Ҵý

Skip page header and navigation

Gyda’u gwreiddiau’n ddwfn ym mro’r Eisteddfod eleni – yn byw ac wedi’u haddysgu yn yr ardal – mae Tomos ac Owain Sparnon yn teimlo’n ddiolchgar dros ben am y cyfleoedd a gawsant drwy fudiad yr Urdd a Choleg Celf Abertawe, sy’n rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’r ddau bellach yn defnyddio’r profiadau hynny i gyfrannu’n ôl at y gymuned greadigol wnaeth eu meithrin. O feirniadu a churadu i godi arian a chefnogi artistiaid ifanc, maent yn cyfrannu’n weithgar at ŵyl sydd wedi bod yn garreg filltir yn eu datblygiad personol a phroffesiynol.

Tomos and Owain Sparnon

Mae’r ddau wedi bod yn hynod o lwyddiannus dros y blynyddoedd. Tomos oedd enillydd y Fedal Gelf yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili yn 2015, ac enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc yn Eisteddfod yr Urdd Penybont ar Ogwr yn 2017.  Llwyddodd Owain i ennill yr ail safle yng nghystadleuaeth y Fedal Gelf yn Eisteddfod yr Urdd ym Mhenybont ar Ogwr yn 2017 ac yn Llanfair ym Muallt yn 2018, a daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Ysgoloriaeth Artist Ifanc yn Eisteddfod Sir Gaerfyrddin yn 2023. 

Yn ystod eu cyfnod yn astudio yng Ngholeg Celf Abertawe, cafodd Tomos ac Owain gyfleoedd eithriadol i ymgysylltu’n uniongyrchol ag Eisteddfod yr Urdd – gan feirniadu cystadlaethau, curadu arddangosfeydd, cynnal gweithdai i bobl ifanc, cyfrannu at ddigwyddiadau yn y cyfryngau a chydweithio â rhwydwaith o artistiaid ledled Cymru. Mae’r profiadau hyn, a gefnogwyd gan ethos y Coleg o ymarfer proffesiynol a chydweithio cymunedol, wedi paratoi’r llwyfan ar gyfer eu llwyddiant parhaus.

Mae’r ddau yn rhyfeddu bob blwyddyn at safon y cystadlaethau celf, crefft, dylunio a thechnoleg yn yr Eisteddfod ac maen nhw’n edrych ymlaen at weld gweithiau eleni’n cael eu harddangos ar y maes. Mae’r ddau yn gwybod o brofiad bod arddangos gwaith celf mewn lleoliad lle bydd miloedd o bobl yn gweld y gwaith yn gyfle anhygoel i unrhyw artist ifanc. 

Mae Tomos wedi bod yn Gadeirydd Panel Celf yr Urdd ers blwyddyn a hanner, gan arwain ar agweddau allweddol o’r cystadlaethau, themâu a rheolau. Dywedodd: 

“Fel rhywun sydd wedi fy magu yn yr ardal ac wedi cystadlu mewn sawl cystadleuaeth gelf dros y blynyddoedd, mae’n fraint cael bod yn Gadeirydd y Panel Celf. Rwy’n ddiolchgar dros ben am y cyfleoedd ges i drwy’r Urdd ac mae’n braf cael rhoi rhywbeth yn ôl i’r mudiad arbennig hwn.”

Mae Owain yn aelod o’r pwyllgor Celf lleol a’r Pwyllgor Gwaith, ac mae eisoes wedi cyfrannu fel un o feirniaid ar gyfer cystadlaethau’r Ysgoloriaeth Artist Ifanc a’r Fedal Gelf.

Cafodd Owain hefyd y fraint o gael ei gomisiynu i greu paentiad arbennig sy’n ymateb i Gân Groeso Eisteddfod “Dur a Môr” gan Huw Chiswell a Bronwen Lewis – darn a werthwyd mewn ocsiwn i godi arian i’r ŵyl. Dywedodd: 

“Ro’n i wrth fy modd yn cael y cyfle i greu gwaith celf mewn ymateb i gân groeso ‘Dur a Môr’. Dyw’r gwaith ddim yn ymateb llythrennol, ac roeddwn yn awyddus i’r paentiad adlewyrchu fy ngwaith celf arferol. Dewisais eiriau oedd yn fy nenu, er enghraifft ‘mwg’, ‘llwch, ‘copr gloyw’, ‘cochni’r machlud’, ‘toeon llwydion’, ‘afonydd glo’ a ‘thraethau gwyn’. Roeddwn am fynegi egni’r geiriau hefyd, ynghyd â’r cyfeiriadau at ‘esgyn’. Roedd gwybod bod y gwaith yn cael ei arddangos ac yn codi arian i gefnogi’r Eisteddfod yn gwneud y profiad hyd yn oed yn fwy arbennig.”

Mae Owain hefyd wedi cael ei wahodd gan gylchgrawn y Stamp i greu gwaith celf ar gyfer pamffledi gwaith prif enillwyr llenyddol Eisteddfod Dur a Môr yn ôl y drefn a sefydlwyd y llynedd o wahodd artist lleol o fro’r Eisteddfod i ymgymryd â’r gwaith. Os bydd teilyngdod, mi fydd yn ymateb yn weledol i ddarnau buddugol cystadlaethau’r Fedal Ddrama, y Goron a’r Gadair, a bydd y gweithiau’n ymddangos ar gloriau’r pamffledi.

Mae’r ddau ohonynt wedi mwynhau bod ynghlwm â threfniadau codi arian yn yr ardal – creu gweithiau celf i’w gwerthu, trefnu arddangosfa gelf, ac maen nhw nawr yn gwybod sut i drefnu boreau coffi hefyd! Dywedodd Owain: 

“Mae’n hyfryd gweld y brwdfrydedd yn yr ardal a gwybod bod mwy o gystadleuwyr nag erioed wedi cofrestru eleni.”

Mae Tomos yn gweithio fel artist o’i stiwdio yn yr ardd, ac wedi bod yn canolbwyntio dros y blynyddoedd diwethaf ar greu corff newydd o waith yn y gobaith o’i arddangos rhywbryd. Mae’n gobeithio dilyn cwrs ymarfer dysgu ym mis Medi i hyfforddi fel athro celf, ac mae’n edrych ymlaen at hynny. Ei nod fydd trosglwyddo’i angerdd am gelf i’r disgyblion, a gweld artistiaid ifanc a newydd yn datblygu. 

Mae gan Owain stiwdio yn Elysium, Abertawe, lle mae’n gweithio ar ei gelf yn wythnosol. Mae hefyd yn gweithio fel Swyddog Dylunio Graffeg i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac yn mwynhau hynny’n fawr. Yn sicr, mae ei waith celf yn bwydo i’w waith gyda’r Ganolfan, a gwaith y Ganolfan yn bwydo i’w waith celf. Mae’n gydbwysedd da.

Dywedodd Gwenllian Beynon, Cyfarwyddwr Rhaglen yng Ngholeg Celf Abertawe:

“Ni’n falch iawn yma yng Ngholeg Celf Abertawe i weld Tomos ac Owain Sparnon mor weithgar gyda’r Urdd Eleni. Mae’r ddau wedi cael llawer o lwyddiant yn yr Urdd yn y gorffennol, yn ennill gwahanol wobrau celf. Yn ogystal tra yn fyfyrwyr yma gwnaeth y ddau gweithio ar guradu’r arddangosfa Celf, dylunio a thechnoleg yn yr Urdd. Mae’n wych gweld yr holl cyfleoedd yma yn datblygu i fod mor weithgar dros y Celfyddydau yn yr Urdd eleni.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon