Cerebra a Chanolfan Arloesi Cerebra (CIC)
Teitl: Optimeiddio Dyluniad Helmedi Pwrpasol ar gyfer Plant â Chyflyrau Niwrolegol
Maes Ymchwil: Cipio Gwirionedd, Modelu 3D ac Efelychu Rhithwir / Printio a Phrototeipio 3D
Partner: Cerebra a Chanolfan Arloesi Cerebra (CIC)
Amlinelliad o’r prosiect

Amlinelliad o’r prosiect
Mae Energist Ltd, un o arweinwyr y byd ar dechnoleg plasma nitrogen, Canolfan Arloesi Cerebra (CIC), sy’n rhan o Cerebra yr elusen genedlaethol, yn dylunio cynhyrchion pwrpasol i gefnogi plant â chyflyrau niwrolegol cymhleth - ar arbennig pan fydd datrysiadau masnachol yn siomi. Un ddyfais newydd o’r fath oedd helmed oedd yn cael ei wneud ar gyfer yr unigolyn ar gyfer therapi reidio ceffyl. Er ei fod yn effeithiol, roedd y broses wreiddiol yn dibynnu ar offer sganio 3D drud ac yn gofyn bod dau arbenigwr yn ymweld â chartref pob plentyn, gan gyfyngu ar nifer y teuluoedd roedd CIC yn gallu eu cefnogi.
Cyfraniad ATiC:
Cydweithredodd ATiC gyda CIC i symleiddio a democrateiddio’r broses ddylunio helmed. Datblygodd y tîm becyn offer cost-effeithiol sy’n galluogi i rieni a gofalwyr gofnodi mesuriadau pen yn gywir gan ddefnyddio dyfeisiau bob dydd fel ffonau clyfar.
Arbenigedd ATiC:
- Ail-ddychmygu’r broses i wella hygyrchedd a lleihau costau, gan ymestyn y cyrraedd i ragor o deuluoedd.
- Datblygu dull cofnodi data o bell gan ddefnyddio offer anarbenigol.
- Asesu cywirdeb a defnyddioldeb gwahanol dechnegau sganio digyswllt.
Effaith:
Trawsnewidiodd y bartneriaeth hon wasanaeth llafurus yn un y gellir ei chynyddu yn unol â’r anghenion ac yn hawdd ei defnyddio – gan rymuso rhagor o deuluoedd i gael mynediad i gymorth wedi’i deilwra.