Crefft y Gorffennol: Cadair Canol y Ganrif Lewis Parry yn Cael ei Chydnabod yn Abaty San Steffan
Llongyfarchiadau i fyfyriwr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Lewis Parry sy’n graddio heddiw gyda BA mewn Dylunio Cynnyrch a Dodrefn. Mae cadair wedi’i hysbrydoli gan ganol y ganrif a ddyluniwyd gan Lewis eisoes wedi denu sylw nid yn unig am ei chrefftwaith cain ond hefyd am y stori nodedig y tu ôl i’w chreu, gan arwain at gyflwyniad i Abaty Westminster ei hun.

Ni chyrhaeddodd Lewis, myfyriwr yng Ngholeg Celf Abertawe’r Brifysgol, y brifysgol trwy’r llwybr confensiynol. Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed i astudio dodrefn a gwneud cypyrddau, treuliodd sawl blwyddyn yn hogi ei sgiliau gyda gwahanol gwmnïau cyn sylweddoli nad oedd troi angerdd yn broffesiwn mor syml ag yr oedd yn ymddangos.
“Roeddwn i wrth fy modd â gwneud cabinetau fel hobi,” meddai Lewis, “ond stori arall oedd hi fel swydd.” Pan amharodd COVID-19 ar ei flwyddyn olaf, symudodd Lewis i fanwerthu, ond yn fuan roedd e’n gwybod bod eisiau rhywbeth mwy arno. “Doeddwn i ddim am dreulio fy mywyd yno,” meddai. “Roedd angen i mi wneud rhywbeth oedd yn golygu rhywbeth i mi.”
Arweiniodd y penderfyniad hwnnw ef i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi’i ddenu gan y staff cyfeillgar, treftadaeth ddylunio gref, ac, fel y mae’n dweud yn gellweirus, “y ffaith nad oeddwn i erioed wedi byw ar lan y môr.”
Gan neidio ymlaen i’w flwyddyn olaf, dyma Lewis yn ymgymryd â phrosiect hunangyfeiriol beiddgar: dylunio cadair bwrpasol ar gyfer lleoliad eiconig. Ysgrifennodd at amrywiaeth o sefydliadau Prydeinig gan gynnwys Abaty Westminster ac wedyn aros. Wyth mis a dros 2,500 o ddogfennau dylunio yn ddiweddarach, dyma Lewis yn sefyll o flaen cynrychiolwyr un o dirnodau mwyaf hanesyddol y DU, yn cyflwyno’r gadair a fyddai’n coroni’i radd.
Mae’r gadair, sydd wedi ei thrwytho yn nylanwadau dylunio canol y ganrif, yn cyfuno symlrwydd modernaidd â ffurf oesol a chrefftwaith cyffyrddol. Mae pob cromlin a chymal yn adlewyrchu nid yn unig allu technegol Lewis, ond hefyd ei weledigaeth a’i benderfyniad.
“Mae’n anodd iawn dylunio cadair heb leoliad,” meddai. “Rhoddodd Abaty Westminster ystyr a ffocws i’r prosiect. Roedd hi’n fythgofiadwy ei chyflwyno hi yno.”
Ond nid yw taith Lewis wedi bod heb ei heriau. Fel rhywun sydd â dyslecsia difrifol, roedd elfennau ysgrifenedig y cwrs wedi creu braw.
“Roedd ysgrifennu yn rhywbeth oedd yn anodd i mi,” mae’n cyfaddef. “Ond des i mewn dod bob wythnos, gweithio trwy’r haf, a chael cymorth gwych gan y tîm gwasanaethau myfyrwyr. Erbyn mis Medi, roedd gen i ddrafft cadarn o fy nhraethawd hir.” Mae ei ddyfalbarhad yn arwydd o’i agwedd gyfan at fywyd prifysgol, gan drin y gwaith gydag ymroddiad swydd amser llawn, cyrraedd erbyn 7.30 y bore ac yn aml gweithio yn hwyr gyda’r nos.
Ymhlith uchafbwyntiau eraill y cwrs roedd prosiect ail flwyddyn gydag IKEA, a aeth â Lewis i Sweden a Denmarc.
“Fe ymwelon ni ag Amgueddfa IKEA ac archwilio Copenhagen. Roedd hi’n 48 awr ddwys ond hynod o ysbrydoledig.” Helpodd y profiadau hyn i ddyfnhau ei ddealltwriaeth o ffurf, swyddogaeth, a’r dirwedd ddylunio fyd-eang.
Mae Lewis yn canmol amgylchedd dysgu cefnogol PCYDDS. “Mae’r staff yn wybodus, yn amyneddgar, ac yn eich annog chi i wthio ffiniau. Mae’r maint dosbarthiadau bach yn golygu eich bod chi’n cael llawer o amser un-i-un. Hefyd, mae’r tair blwyddyn yn rhannu stiwdio, sy’n creu awyrgylch cydweithredol, cryf.”
Ar ôl datblygu sgiliau mewn CAD, gwneud modelau, a chyflwyno, bellach mae Lewis yn edrych ymlaen. “Fy mreuddwyd i yw gwneud gradd meistr ym Milan mewn dylunio dodrefn neu reoli busnes,” meddai. “Ond am y tro, rwy’n anelu at weithio am ychydig o flynyddoedd, neu efallai hyd yn oed ddechrau fy stiwdio fy hun. Y naill ffordd neu’r llall, ar yr amod y bydda i’n dylunio, fe fydda i’n hapus.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476