Aelodau’r Cyngor PCYDDS
-
Mae Justin Albert OBE wedi bod yn Gyfarwyddwr ar Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru er 2011. Mae ganddo gefndir cyfreithiol a phrofiad helaeth o arweinyddiaeth fasnachol ac nid-er-elw mewn sefydliadau cadwraeth, addysgol a diwylliannol. Mae ei rolau blaenorol wedi cynnwys bod yn aelod o fwrdd Croeso Cymru a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ac yn ymgynghorydd i Weinidog y Cabinet ar gyfer Economi a Thrafnidiaeth; mae ei rolau cyfredol yn cynnwys Is-Lywydd Gŵyl y Gelli, Ymddiriedolwr Farms for City Children a llywodraethwr yr Ysgol Fale Frenhinol.
Yn ogystal â’i radd yn y gyfraith mae ganddo radd Anrhydeddus o Brifysgol Cymru. Mae’n ddinesydd deuol y DU a’r Unol Daleithiau.
-
Natalie yw’r Llywydd etholedig ar gyfer Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant ar Gampws Abertawe ar gyfer 2023/2024. Mae hi wedi cwblhau gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes gyda Rhagoriaeth yn ddiweddar ac wedi cwblhau BA mewn Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol yn flaenorol. Mae ganddi brofiad helaeth ym maes rheolaeth digwyddiadau ar ôl gweithio’n flaenorol ar sawl gŵyl a digwyddiad am fwy na degawd, yn cynnwys gŵyl gerddoriaeth Tramlines, Run for All Jane Tomlinson a chanolfan gwylwyr yn y Tour de France. Mae hi’n un o Ymddiriedolwyr Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant ar hyn o bryd.
-
Maria Dinu yw Llywydd Grŵp etholedig Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant 2024/25. Mae’n cymryd cyfnod sabothol o’i hastudiaethau i ymgymryd â’r rôl hon. Cyn cael ei hethol yn Llywydd, gwirfoddolai’n Gynrychiolydd Myfyrwyr, gan meithrin cryfderau mewn eiriolaeth, cynllunio strategol a chyfathrebu effeithiol, y mae’n anelu at eu defnyddio yn ystod ei thymor fel Llywydd er mwyn sicrhau cyflawni addewidion ei maniffesto. Mae’n frwd iawn ynghylch mynediad at adnoddau a sicrhau llesiant myfyrwyr.
-
Yn raddedig o Brifysgol Cymru (Bangor) a PCYDDS, cafodd Emlyn Dole yrfa gynnar yng ngweinidogaeth y Bedyddwyr ac yn y celfyddydau cyn dod yn Gynghorydd Sir etholedig. Gwasanaethodd am saith mlynedd fel Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin lle bu’n gyfrifol am weledigaeth a strategaeth gorfforaethol y Cyngor. Roedd yn un o brif benseiri Bargen Ddinesig Bae Abertawe ynghyd â llwyddiant y Cyngor i ddenu cyllid Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU. Mae’n un o ymddiriedolwyr Undeb Bedyddwyr Cymru ac yn parhau i weithio’n rhan amser fel gweinidog hunan-gyflogedig.
-
John Edge yw Cadeirydd Bwrdd Coleg Sir Gar. Yn un o raddedigion Prifysgol Rhydychen, mae ganddo gefndir mewn datblygu busnes rhyngwladol, ymgynghori, uno cwmnïau a chaffaeliadau, a mentrau ar y cyd. Ef oedd Cyfarwyddwr Datblygu Rhyngwladol ac yna Pennaeth Caffaeliadau un o brif gwmnïau logisteg y DU, gan ddatblygu eu rhwydwaith byd-eang. Mae ei yrfa wedi cwmpasu chwe chyfandir, gyda ffocws ar Ogledd America, Ewrop ac Asia. Wedi iddo symud i Geredigion, parhaodd i wneud gwaith ymgynghori ond hefyd, astudiodd BSc mewn Ecoleg a bellach mae’n canolbwyntio ar wirfoddoli mewn prosiectau cymuned, addysg, a chadwraeth yn lleol ac yn aml yn rhyngwladol. Ef yw dirprwy gadeirydd ei gymdeithas cymuned lleol; mae’n ymgynghorydd gyda Chyngor ar Bopeth; yn siaradwr ar ran Coed Cadw; ac mae’n cadw ei eiddo ei hun fel ‘ffarmwr gweithredol’.
-
Professor Elwen Evans, KC (Ffotograffydd: Aled Llywelyn)
Yr Athro Elwen Evans, KC, yw Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Astudiodd yr Athro Evans y Gyfraith yng Ngholeg Girton, Caergrawnt, gan raddio â gradd dosbarth cyntaf ddwbl: M.A. (Cantab). Ar ôl graddio aeth ymlaen i Ysgol y Gyfraith Ysbytai’r Frawdlys ac fe’i galwyd i’r Bar gan Gray’s Inn yn 1980. Fe’i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines yn 2002.
Mae’r Athro Evans wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus iawn yn fargyfreithiwr gan ddewis ymarfer yng Nghymru yn bennaf. Mae wedi ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith cyfreithiol, ac wedi arbenigo mewn cyfraith trosedd ar lefelau treial ac apeliadau. Mae ei gwaith wedi cynnwys llawer o achosion difrifol, cymhleth, sensitif ac uchel eu proffil, megis arwain y tîm erlyn yn achos April Jones a’r tîm amddiffyn yn achos trychineb Glofa Gleision. Mae hi’n Gofiadur Llys y Goron ers cael ei phenodi yn 2001. Bu’n Bennaeth Iscoed Chambers am dros 15 mlynedd cyn ei phenodi i rôl Pennaeth Coleg y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Abertawe yn 2015 lle sefydlodd Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. Yn 2020, fe’i penodwyd yn Ddirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol ar gyfer Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol a bu’n gyfrifol am arwain twf llwyddiannus y Gyfadran yn ystod y cyfnod hwn. Roedd ei phortffolio hefyd yn cynnwys cynnig arweiniad strategol i weithgareddau cenhadaeth ddinesig y Brifysgol a datblygu perthnasoedd y Brifysgol yn llwyddiannus gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys cyn-fyfyrwyr a chymwynaswyr.
Gyda’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddi, mae hi’n Feinciwr yn ei Hysbyty, fe’i hanrhydeddwyd gan Orsedd y Beirdd am ei gwasanaethau i’r Gyfraith yng Nghymru a bu’n Gomisiynydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Mae hi wedi gwasanaethu ar amrywiaeth eang o gyrff a phwyllgorau allanol, gan adlewyrchu ei meysydd profiad a diddordeb proffesiynol. Yn 2018, roedd ymhlith y 10 uchaf ar restr yn dathlu 100 o fenywod mwyaf ysbrydoledig Cymru.
-
Uzo Iwobi CBE yw CEO a sylfaenydd Race Council Cymru ac mae’n rhedeg ei hymgynghoriaeth arweinyddiaeth a hyfforddiant ei hun. Mae’n gyfreithiwr a bargyfreithiwr a chafodd ei galw i Far Nigeria. Hi yw sylfaenydd Canolfan Cymuned Affrica yng Nghymru, ZeroRacismWales, Fforwm Ieuenctid Cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol Cenedlaethol Cymru, a Black Lives Matter Wales Collective (fforwm polisi Cymru-gyfan). Yn ddiweddar mae hi wedi gorffen ei thymor fel Ymgynghorydd Polisi Arbenigol ar Gydraddoldeb i Lywodraeth Cymru. Mae hi wedi gwasanaethu gyda thîm Amrywiaeth Cenedlaethol yr Heddlu, wedi’i lleoli yn y Swyddfa Gartref, lle buodd yn rhan o ddatblygu polisïau cenedlaethol ar gysylltiadau hiliol ac amrywiaeth. Bu hefyd yn Gomisiynydd i Gomisiwn Cydraddoldeb Hiliol y DU. Mae hi wedi’i chynnwys yn rhestrau 100 menyw wych Cymru ac 15 eicon du Cymru WalesOnline.
Mae’n meddu ar TAR o Brifysgol Cymru a gweithiodd fel darlithydd y gyfraith ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe rhwng 1995 a 2004. Mae’n Gymrawd Anrhydeddus ac yn Athro Ymarfer ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
-
Mae Rowland Jones yn Syrfëwr Siartredig ac yn Gymrawd o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Mae ganddo wybodaeth eang am weithgareddau ynghylch eiddo ac ystadau ledled de Cymru ac mae’n gyfarwyddwr ar ei gwmni ei hun er 1991.
Mae wedi cyfrannu i ddarparu prosiectau datblygu mawr, gan gynnwys Prosiect Ethos £7m yng Nglannau Abertawe a’r Bartneriaeth Sgiliau a Dysgu Ranbarthol, a bu’n un o lywodraethwyr Coleg Gŵyr, Abertawe. Bu’n Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg ar gyfer 2010-11 ac mae’n gwasanaethu’n Ddirprwy Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi yn yr un sir.
-
Wedi’i eni a’i addysgu yng Nghaerfyrddin, mae gan Timothy Llewelyn gefndir mewn bancio. Roedd ganddo uwch swyddi rheolaethol ym Manc Lloyds tan 2018, ac yn fwyaf diweddar, bu’n Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol dros Gymru a’r Rhanbarth Gorllewinol. Mae ganddo bellach nifer o swyddi anweithredol: ar hyn o bryd, ef yw Cadeirydd Cymdeithas Tai Bro Myrddin; mae’n aelod Lleyg o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ac yn Gadeirydd ei Bwyllgor Sefydlog; yn Is-gadeirydd Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi; ac yn Drysorydd Eglwys Sant Pedr yng Nghaerfyrddin.
-
Mae gan Geraint Roberts gefndir mewn addysg ysgolion uwchradd. Roedd yn bennaeth Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli rhwng 1997 a 2009 a gweithio wedyn yn Bennaeth Ymgynghorol yn yr Adran Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin, gan ganolbwyntio ar adolygu a newid trawsffurfiol.
Er 2012, mae wedi gweithio’n ymgynghorydd annibynnol ar brosiectau sydd wedi cynnwys ad-drefnu ysgolion, adolygiadau ysgol gyfan, gwella ysgolion a datblygu modelau llywodraethu yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Rhondda Cynon Taf, a strategaethau ar gyfer trawsffurfio addysg uwchradd yng ngogledd Powys.
Mae wedi golygu dwy gyfrol o farddoniaeth ac wedi ennill sawl gwobr am farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a hefyd yn cyfrannu i ystod o weithgareddau sy’n hyrwyddo’r celfyddydau. Sefydlodd Ysgol Farddol Caerfyrddin bron i ddeg mlynedd ar hugain yn ôl ac mae’n aelod o bwyllgor llenyddiaeth canolog yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn gyfarwyddwr Gofal Celf Caerfyrddin, sef elusen yn y celfyddydau sy’n darparu cyfleoedd i bobl sydd ag anableddau. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth sef ‘Desg Lydan’ yn 2020.
-
Mae cefndir gan Nigel Roberts ym maes bancio ac mae wedi dal swyddi rheoli gyda Banc Midland/HSBC tan 2010, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth Bancio Masnachol ar gyfer Gorllewin Cymru. Bellach mae’n gweithio fel ymgynghorydd i Clay Shaw Butler, Cyfrifyddion Siartredig ac mae’n dal nifer o swyddi anweithredol o fewn Esgobaeth Tyddewi. Mae rolau cyfredol eraill yn cynnwys Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Wirfoddol Eglwysig y Model ac Ymddiriedolwr ar gyfer Canolfannau Teulu Caerfyrddin. Mae hefyd yn aelod o’r Panel Benthyciadau ar gyfer Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru.
-
Mae Emlyn Schiavone yn Gynghorydd Tref a Sir i Orllewin Caerfyrddin, rôl sy’n cynnwys aelodaeth o’r Pwyllgor Craffu ar Addysg a Gwasanaethau Plant, Pwyllgor Craffu ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Mae’i gefndir proffesiynol ym maes addysg, lle mae wedi bod ag ystod o rolau addysgu a rheoli gwasanaethau. Mae’n ymddiriedolwr neu’n aelod pwyllgor o ystod eang o elusennau lleol ac ar hyn o bryd mae’n llywodraethwr ac yn gyn-gadeirydd i ddwy ysgol yng Nghaerfyrddin.
-
Cafodd Katrin Shaw ei magu yn Aberteifi, Gorllewin Cymru a mynychodd Prifysgol Sheffield Hallam lle enillodd BA yn y Gyfraith. Cafodd ei derbyn yn Gyfreithiwr ym 1996 a gweithiodd fel cyfreithiwr llywodraeth leol cyn ymuno â swyddfa’r Ombwdsmon fel Ymchwilydd yn 2001. Ers hynny, mae wedi dal nifer o swyddi rheoli i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac ar hyn o bryd hi yw ei brif Gynghorydd Cyfreithiol a’i Gyfarwyddwr Ymchwilio.
Mae ei rolau eraill wedi cynnwys bod yn aelod o Gyngor Cyfiawnder Gweinyddol y DU a Chadeirydd Grŵp Buddiannau Cyfreithiol Cymdeithas yr Ombwdsmon. Roedd hi’n Gomisiynydd Safonau Llywodraeth Leol Dros Dro Gogledd Iwerddon rhwng 2020-2024, gan ddyfarnu achosion lle’r oedd cynghorwyr yng Ngogledd Iwerddon wedi methu â chydymffurfio â’u Cod Ymddygiad.
Mae hi’n ymddiriedolwr Age Connects Castell-nedd Port Talbot.
-
Wedi ei magu a’i haddysgu yng Nghymru, gweithiai Elizabeth Siberry fel gwas sifil yn Llundain: yn Gyfarwyddwr AD adrannol rhwng 2003-08 ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Diogelu Seilwaith Cenedlaethol rhwng 2008-11. Bellach mae ganddi bortffolio o rolau sector cyhoeddus ac ymddiriedolaethau yn y sector elusennol: yn ogystal â bod yn aelod o Gyngor y Brifysgol mae’n un o Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cymdeithas Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Celfyddydau Brycheiniog, ac Ymddiriedolaeth Gregynog.
Astudiodd hanes yn Llundain a Chaergrawnt a dyfarnwyd iddi PhD yn 1982. Mae’n parhau i ysgrifennu a chyhoeddi fel hanesydd, gan weithio ar agweddau ar hanes canoloesol a hanes Sir Frycheiniog ac mae hi’n aelod o fwrdd golygyddol y cylchgrawn Brycheiniog. Dyfarnwyd iddi OBE yn 1997.
Penodwyd gan y Staff Academaidd
-
Ymunodd Dr Tracy Cruickshank â PCYDDS fel Deon Cynorthwyol (Ansawdd a Gwella) ar gyfer yr Athrofa Dysgu Canol Dinas yn 2022 a daeth yn Ddeon Campws Llundain ym mis Rhagfyr 2024. Dechreuodd ei gyrfa academaidd ym Mhrifysgol Nottingham lle cwblhaodd PhD mewn Iaith a Pherfformio. Wedi hynny, cafodd swyddi academaidd ac arwain ym Mhrifysgol De Montfort (2004 – 2019) a Phrifysgol Coventry (2019 – 2022). Mae’n aelod o Fwrdd Gweithredol DramaHE a’r Gynghrair Addysg Drama a Theatr (DTEA) ac yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.
-
Ymunodd Dr Deborah Hughes â’r Drindod Dewi Sant yn 2019 yn ddarlithydd mewn Mesur Meintiau, ar ôl cwblhau PhD a gwmpasodd Mesur Meintiau a Rheoli Prosiect. Gan ddefnyddio ei phrofiad diwydiannol, defnyddiodd raglenni adeiladu’r Brifysgol i gynnwys modylau mwy cynaliadwy wedi’u seilio ar dechnoleg ddigidol er mwyn cadw’r cyrsiau’n berthnasol i’r diwydiant.
Ei meysydd ymchwil o ddiddordeb yw cydweithredu a chymell o fewn y diwydiant adeiladu. Yn Uwch Ddarlithydd mae ei chyfrifoldebau addysgu’n cynnwys pynciau fel dulliau ymchwilio, economeg dylunio a busnes ar gyfer ymarferwyr proffesiynol adeiladu, ac mae hi wedi cyflwyno sgiliau adeiladu allweddol fel rheoli a mesur rhaglenni. Cyflawnodd statws Siartredig yn 2016 ac mae ganddi Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg.
Penodwyd gan y Staff Cymorth
-
Ymunodd yr Athro Kyle Erickson â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 2010 fel darlithydd yn y Clasuron. Yn ddiweddarach daeth yn Bennaeth Adran y Clasuron ac yn Ddeon Cynorthwyol y Dyniaethau. Yn 2019, symudodd i rôl anacademaidd yn y Swyddfa Academaidd fel Cyfarwyddwr Profiad Academaidd. Mae’r rôl hon yn canolbwyntio ar gyfoethogi’r profiad academaidd drwy sicrhau ansawdd, gwella dysgu ac addysgu, rheoliadau academaidd, achosion myfyrwyr a dehongli data gyda chylch gwaith ar draws y Brifysgol.
Cwblhaodd ei radd israddedig ym Mhrifysgol Califfornia, Los Angeles, lle bu’n astudio Hanes a Groeg a Lladin, a bu’n gweithio yn y Ganolfan i’r Rhannol Ddall yn addysgu technoleg gyfrifiadurol addasol. Cwblhaodd ei radd Meistr a PhD mewn Hanes Helenistaidd ym Mhrifysgol Caerwysg. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar y rhyngweithiadau gwleidyddol a diwylliannol rhwng y byd Groegaidd a’r Dwyrain Agos. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn cysylltiadau rhwng diwinyddiaeth, cyfreithlondeb a phŵer. Mae’n Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch.
Clerc y Cyngor
-
Clerc y Cyngor yw:
Sarah Clark
Ysgrifennydd y Brifysgol
E-bost: r.doswell@uwtsd.ac.uk
Aelodau Cyngor PC
