
Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin
Cyflwyniad
Mae Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin yn cynnal digwyddiadau therapiwtig mewn lleoliadau awyr agored naturiol. Wedi’i sefydlu yn 2022 yn agos i dref Caerfyrddin, mae’r Hwb yn cynnig canolfan ar gyfer ystod o weithgareddau, gan gynnwys; teithiau cerdded synhwyraidd, teithiau cerdded iechyd, gwneud tanau, gwau helygen fyw, tendio i’r ardd gymunedol a mwy!
Rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i gynnal gweithgareddau sy’n hyrwyddo llesiant, bondio cymdeithasol, a gwybodaeth am y byd naturiol.
Beth sydd Ymlaen
Rydym yn cynnig amserlen o weithgareddau rheolaidd yn ogystal â rhai digwyddiadau arbennig. Dewch nôl yn rheolaidd i weld beth sydd ymlaen y mis yma.
Mae’r holl weithgareddau’n rhad ac am ddim oni ddywedir fel arall.
Sesiynau Coed Lleol -11am i 2pm
Cefnogwch eich llesiant trwy dreulio amser yn Yr Hwb Iechyd Gwyrdd gyda Choed Lleol / Small Woods Wales. Dewch i gwrdd â phobl newydd, dysgu sgiliau newydd, rhoi cynnig ar rywbeth newydd, treulio amser mewn natur a chael seibiant. Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau, ac mae croeso i bawb.
Dyddiad | Pwy ddylai ddod? | Gweithgareddau |
---|---|---|
Dydd Sadwrn 24 Awst | Oedolion a theuluoedd | Gwehyddu helyg |
Dydd Iau 26 Medi – 31 Hydref yn gynhwysol | Oedolion | Dathlu’r Hydref |
Dydd Sadwrn 28 Medi | Oedolion a theuluoedd | Printio leino a phrintio/cerfio coed wedi’i ysbrydoli gan natur |
Dydd Sadwrn 26 Hydref | Oedolion a theuluoedd | Canu wedi’i ysbrydoli gan natur |
Dydd Iau 21 Tachwedd | Oedolion | Coginio ar dân gwersyll a fforio yn y gaeaf |
Dydd Iau 12 Rhagfyr | Oedolion | Gwylltgrefft ac adrodd straeon |
Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Awyr Agored Am Ddim
23rd Mis Hydref, 10am-4pm
*Nodwch, nad yw hwn yn gymhwyster cymorth cyntaf awyr agored llawn. Mi fydd tystysgrif presenoldeb yn cael ei darparu ar ddiwedd yr hyfforddiant.

Teithiau Cerdded Pwrpasol
Teithiau Cerdded Synhwyraidd

Rydym yn cynnig teithiau cerdded Synhwyraidd. Rydym wedi’u creu gyda phobl ag anableddau, gofalwyr, ac ymarferwyr proffesiynol anabledd mewn golwg, er bod croeso i bawb ymuno ag un. Ar y teithiau cerdded hyn gallwch archwilio’r byd o’ch cwmpas trwy olwg, arogl, sŵn a chyffwrdd.
Teithiau Cerdded Iechyd Wythnosol

Ymunwch â ni ar ein teithiau cerdded iechyd wythnosol, bob dydd Mawrth am 10.30am.
Cynefin

Lleoliad
Mae’r Hwb wedi’i lleoli llai na dwy filltir o ganol Caerfyrddin. Wedi’i lleoli mewn cae yng nghanol coetir a thir fferm ac yn edrych dros yr Afon Tywi, mae ein lleoliad tawel yn ddelfrydol i archwilio’r awyr agored, dysgu sgiliau ymarferol, neu eistedd wrth y llosgwr pren gyda’r nos.
Dim ond trwy drefnu gydag Andrew Williams ymlaen llaw y ceir mynediad i’r safle.
Teithio
-
Mae lle parcio ar gael ar y safle.
Mewn car, mae’r Hwb bum munud o Gaerfyrddin, neu un awr o Abertawe gan ddilyn yr M4 a’r A48.
-
Mae gwasanaethau bws 226 a 227 Caerfyrddin yn stopio ar Heol Llansteffan, taith fer ar droed o’r Hwb. Nid ydynt yn rhedeg ar ddyddiau Sul.
-
Ar hyn o bryd rydym yn datblygu gwelliannau i’n mynediad i bobl anabl.
-
Gallwch gerdded i’r Hwb o Gaerfyrddin mewn tua 30 munud ar hyd llwybr troed sy’n dilyn yr Afon Tywi.
Oriel
Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni os hoffech wybod rhagor am waith partneriaeth gyda’r Hwb Iechyd Gwyrdd neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hyn a gynigwn.
