ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation
Date(s)
-

Event

Fel rhan o gyfres o Sgyrsiau Cyflogwyr sydd wedi’u trefnu gan ein tîm Gyrfaoedd PCYDDS, mi fyddwn yn croesawu yn ôl myfyrwraig raddedig Busnes, Beth Thomas, i siarad am ei gyrfa ym myd cyfryngau cymdeithasol.

Ers iddi raddio yn 2013, mae Beth wedi llwyddo adeiladu gyrfa lwyddiannus iddi hi ei hun, gyda rolau allweddol â brandiau mawr fel Brichbox, Deliveroo a TikTok. Nawr, fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cyfryngau Cymdeithasol gyda Frankly a chrëwr cynnwys llawrydd lle mae’n dod â’i harbenigedd i amrywiaeth o brosiectau, mae Beth yn parhau i lunio’r diwydiant.

Wedi’i chydnabod am ei dylanwad, cafodd ei henwi’n un o’r 25 Marchnatwyr Gorau i’w Ddilyn yn 2025 gan Girls in Marketing.

Mae’r digwyddiad ar agor i fyfyrwyr, cyn-fyfyrwyr ac aelodau o staff. 

Rhannwch y digwyddiad hwn

Tagiau