ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Energist Ltd

Energist Ltd

Energist Ltd

Teitl: Adeiladu Data Cyn-clinigol ar gyfer System Plasma NeoGenâ„¢

Maes Ymchwil: Ymddygiad Dynol a Mesur Seicoffisiolegol / Mesur Symudiad a Pherfformiad Dynol / Printio a Phrototeipio 3D

Partner:  Energist Ltd

Amlinelliad o’r prosiect

Energist Ltd

Amlinelliad o’r prosiect

Gwnaeth Energist Ltd, un o arweinwyr y byd mewn technoleg plasma nitrogen, lunio partneriaeth ag ATiC a Chanolfan Technoleg Gofal Iechyd (HTC) Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe i archwilio triniaeth di-gyffur newydd ar gyfer acne cronig. Y nod: datblygu ateb amgen cyflym, di-boen i ddulliau fferyllol traddodiadol, sy’n gallu bod â sgil-effeithiau hir-dymor.

Gwnaeth y prosiect ganolbwyntio ar wella system NeoGenâ„¢ Plasma, dyfais a luniwyd i ddarparu triniaeth anfewnwthiol,wedi’i thargedu. Roedd rôl ATiC yn ddeublyg – cipio data am ardal y driniaeth a chynnal gwerthusiad cynhwysfawr o’r profiad defnyddiwr (UX) ac ergonomig. 

Cyfraniad ATiC:

Cymhwysodd ATiC ei arbenigedd ym maes ymchwil a phrototeipio i asesu defnyddioldeb a pherfformiad clinigol y ddyfais.

Arbenigedd ATiC:

  • Cynnal astudiaeth UX fanwl gan ddefnyddio delweddu thermal, tracio llygaid symudol, ac offer prototeipio.
  • Gwerthuso ergonomeg a’r gallu i reoli’r ddyfais plasma NeoGenâ„¢, gan ganolbwyntio ar gysur, blinder clinigwyr ac effeithlonrwydd gweithredol.
  • Dadansoddi arferion triniaethau cyfredol i nodi risgiau tan- neu or-drin a hysbysu gwelliannau mewn canlyniadau cleifion.

Effaith:

Gwnaeth y gwaith cydweithredol hwn helpu Energist i fireinio’r system NeoGenâ„¢ at ddefnydd clinigol, gan gefnogi ei daith tuag at barodrwydd ar gyfer y farchnad a chynnig datrysiad newydd addawol ar gyfer gofal acne.

Gwybodaeth gysylltiedig