Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi mai enillydd Gwobr Goffa Norah Isaac 2025 yw Osian Williams, myfyriwr cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC o  Gaerdydd. 

an image of Osian Williams

Dyfernir Gwobr Goffa Norah Isaac i’r myfyriwr a gyfrannodd fwyaf, yn nhyb y Brifysgol, at fywyd Cymraeg y sefydliad yn ystod y flwyddyn academaidd. 

Bu Norah Isaac yn  Brif Ddarlithydd Drama a’r Gymraeg yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin am flynyddoedd lawer lle ysbrydolodd genedlaethau o fyfyrwyr. Magodd do ar ôl to o fyfyrwyr i fod, yn eu tro, yn athrawon medrus, a hwythau’n diolch am y cyfle a gawsant i fod wrth draed meistr.       

Gyda chefnogaeth a thrwy haelioni Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin, trefnwyd bod Osian yn derbyn ei wobr mewn derbyniad ar gampws Caerfyrddin yn ystod y seremonïau graddio.   

Meddai Osian: 

“Y mae hi’n anrhydedd mawr i mi dderbyn gwobr goffa Norah Isaac eleni. Mae’r Gymraeg yn hollbwysig i mi ac roedd bod yn rhan o Gymdeithas Gymraeg y Brifysgol yn un o’m dyheadau cyn dechrau yn y Brifysgol. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus o fod yn rhan o’r Gymdeithas am dair blynedd a thrwy hyn wedi cwrdd â ffrindiau newydd am oes. 
 
“Mae’r cwrs Addysg Gynradd wedi bod yn arbennig gan sicrhau cyswllt cyson ac ystyrlon gyda thîm agos o ddarlithwyr cefnogol. Pleser mawr oedd bod yn fyfyriwr yn y Brifysgol hon.” 

Fel un o’r brifddinas, roedd Osian yn awyddus i fynd i rhywle gwahanol i astudio, ac roedd y Drindod Dewi Sant yn apelio gyda’i henw da fel un o’r Prifysgolion gorau ar gyfer addysgwyr.  

“Cefais fy nenu at Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant oherwydd ei henw da cryf am addysgu, gan gynnig cyfle i ffurfio cysylltiadau gydol oes gyda chyfoedion a darlithwyr a’r awyrgylch croesawgar a brofais o fy ymweliad cyntaf un â’r diwrnod agored.” 

Dewisodd Osian astudio’r cwrs oherwydd ei angerdd dros addysgu, ac roedd yn gwybod y byddai’r cwrs yn ei arfogi â’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol yr oedd eu hangen arno ar gyfer ei yrfa yn y dyfodol. Ychwanegodd:  

“Fy nod oedd dyfnhau fy nealltwriaeth o addysg gynradd, meithrin fy hyder, a pharatoi fy hun ar gyfer gyrfa yn y byd o addysg. Roeddwn hefyd eisiau herio fy hun a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y mae bywyd Prifysgol yn eu cynnig gan gynnwys bod yn aelod ac yn llywydd gyda’r Gymdeithas Gymraeg a chael cyfle i chwarae pêl-droed i academi chwaraeon y Brifysgol.” 

I Osian: 

“ Mae’r cwrs yn cynnig addysgu rhagorol, cymuned gefnogol, a ffocws gwirioneddol ar baratoi myfyrwyr ar gyfer bywyd ar ôl prifysgol. Teimlais fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi fel unigolyn ac yn cael fy annog i gyrraedd fy mhotensial llawn. Y prif atyniad i mi oedd y cysylltiad agos rhwng staff a myfyrwyr eraill. Roedden ni’n grŵp bach, ac fe wnaethon ni i gyd ddod ymlaen yn dda iawn a gwneud ffrindiau gydol oes, ac roedd yn fuddiol i mi gael cyfathrebu mor wych gyda darlithwyr i sicrhau fy mod yn gwneud fy ngorau a bod gen i’r holl wybodaeth angenrheidiol.” 

Dywedodd Fiona Jones, Rheolwr Rhaglen y cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC: 

“Bu angerdd a brwdfrydedd Osian, myfyriwr ar y cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC, dros bopeth Cymraeg a Chymreig yn ysbrydoliaeth i’w gyfoedion ar draws y Brifysgol yn ystod y flwyddyn aeth heibio.  

“Fel Llywydd y Gymdeithas Gymraeg eleni, a’r Is- Lywydd y flwyddyn ddiwethaf, bu’n lys-gennad penigamp dros iaith a diwylliant Cymru gan gydweithio’n ddi-flino gyda’i gyd-fyfyrwyr. Trefnodd dorraeth o ddigwyddiadau drwy gyfrwng y Gymraeg a’u hysbysebu gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn modd creadigol tu hwnt. Anogodd myfyrwyr i ymuno yng ngweithgareddau Coleg Cymraeg a mynychu’r Cinio’r Gangen yn yr Egin. Uchafbwynt blwyddyn ddiwethaf oedd cyd drefnu taith i Ddulyn i Bencampwrieth y Chwe Gwlad gan annog myfyrwyr yr ail iaith ymuno ar y daith er mwyn eu trochu yn y Gymraeg.  

“Yn ystod ei brofiad addysgu proffesiynol llwyddiannus, ymdrechodd i godi safonau iaith y dysgwyr ifanc o dan ei ofal, trwy gynnal gweithgareddau hwylus i hybu’r iaith Gymraeg. Mae ef wedi cwblhau portffolio Cymraeg ac asesiad yn y Gymraeg, lle roedd rhaid iddo datblygu iaith ei ddysgwyr ifanc, a chreu fideo fel tystiolaeth. Braint felly yw enwebu Osian fel ymgeisydd teilwng iawn ar gyfer y wobr nodedig hon.” 

Ychwanegodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths o Gymdeithas Ddinesig Caerfyrddin,  

“Braint i Gymdeithas Ddinesig Caerfyrddin yw cyflwyno Gwobr Goffa Norah Isaac eleni  i’r myfyriwr Osian Williams sydd wedi gweithio ac ymdrechu’n gyson er hyrwyddo’r Gymraeg ar Gampws Coleg y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.  Yn ystod ei chyfnod fel darlithydd yn y coleg roedd Norah yn rhoi pwyslais mawr bob amser ar ddefnyddio’r Gymraeg ym mywyd y coleg ac yn gwerthfawrogi cyfraniad y myfyrwyr yn ieithyddol a diwylliannol.  Mor braf yw deall fod Osian wedi bod mor flaenllaw yn holl weithgareddau Cymraeg y campws a’i fod yn deilwng iawn o dderbyn y wobr hon.” 

 Mae Osian yn edrych ymlaen at ddechrau fel athro yn y Barri.  

“Rwy’n gyffrous am yr hyn sydd gan y dyfodol i’w gynnig ac yn ddiolchgar i’r Drindod Dewi Sant, a’r staff a darlithwyr bendigedig am fy helpu i gyrraedd yma.” 

group shot of Norah Isaac winner holding shield certificate with Carmarthen Civic Society

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon