Anrhydeddu Joanna Cathersides, un o raddedigion PCYDDS, â Bwrsariaeth Gweithgareddau Allgyrsiol am Ymrwymiad a Chyfraniad Eithriadol
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi bod Joanna Cathersides, sy’n graddio o’r rhaglen Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff, wedi derbyn y Fwrsariaeth Gweithgareddau Allgyrsiol nodedig i gydnabod ei hymroddiad, ei gwytnwch a’i gwaith gwirfoddol eithriadol drwy gydol ei hastudiaethau.

O’i blwyddyn gyntaf, fe wnaeth Joanna ymgolli ym mywyd y Brifysgol a’r Academi Chwaraeon, er nad oedd ganddi brofiad blaenorol mewn chwaraeon. Yn ystod ei chwrs tair blynedd, cefnogodd dimau’r Brifysgol yn gyson, gan ymrwymo i nifer o leoliadau gwaith, a chwarae rhan ganolog mewn digwyddiadau lle roedd angen triniaeth meinwe meddal.
Yn sgil ei hymrwymiad diwyro, mynychodd ddigwyddiad Ironman Dinbych-y-pysgod bob blwyddyn, yn aml gan weithio sifftiau hir, ar ben cyflawni gofynion ei lleoliad gwaith. Roedd Joanna yn sefyll allan fel yr unig fyfyriwr i wneud hynny, gan arddangos ei hunan-gymhelliant a’i hangerdd dros y maes.
Dywedodd Cyfarwyddwr Academaidd PCYDDS, Dr Dylan Blain:
“Llongyfarchiadau i Joanna ar ennill y wobr hon. Mae hi wedi dangos ymrwymiad sylweddol i weithgareddau allgyrsiol drwy gydol ei hamser yn y Brifysgol drwy gefnogi ystod o weithgareddau chwaraeon. Mae bob amser yn braf gweld myfyrwyr yn manteisio ar yr ystod o gyfleoedd sydd ar gael iddynt. Mae’r cysylltiadau rhwng cyrsiau academaidd ac academi chwaraeon PCYDDS yn darparu cyfleoedd gwych i fyfyrwyr ennill profiadau a sgiliau ymarferol gwerthfawr o weithio mewn Chwaraeon. Mae Joanna wedi manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyn sy’n gysylltiedig â Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff ac rydym yn falch iawn o’i gweld yn cael ei gwobrwyo am ei hymrwymiad gyda’r wobr hon.”
Dechreuodd taith Joanna yn y coleg lle cwblhaodd gymhwyster hyfforddwr personol, gan ennyn diddordeb brwd mewn atal anafiadau ac adsefydlu. Meddai:
“Rydw i wastad wedi bod wrth fy modd â chwaraeon ac roeddwn i eisiau cyfuno fy niddordebau â chwrs a fyddai’n rhoi profiad ymarferol i mi. Roedd PCYDDS yn cynnig hynny, ynghyd ag amgylchedd dysgu mwy personol, diolch i ddosbarthiadau llai.”
Manteisiodd ar bob cyfle yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol, gan ennill profiad amhrisiadwy ar leoliadau gwaith.
“Gweithiais gyda’r Scarlets yn darparu triniaethau iddynt yn ogystal â gweithio mewn digwyddiadau fel Iron Man Dinbych y Pysgod, a oedd yn ffyrdd gwych o roi amcan i mi o ba fath o lwybr y byddwn am ei ddilyn gyda fy ngyrfa.”
Er bod ysgrifennu academaidd wedi profi i fod yn rhwystr personol, mae’n rhoi clod i diwtoriaid cefnogol PCYDDS am ei helpu i oresgyn yr heriau hynny. Yn ôl Joanna,
“Mae’r cwrs hwn wedi rhoi’r hyder, y sgiliau a’r cysylltiadau sydd eu hangen arnaf i ddechrau fy ngyrfa mewn therapi chwaraeon. Byddwn yn ei argymell i unrhyw un sydd am gael gwybodaeth a phrofiad o’r byd go iawn yn y maes hwn.
“Byddwn yn argymell y cwrs hwn i bobl sydd am ddilyn y llwybr therapi chwaraeon ac sydd am ennill gwybodaeth a phrofiad am yr ochr chwaraeon o driniaethau, adsefydlu ac anafiadau.”
Ar ôl graddio, mae Joanna yn bwriadu gweithio gyda thimau chwaraeon sy’n darparu cymorth ar ochr y cae ac mae hefyd yn archwilio cyfleoedd o fewn y GIG.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476