Diwrnod Agored Coleg Celf Abertawe (PCYDDS)
Ymunwch â ni yn ein Diwrnod Agored Coleg Celf Abertawe
Ymunwch â ni ar gyfer ein Diwrnod Agored nesaf i ddarganfod mwy am ein hystod eang o raddau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth israddedig ac ôl-raddedig.
- Ewch ar daith o gwmpas ein stiwdios a’n gweithdai pwrpasol.
- Dewch i gwrdd â’n darlithwyr a sgwrsio â’n myfyrwyr.
- Darganfyddwch pam y cawsom ein rhestru mewn safleoedd mor dda yn nhablau cynghrair 2024 y Guardian.
Ffasiwn a Thecstilau: 1af yng Nghymru a 3ydd yn y DU / Cynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth: 1af yng Nghymru a 4ydd yn y DU / Dylunio Graffig: 1af yng Nghymru ac 11eg yn y DU / Celf Gain: 1af yng Nghymru ac 21ain yn y DU
Mae’r pynciau yn y digwyddiad hwn yn cynnwys:
Celf a Dylunio Sylfaen | BA Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol | BA Crefftau Dylunio: Gwydr, Cerameg a Gemwaith | BA Ffilm a Theledu | BA Celf Gain | BA Dylunio Graffig | BA Darlunio | BA Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau | BA /BSc Dylunio Cynnyrch a Dodrefn | BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau | Portffolio Ôl-raddedig.
Os oes gennych ddiddordeb mewn BA Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth, archebwch drwy ein Diwrnod Abertawe SA1
Yn bwysicaf oll, cewch atebion i’r cwestiynau sy’n bwysig i chi.
Lleoliad
Swansea College Of Art
UWTSD
De-La Beche Street
Swansea
SA1 3EU
Y Deyrnas Unedig