Athletwyr o’r Drindod Dewi Sant yn ffynnu ym maes Chwaraeon, Arweinyddiaeth ac Effaith Gymunedol
Mae tri athletwr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn rhagori yn eu disgyblaethau chwaraeon a hefyd yn cael effaith ystyrlon yn eu cymunedau drwy hyfforddi ac arwain.
Mae Jordan Discombe, Bekka Pratt, ac Emily Thomas wedi cael llwyddiant ysgubol o fewn eu meysydd, diolch i’w hymroddiad a chefnogaeth gan eu clybiau yn arbennig. A hwythau’n aelodau o Glwb Chwaraeon Unigol Academi Chwaraeon PCYDDS, maent yn cynrychioli’r Brifysgol yng nghystadlaethau BUCS (Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain) tra’n parhau i ysbrydoli eraill trwy eu harweinyddiaeth a’u hymdrechion gwirfoddoli.
Wrth i’r flwyddyn newydd fynd rhagddi, mae straeon Jordan, Emily a Bekka yn ysbrydoliaeth i eraill i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a gwirfoddoli, gan hyrwyddo iechyd a llesiant ar draws cymunedau.
Mae Jordan yn fyfyriwr Therapi Chwaraeon ar ei flwyddyn olaf yn PCYDDS, a hefyd yn Gadeirydd y Clwb Chwaraeon Unigol o fewn Academi Chwaraeon y Brifysgol am yr ail flwyddyn yn olynol. Meddai:
“Ymunais â’r Academi Chwaraeon oherwydd y manteision o ddefnyddio cyfleusterau’r brifysgol. Mae’r academi yn gaffaeliad gwych i’r brifysgol, a chredaf y bydd yn parhau i dyfu a datblygu dros amser. Mae wedi caniatáu i mi wneud sesiynau hyfforddi tra rwy yn y brifysgol. Gan fy mod i’n byw 45 munud i ffwrdd yn Abertawe, roedd yn anodd i ddechrau gan fy mod i’n colli amser hyfforddi oherwydd y teithio, ond mae cyfleusterau’r academi wedi ei gwneud yn haws cydbwyso popeth.”
Ac yntau’n driathletwr, yn Ironman ac yn rhedwr medrus, mae Jordan yn cystadlu gyda GJ Endurance, clwb Triathlon Cwm Tawe, a Harriers Port Talbot. Ar hyn o bryd mae’n paratoi ar gyfer Challenge Roth yn yr Almaen, y triathlon pellter hir mwyaf yn y byd, lle bydd yn nofio 3.8km, yn seiclo 180km, ac yn rhedeg 42.2km.
Mae ei gyflawniadau hyfforddi yr un mor drawiadol. Fel Hyfforddwr Ardystiedig Ironman, Hyfforddwr Personol Lefel 3, a Hyfforddwr Triathlon Lefel 2 Prydeinig, mae’n mentora 44 o athletwyr 18+ oed yn rhan o Dîm Hyfforddi GJ Endurance. Mae hefyd yn trefnu sesiynau hyfforddi ac yn gweithredu fel Hyfforddwr Nofio’r Clwb i glwb Harriers Port Talbot.
Ychwanegodd:
“Mae fy amser yn y brifysgol yn sicr wedi helpu i wella fy ngwybodaeth a’m harferion hyfforddi. Fy nghamp fwyaf hyd yn hyn yw troi hobi rwy’n ei garu yn swydd a hefyd bod dwy flynedd i mewn i’m gradd brifysgol. Yn 35 oed pan ddechreuais i, doeddwn i byth yn meddwl y byddai hyn yn bosibl.”

Mae Emily Thomas yn fyfyrwraig MSc Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff ran amser ar ei hail blwyddyn, ac yn athletwraig ryngwladol brofiadol. Penderfynodd astudio yn PCYDDS am ei bod yn cynnig y cwrs yr oedd ganddi ddiddordeb ynddo gydag achrediad, ac roedd y strwythur dysgu yn gweddu i’w ffordd o fyw, gan olygu y gallai barhau i weithio a hyfforddi ochr yn ochr â’i hastudiaethau.
Mae Emily’n cystadlu dros Archers Caerdydd yn y naid hir ac mae hefyd yn edrych ymlaen at gystadlu dros y Brifysgol ym mhencampwriaeth athletau dan do BUCS ym mis Chwefror. Ychwanegodd:
“Mae Academi Chwaraeon PCYDDS yn wych, ac fel athletwyr chwaraeon unigol, mae’n cynnig amgylchedd tîm i ni. Mae’r Academi wedi cynnig llawer o gefnogaeth i mi fel athletwraig a gan fy mod i’n astudio o bell mae bob amser wedi aros mewn cysylltiad ac wedi cynorthwyo gyda fy hyfforddiant mewn unrhyw ffordd bosibl.”
Mae’n hyfforddwraig gymwysedig gydag Athletau Cymru ac yn hyfforddi grŵp datblygu o athletwyr dan 15 a dan 17 yn y campau neidio, sbrintio a champau cyfunol gydag Archers Caerdydd. Penderfynodd Emily ddechrau hyfforddi gan ei bod yn rhan o’r rhaglen iau yn ei chlwb pan oedd yn tyfu i fyny ac roedd wrth ei bodd â’r syniad o fod yn rhan o daith athletau athletwyr iau a’u helpu i syrthio mewn cariad â’r gamp fel y gwnaeth hi.

Mae Bekka yn fyfyrwraig Peirianneg Chwaraeon Moduro ar ei blwyddyn gyntaf yn PCYDDS. Penderfynodd astudio yn PCYDDS am ei bod yn hyfforddi gyda Harriers Abertawe, oedd yn caniatáu iddi gydbwyso ei hymrwymiadau yn y brifysgol yn llwyddiannus gyda’i hathletau. Mae’n cystadlu yn y naid bolyn, taflu pwysau, taflu’r morthwyl, taflu’r waywffon a’r naid hir a bydd hefyd yn cystadlu ar ran y Brifysgol yn athletau dan do BUCS ym mis Chwefror.
Yn ddiweddar ymunodd â’r Academi Chwaraeon, a hyd yn hyn mae’r gefnogaeth wedi bod yn ddefnyddiol iddi ac mae wedi cael cyngor ar gryfder, cyflyru a maeth.
Mae’n hyfforddwraig gynorthwyol gymwysedig gydag Athletau Cymru ac mae ganddi grŵp o athletwyr 9-14 oed y mae’n eu hyfforddi ar y trac yn Abertawe. Ychwanega:
“Penderfynais ddechrau fy nhaith hyfforddi gan fy mod i’n meddwl ei bod yn bryd i mi dalu’n ôl i’r clwb ar ôl cynifer o flynyddoedd, a hefyd oherwydd y mwynhad sy’n dod o wylio plant iau yn dangos yr un brwdfrydedd â mi pan oeddwn innau eu hoedran nhw. Yn y pen draw byddaf yn gweithio fy ffordd i fyny i ddod yn hyfforddwraig cwbl gymwys.
Meddai Pennaeth Chwaraeon Unigol Academi Chwaraeon PCYDDS, Sharon Leech:
“Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda’r athletwyr hyn a chadw mewn cysylltiad â nhw ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut maen nhw’n datblygu, wrth eu gwaith/yn hyfforddi ac yn eu gyrfaoedd ym myd athletau.”
I gael rhagor o wybodaeth am Academi Chwaraeon PCYDDS, ewch i: Academi Chwaraeon | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476