Ash Lewis yn ennill Gobr Goffa Carl John i Fyfyrwyr Ieuenctid a Chymuned
Bydd Ash Lewis yn graddio heddiw gyda BA Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen (ETS) a gymeradwywyd yn ystod Seremonïau Graddio campws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).

Mae Ash hefyd wedi ennill Gwobr Goffa nodedig Carl John am Astudiaethau mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned am yr ymroddiad a’r ymrwymiad y maent wedi’i ddangos i’w hastudiaethau a’u hymarfer Gwaith Ieuenctid. Enillon nhw’r wobr ar y cyd a’u cydfyfyrwyr Holly Gooch. Enwir y wobr ar ôl Carl John, cyn-ddarlithydd Gwaith Ieuenctid ar gampws Caerfyrddin a fyddai wedi bod yn hynod falch o gyflawniadau a datblygiad Ash yn ystod eu hamser ar y radd, yn enwedig eu hymroddiad diwyro i sicrhau bod pob person ifanc yn cael eu cynrychioli, yn cael gwrandawiad, ac yn cael eu grymuso i sefyll i fyny a lleisio eu barn.
Dywed Ash, sy’n dod o Gaerfyrddin, ond yn wreiddiol o Foncath:
“Syrthiais i mewn i waith ieuenctid pan ddechreuais grŵp Ieuenctid LHDTQ+ yng Nghaerfyrddin a phenderfynais gael cymhwyster yn y maes wrth i mi syrthio mewn cariad â gwaith ieuenctid.
“Fe wnes i gais am y cwrs Gwaith Ieuenctid gyda’r flwyddyn sylfaen gan nad oedd gen i gymwysterau Safon Uwch ac roeddwn i’n ddigon ffodus i gael fy nerbyn. Mae’r cwrs wedi fy herio mewn cymaint o ffyrdd ond mae hefyd wedi fy ngalluogi i fod yn fi fy hun. Fel person anneuaidd, mae’r gefnogaeth a gefais gan y brifysgol, y darlithwyr a’r myfyrwyr wedi bod yn wych a byddwn yn argymell Y Drindod Dewi Sant i ffrindiau eraill sy’n drawsryweddol gan fy mod wedi cael fy nhrin â pharch bob amser.
“Fe wnes i fwynhau’r cwrs yn fawr ac mae gallu archwilio’r gwaith trwy lens pobl ifanc LHDTQ+ wir wedi caniatáu imi ffynnu ac yn y dyfodol byddwn wrth fy modd yn dechrau mwy o grwpiau ieuenctid ar gyfer cymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae’r cwrs wedi rhoi cymaint o offer i mi ac rwy’n ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i astudio yng Nghaerfyrddin”.
Mae’r rhaglen a gynigir yn llawn amser ac yn rhan-amser yn cynnig cymhwyster proffesiynol i fyfyrwyr, a thrwy lens gwyddorau cymdeithasol, mae’n archwilio heriau cyfredol a chyfoes sy’n wynebu pobl ifanc.
Meddai Dr Nichola Welton, Cyfarwyddwr Academaidd: “Yn aml yn cael ei adnabod fel y ‘gyfrinach orau a gedwir’, mae gwaith ieuenctid yn ddull pwerus o gefnogi pobl ifanc i feithrin gwytnwch a dyfeisgarwch, ac i gyflawni eu potensial llawn. Mae gwaith ieuenctid yn seiliedig ar ddatblygu perthnasoedd da a chadarnhaol gyda phobl ifanc, ac mae’n gweithredu fel sylfaen ar gyfer cefnogi pobl ifanc trwy ystod o faterion. Dyma pam fod y radd gwaith ieuenctid yn aml yn cael ei hystyried gan broffesiynau eraill fel cymhwyster hynod ddymunol”.
Meddai Angharad Lewis, Rheolwr y Rhaglen: “Mae wedi bod yn fraint gweld cynnydd a thaith Ashley dros y 4 blynedd diwethaf. Nid yn unig mae Ash wedi cael effaith sylweddol ar fywydau pobl ifanc yn rhanbarth De-orllewin Cymru a thu hwnt, maent hefyd wedi mentora nifer o fyfyrwyr Gwaith Ieuenctid eraill sydd wedi bod ar leoliad ym Mhrosiect Ieuenctid Caerfyrddin – y prosiect ieuenctid lle cafodd Ash waith llawn amser yn ystod eu hamser ar y rhaglen radd. Yn 2022, pan gynhaliwyd Cynhadledd Digartrefedd Ieuenctid ranbarthol yn Y Drindod Dewi Sant, cyflwynwyd cyfle i Ash gyflwyno gweithdy, a chynlluniodd a hwylusodd Ash weithdy yn canolbwyntio ar leisiau pobl ifanc LHDTC+ yng nghyd-destun digartrefedd ymhlith pobl ifanc, yn seiliedig ar eu hymarfer Gwaith Ieuenctid eu hunain, gyda Chadeirydd Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru yn un o gyfranogwyr y gweithdy. Fel siaradwr Cymraeg rhugl, gwnaeth Ash y gorau o’r cyfleoedd a’r cymorth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn nhîm y rhaglen Gwaith Ieuenctid ac o fewn gwasanaethau ehangach y Brifysgol, ac astudiodd rai modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg ar Lefel 4. Mae Ash yn Weithiwr Ieuenctid ardderchog – yn eiriolwr angerddol dros bobl ifanc a’u hawliau – ac edrychwn ymlaen at weld beth sydd gan y dyfodol i Ash”.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07968&Բ;249335