CanSense-CRC
Teitl: CanSense-CRC
Maes Ymchwil: Ymddygiad Dynol a Mesuriad Seicoffisiolegol
Partner: CanSense Ltd
Amlinelliad o’r prosiect

Amlinelliad o’r prosiect
Mewn partneriaeth â Sefydliad TriTech Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae ATiC wedi cwblhau prosiect 18 mis gyda chwmni gwyddorau bywyd Cymru, sef CanSense Ltd. Roedd y prosiect yn cefnogi datblygiad CanSense-CRC- prawf gwaed cyflym, cost-effeithiol, a all dyfu yn unol â’r anghenion ar gyfer datgelu canser y colon a’r rhefr (coluddyn).
Nod y gwaith cydweithredol hwn oedd trawsnewid llwybr diagnostig canser y coluddyn y DU trwy alluogi datgeliad cynharach, gwella canlyniadau cleifion, a lleihau pwysau ar wasanaethau’r GIG.
Darparodd TriTech gymorth rheolaethol ac asesu risg, gan sicrhau aliniad â safonau QMS ISO13485 – sy’n hanfodol os yw’r GIG am ei dderbyn.
Cyfraniad ATiC:
Cymhwysodd ATiC ei arbenigedd ym maes dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl, gwerthuso defnyddioldeb, ac ymchwil ymddygiadol i helpu mireinio’r prawf CanSense-CRC er mwyn ei ddefnyddio yn y byd go iawn.
Arbenigedd ATiC:
- Cynnal astudiaethau arsylwadol gan ddefnyddio offer uwch, gan gynnwys:
- Labordy Arsylwadol Ymddygiadol Noldus
- Tracio llygaid Tobii Pro
- Artinis OctoMon (fNIRS) ar gyfer monitro gweithgaredd blaen yr ymennydd.
- Ymgysylltu â Meddygol Teulu (‘GPs’) a gwaedyddion i archwilio heriau o ran gweithredu, integreiddio llif gwaith, a dehongli canlyniadau.
- Gwerthuso sut mae technegwyr labordai yn rhyngweithio â’r meddalwedd CanSense a’r man gwaith ffisegol, nodi cyfleoedd i wella defnyddioldeb ac effeithlonrwydd.
Effaith:
Mae’r prawf CanSense-CRC yn defnyddio modelu seiliedig ar Ddeallusrwydd Artiffisial i ddehongli signalau sbectrol o fiofarcwyr yn y gwaed. Awgrymodd treialon clinigol y gallai leihau’r angen am golonosgopïau o hyd at 65%, gyda’r posibilrwydd o arbed £250 miliwn i’r GIG bob blwyddyn a gwella mynediad cleifion at ofal amserol.
Wedi’i ariannu gan Innovate UK, mae’r prosiect hwn yn gam mawr tuag at ddarparu diagnosteg canser cam-cynnar, hygyrch ar raddfa fawr – ac yn amlygu grym cydweithio rhwng y byd academaidd, gofal iechyd, a’r diwydiant wrth siapio dyfodol gofal iechyd yng Nghymru a thu hwnt.