Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi’i phartneriaeth barhaus â’r Artists Futures Fund (AFF) ac mae’n gwahodd myfyrwyr cyfredol a graddedigion diweddar Coleg Celf Abertawe i wneud cais am Gymrodoriaeth Cychwyn Gyrfa i Artistiaid 2025/26.

Logo of Artists Futures Fund

Mae’r Gymrodoriaeth arobryn hon yn cynnig cyfle trawsnewidiol i artistiaid gweledol sy’n dod i’r amlwg sy’n awyddus i lansio gyrfaoedd cynaliadwy a fydd yn cael effaith yn y diwydiannau creadigol.  Mae PCYDDS yn galw ar yr holl fyfyrwyr israddedig yn y flwyddyn olaf a myfyrwyr MA (sy’n graddio yn 2025), yn ogystal â chyn-fyfyrwyr a raddiodd o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf, i wneud cais am y fenter hon sy’n newid bywydau.

Lleolir y Cymrodyr llwyddiannus yn eu prifysgol letyol am flwyddyn galendr lawn. Rhoddir stiwdio iddynt yn yr adran Celf Gain, mynediad at gyfleusterau gweithdy a llyfrgell ac fe’u cefnogir gan fentor addysgu.

Mae ffocws y Cymrodoriaethau ar ddatblygu arfer yn barhaus, ac ochr yn ochr â hynny bydd y Cymrodyr yn cynorthwyo i addysgu’r myfyrwyr cyfredol yn eu prifysgol letyol.

Mae Buddion y Gymrodoriaeth yn Cynnwys: 

  • Bwrsari £10,000 Heb Gyfyngiadau:  Wedi’i lunio i liniaru rhwystrau ariannol a chaniatáu i Gymrodyr ganolbwyntio ar ddatblygu eu harfer creadigol. 
  • Mynediad Amser Llawn i Stiwdio:  Mae cymorth anariannol gan PCYDDS yn cynnwys mynediad at ardal stiwdio, cyfleusterau, ac adnoddau technegol. 
  • Mentora: Caiff cymrodyr eu paru â mentor academaidd sy’n darparu cyfarwyddyd proffesiynol sydd wedi’i deilwra. 
  • Datblygiad Gyrfa a Proffesiynol: Caiff cymrodyr fudd o raglen strwythurol a gyflwynir ar-lein ac wyneb yn wyneb, ynghyd â chymorth parhaus i gyn-fyfyrwyr. 
  • Ymgysylltu â’r Cyhoedd ac Arddangosfa:  Caiff cymrodyr brofiad mewn ymgysylltu cymunedol a byddant yn cyd-guradu arddangosfa grŵp derfynol. 
  • Rhwydweithio: Cyfleoedd helaeth i gysylltu â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant a chymheiriaid.  

Meddai’r Athro Sue Williams, Rheolwr Rhaglen Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun, Artist Gweledol ac Ymchwilydd yn PCYDDS:  

“Rydym ni’n hapus dros ben i fod mewn partneriaeth â’r Artists Future Fund 2025/26.  Mae Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun yn Abertawe yn gwrs unigryw sydd wedi’i seilio ar bwysigrwydd cymuned stiwdio.  Bydd y Gymrodoriaeth yn dod yn ychwanegiad pwysig at ein deialog greadigol ymhlith staff a myfyrwyr, gan alluogi, yn ei dro, y cymrawd i ddatblygu a gyrru’i uchelgeisiau mewn amgylchedd creadigol, lle hanfodol o fewn byd sy’n parhau i herio a tharfu.  Mae’n cynnig cam i fyny i fyfyriwr graddedig neu gyn-fyfyriwr sy’n dymuno cychwyn dyfodol o fewn y celfyddydau gweledol gyda’n cymorth.”

Mae’r Gymrodoriaeth Cychwyn Gyrfa i Artistiaid wedi’i llunio i gefnogi artistiaid sy’n wynebu rhwystrau sylweddol yn economaidd, yn gymdeithasol, yn gorfforol neu oherwydd iechyd meddwl. Mae AFF a PCYDDS wedi ymrwymo i sicrhau bod unigolion talentog o gefndiroedd a dangynrychiolir – yn enwedig yn nhermau hil a rhyw – yn cael mynediad at gymorth ystyrlon wrth iddynt symud i mewn i’r diwydiannau creadigol. 

Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau:

“Rydym ni’n falch dros ben bod Coleg Celf Abertawe wedi’i ddewis unwaith eto i letya’r Gymrodoriaeth Cychwyn Gyrfa i Artistiaid.  Mae bod yn rhan o’r rhaglen genedlaethol arobryn hon yn gadarnhad pwerus o ragoriaeth ac effaith ein cyrsiau Celf Gain.  Mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad dwfn i rymuso artistiaid sy’n dod i’r amlwg a darparu’r cymorth y mae ei angen arnynt i ffynnu tu hwnt i’r brifysgol.” 

Bydd ceisiadau am Gymrodoriaeth Cychwyn Gyrfa i Artistiaid 2025/26 yn agor ddydd Gwener 16 Mai 2025 ac yn cau ddydd Gwener 27 Mehefin 2025. Gall ymgeiswyr sydd â diddordeb gael gafael ar y ffurflen gais a’r manylion llawn drwy fynd i wefan yr Artists Futures Fund yn Tynnir rhestr fer o ymgeiswyr gan PCYDDS a chyflwynir un ymgeisydd arweiniol ac un ymgeisydd wrth gefn i AFF i’w dewis yn derfynol.  Bydd y Gymrodoriaeth 10 mis yn rhedeg o fis Hydref 2025 i Orffennaf 2026.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon