Archif Gwydr Lliw Abertawe Ar Gael i’r Cyhoedd am y Tro Cyntaf
Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyhoeddi lansio Archif Ar-lein Gwydr Lliw Abertawe, casgliad chwiliwadwy sydd newydd ei ddigideiddio o gannoedd o baneli gwydr lliw a grëwyd gan fyfyrwyr Coleg Celf Abertawe dros y pum degawd diwethaf.

Mae gwreiddiau addysgu gwydr lliw yn Abertawe yn dyddio yn ôl i’r 1930au ac o’r 1970au ymlaen, cafodd ddylanwad rhyngwladol a thrawsnewidiol ar ei addysgu a’i arfer, wrth i fyfyrwyr o’r ardal leol a bell i ffwrdd cael eu denu i astudio yn y ddinas.
Cafodd dulliau newydd o arloesi gwydr lliw pensaernïol yn yr Almaen eu hannog gan arweinydd y cwrs, Tim Lewis, yn y 1970au a’r 1980au, a gwahoddwyd artistiaid Almaenig enwog i addysgu yn y coleg. Meithrinodd yr amgylchedd arbrofol hwn artistiaid a ychwanegodd dechnegau gwydr lliw traddodiadol gyda’r dulliau newydd a oedd yn angenrheidiol ar gyfer creu gweithiau artistig mawr mewn gwydr ar gyfer amrywiaeth eang o adeiladau. O’r 1970au ymlaen, dechreuodd myfyrwyr o Abertawe yrfaoedd llwyddiannus yn gwneud amrywiaeth eang o wydr lliw pensaernïol ar gyfer pob math o adeiladau ar draws y byd.
Mae paneli’r myfyrwyr yng Ngholeg Celf Abertawe yn ffurfio’r casgliad mwyaf eang sy’n berthnasol i ddatblygiad gwydr lliw pensaernïol yn ail hanner yr ugeinfed ganrif unrhyw le ym Mhrydain. Mae llawer o’r cannoedd o baneli yn yr archif o arddangosfeydd a chystadlaethau’r myfyrwyr, gan gynnwys gwaith cynnar arbrofol gan rai o’r artistiaid mwyaf blaengar i weithio ym maes gwydr lliw dros y pum deg mlynedd diwethaf.
Er bod rhai o’r paneli’n cael eu harddangos o bryd i’w gilydd ac eraill yn cael eu harddangos yn y coleg, nid yw llawer wedi cael eu gweld ers degawdau. Gwnaeth Marilyn Griffiths y gwaith cychwynnol ar yr archif, sydd hefyd yn cynnwys gweithiau ar gartwnau a dyluniadau gwydr lliw, yn y 2010au pan oedd hi’n darlithio yn y coleg.
Aeth Martin Crampin, artist a hanesydd gwydr lliw, (Prifysgol Cymru, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth) a’r artist gwydr lliw Christain Ryan (Coleg Celf Abertawe) ati yn 2024-25 i gatalogio a thynnu lluniau o’r paneli. Ariannwyd hyn gan Ymddiriedolaeth Colwinston.
Dywedodd Martin Crampin: “Mae’r archif hon yn dathlu’r ysbryd creadigrwydd ac arbrofi a ddiffiniodd addysgu gwydr lliw yn Abertawe. Mae’n dangos angerdd a gweledigaeth staff a myfyrwyr yn Abertawe a luniodd wydr lliw pensaernïol modern ym Mhrydain. Mae’n bleser gennym sicrhau bod y gweithiau celf hynod ddiddorol hyn ar gael i ymchwilwyr rhyngwladol a’r cyhoedd ehangach.”
Mae Archif Gwydr Lliw Abertawe yn atgyfnerthu ymrwymiad hirdymor PCYDDS i arloesi artistig a chadwraeth hanesyddol. Yn ogystal, mae’n cydnabod pwysigrwydd gwaith myfyrwyr, nid yn unig fel ymarfer ar gyfer dysgu, ond fel cyfraniad gwirioneddol at dreftadaeth ddiwylliannol.
Mae’r gronfa ddata chwiliadwy ar gael yn ac mae mwy o baneli yn cael eu hychwanegu o hyd. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ddi-deitl, yn ddienw, ac yn ddi-ddyddiad a byddwn yn ddiolchgar i dderbyn gwybodaeth ychwanegol gan gyn-staff a myfyrwyr amdanynt. Gellir cyflwyno sylwadau, cywiriadau, ac unrhyw fanylion pellach ar dudalennau’r gweithiau celf unigol.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071