Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM)
Teitl: Trawsnewid Cyfathrebu ar Wardiau gydag ‘E-fyrddau Gwyn‘ Rhyngweithiol
Maes Ymchwil: Ymddygiad Dynol a Mesur Seicoffisiolegol
Partner: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM)
Amlinelliad o’r prosiect

Amlinelliad o’r prosiect
Mewn cydweithrediad â Chanolfan Technoleg Gofal Iechyd Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, gweithiodd ATiC gyda BIPCTM i ddatblygu dewis arall digidol yn lle byrddau gwyn traddodiadol ar wardiau. Y canlyniad: e-fyrddau gwyn rhyngweithiol a oedd yn gwella’r cyfathrebu a’r cydlynu yn sylweddol ar draws pedwar ysbyty - gan brofi’n arbennig o werthfawr yn ystod pandemig COVID-19.
Yn flaenorol, byddai gwybodaeth am gleifion yn cael ei rhannu gan ddefnyddio byrddau gwyn yr ysgrifennwyd arnynt â llaw, a oedd yn aml yn anniben, yn anghyson, ac yn anodd eu diweddaru. Roedd y system ddigidol newydd yn cynnig ateb glanach, mwy effeithlon a graddiadwy ar gyfer delweddu a rhannu data cleifion.
Cyfraniad ATiC:
Arweiniodd ATiC y gwaith o werthuso dyluniad y system e-fyrddau gwyn, gan sicrhau ei bod yn diwallu anghenion timau ysbytai amrywiol.
Arbenigedd ATiC:
- Trawsnewid rhyngwyneb ac elfennau gweledol yr e-fwrdd gwyn, gan gynnwys optimeiddio eiconograffi a chynllun, ac asesu effaith y newidiadau hyn.
- Cynnal cyfweliadau profiad defnyddwyr (UX) ac astudiaethau arsylwadol ar draws tri ysbyty i ddeall anghenion defnyddwyr a llifoedd gwaith.
- Profi a mireinio defnyddioldeb y system, gan arwain at set newydd o 34 o eiconau a chanllaw arddull cynhwysfawr - a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Waters Creative o Abertawe.
- Creu dulliau newydd ar gyfer delweddu gwybodaeth am gleifion a’i chyfleu’n effeithiol i dimau arbenigol.
Effaith:
Dangosodd y prosiect hwn sut y gall dylunio digidol meddylgar wella cyfathrebu clinigol, gwella gofal cleifion, a chefnogi timau gofal iechyd mewn amgylcheddau pwysau uchel.