
Beth yw’r Fframwaith Arfer Proffesiynol?
Beth yw’r Fframwaith Arfer Proffesiynol?
Mae’r Fframwaith Arfer Proffesiynol (FfAP) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn strwythur dysgu unigryw a hyblyg a luniwyd i gefnogi gweithwyr proffesiynol i gydbwyso eu hastudiaethau academaidd â’u hymrwymiadau gwaith a phersonol. Mae’r FfAP yn integreiddio dysgu academaidd â phrofiadau ymarferol yn y gweithle gan ddarparu taith addysgol gynhwysfawr sy’n gwella datblygiad personol a phroffesiynol. Gwelwyd bod y FfAP yn llwybr sy’n gallu sicrhau cymwysterau academaidd tra’n cymhwyso sgiliau a gwybodaeth newydd yn uniongyrchol yn y gweithle.
Gwybodaeth am y Fframwaith Arfer Proffesiynol

Ar gyfer pwy mae’r Fframwaith Arfer Proffesiynol?
Lluniwyd y FfAP ar gyfer gweithwyr neu wirfoddolwyr proffesiynol sy’n dymuno camu ymlaen yn eu gyrfaoedd heb dorri ar draws eu cyflogaeth. Mae’n addas ar gyfer unigolion o bob diwydiant a chefndir proffesiynol, gan gynnig ystod o fodylau generig y gellir eu cymhwyso ar draws amrywiol sectorau. Pa un a ydych yn awyddus i wella eich sgiliau arwain, gwella eich arbenigedd penodol, neu ddilyn diddordeb penodol ym maes hyfforddi a mentora, mae’r FfAP yn darparu’r hyblygrwydd a’r gefnogaeth i’ch helpu i gyflawni eich nodau.
Beth yw’r Gofynion Mynediad?
I gofrestru ar y Fframwaith Arfer Proffesiynol, fel arfer mae angen i ymgeiswyr gael y canlynol:
-
Mae profiad proffesiynol ar lefel briodol yn werthfawr iawn ac felly fel arfer mae’n cael ei ystyried yn gyfwerth â dyfarniadau addysg uwch.
-
Profiad gwaith perthnasol yn eu dewis faes.
-
Awydd i integreiddio dysgu academaidd ag arfer yn y gweithle.
I’r rhai sy’n dymuno defnyddio eu dysgu blaenorol drwy brofiad, mae’r FfAP yn cynnig y modwl Cydnabod ac Achredu Dysgu (RAL), sy’n caniatáu i ddysgwyr hawlio hyd at ddwy ran o dair o’u cymhwyster yn seiliedig ar eu gwybodaeth a’u sgiliau cyfredol.

I Bwy mae Hyn yn Berthnasol?
Mae’r Fframwaith Arfer Proffesiynol yn berthnasol i:
-
Weithwyr proffesiynol sy’n awyddus i ddatblygu’u gyrfa: Mae’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd eisiau gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth heb gymryd saib o’u swydd.
-
Gweithwyr proffesiynol profiadol sy’n awyddus i gael achrediad am eu dysgu cyfredol drwy brofiad: Mae modwl y FfAP, Cydnabod ac Achredu Dysgu Blaenorol, yn galluogi dysgwyr i hawlio hyd at ddwy ran o dair o ddyfarniad drwy adfyfyrio ar ddysgu blaenorol drwy brofiad.
-
Cyflogwyr: Sefydliadau sy’n awyddus i fuddsoddi yn natblygiad eu cyflogwyr a gwella perfformiad yn y gweithle.
-
Unigolion sydd â diddordeb mewn hyfforddi a mentora: Mae dyfarniadau penodol fel yr MA, y Diploma Ôl-raddedig a’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Hyfforddi a Mentora, ar gael i’r rhai sydd am ganolbwyntio ar ddatblygu neu achredu’r sgiliau penodol hyn.
-
Dysgwyr o ddiwydiannau amrywiol: Mae modylau generig a strwythur hyblyg y FfAP yn ei wneud yn addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol ar draws amrywiol feysydd, gan gynnwys busnes, gofal iechyd, addysg, peirianneg a mwy.

Sut i wneud Cais
Mae gwneud cais am y Fframwaith Arfer Proffesiynol yn syml. Dilynwch y camau hyn i ddechrau eich taith addysgol:
-
Ewch i wefan y Drindod Dewi Sant: Ewch i adran y FfAP i gael gwybodaeth fanwl am y rhaglenni a gynigir.
-
Dewiswch eich rhaglen: Dewiswch y dyfarniad a’r modylau penodol sy’n cyd-fynd â’ch nodau a’ch diddordebau proffesiynol.
-
Trefnwch drafodaeth: Byddai aelod o dîm Derbyn FfAP yn falch iawn i drafod eich dyheadau gyrfa a’ch helpu i benderfynu ar y lefel fwyaf addas i chi.
-
Cyflwynwch eich cais: Cwblhewch y ffurflen gais ar-lein a’i chyflwyno ynghyd â’ch dogfennau ategol.