Ҵý

Skip page header and navigation
Date(s)
-

Dyddiadau Graddio

Students throwing mortar boards in Swansea

Dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2025

Bydd amser y seremoni yn cael ei gadarnhau.

Bydd copi o’r Llyfryn Graddio ar gael i’w lawrlwytho cyn y digwyddiad.

Gwybodaeth Graddio

Os dymunwch fynychu Seremoni Raddio, y mae gofyn ichi wisgo’r wisg academaidd lawn sy’n briodol i’r dyfarniad y’ch derbynnir iddo. Eich cyfrifoldeb chi yw archebu hon eich hun ar .

Dylech archebu o leiaf 21 diwrnod cyn y seremoni gan na fydd Ede and Ravenscroft yn gwarantu’r archeb os daw i law yn hwyrach na hynny.  Peidiwch ag aros am ganlyniadau’r asesu terfynol.  Mae ad-daliadau ar gael os na allwch fynychu am unrhyw reswm, ond rhaid rhoi gwybod i Ede & Ravenscroft o fewn 7 diwrnod cyn y seremoni. Gellir dod o hyd i’w polisi canslo . Fe fydd Ede & Ravenscroft yn cydnabod eich archeb pan fydd wedi ei phrosesu ond mae’n bosib na fyddwch yn ei dderbyn tan 10 diwrnod cyn eich seremoni.

Rhowch UWTSD pan ofynnir ichi nodi enw eich sefydliad. Fe fydd angen i chi wybod cylchedd eich pen a mesuriadau eich brest a’ch taldra.

Bydd eich gwisg yn barod i chi i’w chasglu o’r lleoliad ar Ddiwrnod Graddio. Dychwelwch eich gwisg yma wedi eich seremoni.

Caniateir dau docyn gwestai i bob myfyriwr ond gallwch ofyn am docynnau ychwanegol os dymunwch. Unwaith y bydd nifer y myfyrwyr sy’n graddio wedi’i gadarnhau, penderfynir a ellir dyrannu tocynnau ychwanegol. Peidiwch â ffonio’r Gofrestrfa i ofyn a oes tocynnau ychwanegol ar gael. Bydd y tocynnau ar gael i’w casglu ar ddiwrnod y seremoni ond byddwch yn derbyn e-bost ymlaen llaw yn cadarnhau faint o docynnau y byddwch yn eu derbyn.

Nid yw’r seremonïau yn addas ar gyfer plant o dan 5 oed oherwydd natur ffurfiol y gweithrediadau.

Rydym yn cydnabod y gall cyfyngu ar docynnau i westeion fel hyn beri rhywfaint o siom, ond fe fyddwch yn gwerthfawrogi bod nifer y seddau yn y prif leoliad yn gyfyngedig.

Os oes gennych chi neu eich gwesteion anabledd / ofynion mynediad penodol y mae angen i ni wybod amdanynt, rhowch fanylion yn adran berthnasol ar y dudalen Cofrestru ar gyfer Graddio ar .

Dylid gwneud archebion am ffotograffau ffurfiol o flaen llaw yn uniongyrchol trwy .  

Ffrydio Byw

Dywedwch wrth eich ffrindiau a’ch teulu y gallant wylio’r seremoniau’n fyw! Bydd y seremoniau yn cael eu ffrydio’n fyw ar sianel YouTube y Brifysgol. 

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

  • Cynhelir y seremoni yn Neuadd Brangwyn.

  • E-bostiwch marchnata@ydds.ac.uk ar unwaith. Bydd y tîm yn gwirio eich cofnod ac yn ailanfon y gwahoddiad os yn briodol.

  • Ewch i a theipio eich rhif myfyriwr a’ch cyfrinair. Ewch i ‘Graddio Myfyrwyr’ ar y dudalen Gartref a dilyn y cyfarwyddiadau. 

  • Bydd angen i chi gyrraedd oddeutu ddwy awr cyn i’r seremoni ddechrau er mwyn rhoi amser i chi gasglu eich gwisg, rhif sedd a thocynnau gwestai. Fe fyddwn yn anfon gwybodaeth bellach ynghyd ag amserlen o ddigwyddiadau atoch wythnos cyn y seremoni.

    Bydd angen i chi fod yn eich sedd 45 munud cyn amser dechrau’r seremoni ac yn ystod yr amser hwn byddwch yn eistedd yn y sedd a ddyrannwyd i chi a bydd y Prif Dywysydd yn eich briffio.

  • Os oes gennych chi neu’ch gwesteion anabledd / gofynion mynediad penodol y mae angen i ni wybod amdanynt, rhowch. manylion yn y blwch ‘Manylion pellach’ ar MyTSD a byddwn yn ymdrechu i ddiwallu eich anghenion.

    Hefyd rhowch wybod i’r staff ar y diwrnod fel y gellir cynnig cymorth.

  • Gall gwesteion eistedd unrhyw le yn y lleoliad ar wahân i’r seddi neilltuedig a fydd wedi’u nodi’n glir.  Ceir mynediad i’r lleoliad trwy docyn yn unig a rhaid rhoi tocynnau i’r Stiwardiaid wrth y drysau. Bydd y drysau’n agor i westeion tua awr cyn dechrau’r seremoni.

  • Rhaid i raddedigion wisgo gwisg academaidd trwy gydol eu seremoni.  Mae pawb sy’n mynychu fel arfer yn gwisgo gwisg gymharol ffurfiol.

  • Ar ddechrau’r seremoni, bydd graddedigion a gwesteion yn sefyll fel y staff academaidd i’r neuadd. Yn dilyn croeso, bydd yr Is-Ganghellor a/neu uwch swyddogion eraill y Brifysgol yn eich annerch.

    Ar ôl darlleniad o’r Cyhoeddiad, cyflwynir graddedigion i’r Is-Ganghellor (neu ei henwebai). Bydd staff yn eich annog i symud ymlaen yn y drefn yr ydych yn eistedd.

    Bydd cyflwynydd yn darllen eich enw ar goedd ac ar yr adeg honno byddwch yn esgyn i’r llwyfan, yn cerdded tuag at yr Is-Ganghellor, yn ysgwyd ei llaw. Byddwch wedyn yn gadael y llwyfan ac yn dychwelyd yn ôl i’ch sedd.

    Yna bydd yr Is-ganghellor yn gofyn i bob myfyriwr sefyll a bydd hi wedyn yn eich llongyfarch yn ffurfiol. Dylech “doff” mewn ymateb a pharhau i sefyll i dderbyn Cyfarchion y Brifysgol.

  • Gan edrych ar yr Is-Ganghellor, plygwch eich pen ychydig a naill ai cydiwch ym mhigyn blaen eich cap neu codwch eich cap ychydig. 

  • Mae hyd y seremoni yn dibynnu ar nifer y myfyrwyr sy’n mynychu, ond fel arfer mae rhwng awr a 2 awr o hyd. Heblaw am eich cyflwyniad mae’n ofynnol i chi a’ch gwesteion aros yn eich sedd trwy gydol y seremoni.

  • Ѳ‵&Բ;RHAID i chi sicrhau eich bod chi wedi talu unrhyw ddyledion academaidd i’r Brifysgol. Cysylltwch â’r Swyddfa Gyllid ar unwaith i drafod eich opsiynau. Os oes gennych unrhyw ddyledion academaidd heb eu talu ac os nad ydych wedi gwneud unrhyw drefniadau gyda’r Swyddfa Gyllid i’w clirio, gallech chi gael eich eithrio o’r seremonïau graddio.

  • Cymuned o’n graddedigion yw’r Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr a byddwch yn ymuno’n awtomatig ar ôl i chi gwblhau’ch astudiaethau.

    Byddwch yn derbyn e-bost yn eich croesawi i’r rhwydwaith yn fuan ar ôl graddio felly gwnewch yn siŵr bod eich manylion cyswllt wedi’u diweddaru ar . Gall y rheiny sydd heb fynediad bellach i MyTSD lenwi ein ffurflen Diweddaru eich manylion.

    Am ragor o wybodaeth ar y Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr, ewch i: Cyn-fyfyrwyr | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (uwtsd.ac.uk)

  • Bydd tystysgrifau’n cael eu postio i raddedigion o fewn tua wyth wythnos i’r Bwrdd Dyfarnu.
    Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich tystysgrif ar ôl yr amser hwn, cysylltwch â’r Gofrestrfa.

    Ni roddir tystysgrifau i fyfyrwyr nad ydynt wedi gwneud trefniadau gyda’r i glirio dyledion heb eu talu.

  • O hwdis i deis, tedis a matiau diod, gallwch brynu amrywiaeth o nwyddau Y Drindod Dewi Sant yn y Siop Raddio ar wefan neu ymwelwch â’r stondin nwyddau ar Ddiwrnod Graddio.

Lleoliad

Brangwyn Hall
Guildhall
Swansea
SA14EP
Y Deyrnas Unedig

Rhannwch y digwyddiad hwn

Tagiau