digidol a Dylunio Priffyrdd

(10 credyd)

Technoleg Ddigidol – Modelu Gwybodaeth am Adeiladau

(10 credyd)

Deunyddiau Adeiladu

(10 Credyd)

Iechyd, Diogelwch a Llesiant

(10 credyd)

Technoleg Ddigidol – Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur

(10 credyd)

Y Gyfraith ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig

(10 credyd )

Y Broses Gaffael

(10 credyd )

Mesur ac Amcangyfrif

(20 Credyd )

Datblygu Cynaliadwy

(20 credydau)

Technoleg Adeiladu 2

(20 credydau)

Dylunio Prosiect Ymchwil

(20 credyd)

Gweinyddu Contractau

(10 credyd)

Modelu Gwybodaeth am Adeiladau

(20 Credyd )

Amcangyfrif a Thendro Uwch

(20 Credyd )

Rheoli Busnes ar gyfer Adeiladu

(10 credyd )

Rheoli Prosiectau

(10 credyd)

testimonial

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Cymhwyster Lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol. 

    TGAU &²Ô²ú²õ±è;

    Mae hefyd angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg. 

    Os yw’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’r brentisiaeth, fe allech ystyried: 

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hon wedi’i chynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi gan ei bod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudiaethau â chymorth. &²Ô²ú²õ±è;

    Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn mynd ymlaen yn awtomatig i’r opsiwn gradd lawn amser lle bo ar gael yn y pwnc hwn. &²Ô²ú²õ±è;

    • Tystysgrif mewn Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hon ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf cwrs gradd baglor llawn amser, tair blynedd. &²Ô²ú²õ±è;

    Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau TystAU yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o opsiwn gradd baglor llawn amser yn y pwnc hwn. &²Ô²ú²õ±è;

    Mae’r llwybrau hyn yn ddelfrydol os nad ydych yn gweithio yn y sector, rydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y brentisiaeth hon. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn &²Ô²ú²õ±è;

    Fe allwn wneud cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn “Cynigion Cyd-destunolâ€. I gael cyngor a chymorth penodol gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau am ragor o wybodaeth ynglÅ·n â gofynion mynediad 

  • I wneud cais, rhaid i chi fod yn gweithio mewn rôl berthnasol a bod gennych gefnogaeth eich cyflogwr. 

    Dechreuwch drwy gofrestru eich diddordeb trwy ein tudalen . Ar ôl adolygu eich gwybodaeth, bydd y Tîm Prentisiaethau yn cysylltu â chi i gadarnhau eich cymhwysedd a’ch tywys drwy’r broses ymgeisio. I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â’r Tîm Prentisiaethau.

  • Fel arfer, asesiadau ffurfiannol neu grynodol yw’r rhai a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn ac maent wedi’u cynllunio i sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau. Fel arfer, bydd yr asesiadau hyn ar ffurf ymarferion ymarferol lle mae dull ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr ar amrywiaeth o weithgareddau. Yn draddodiadol, caiff asesiad ffurfiol o fewn amser penodol ei gynnal drwy ddefnyddio profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn para ddwy awr.

    Mae arholiadau’n ddull traddodiadol o wirio mai gwaith y myfyriwr yntau yw’r gwaith a gynhyrchwyd. Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae gofyn mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.

    Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau’r ymchwil ar lafar/yn weladwy i’r darlithydd a chyfoedion, gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn. Mae’r strategaethau asesu hyn yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r nod yw creu gwaith sydd dan arweiniad myfyrwyr, yn unigol, yn adfyfyriol a phan fo’n briodol, wedi’i gyfeirio at alwedigaeth. Bydd adborth i fyfyrwyr yn digwydd ar ddechrau’r cyfnod astudio ac yn parhau gydol y cyfnod astudio a thrwy hynny ganiatáu ar gyfer ychwanegu gwerth o’r radd flaenaf at yr hyn y mae’r myfyriwr yn ei ddysgu.

  • Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg 

Mwy o gyrsiau Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth

Chwiliwch am gyrsiau