Dathlu Sêr y Cwrs Sabothol yn graddio yn Abertawe!
Mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch i gyhoeddi bod athrawon ar gyrsiau Sabothol 2023/24 a 2024/25 wedi graddio.

Mae’r cwrs dau dymor yn uwchsgilio athrawon y sector cynradd cyfrwng Saesneg i addysgu’r Gymraeg yn hyderus ac yn effeithiol yn eu hysgolion, yn unol â gofynion Cwricwlwm i Gymru. Maent yn dysgu llawer am ddulliau a phedagogeg caffael iaith er mwyn datblygu’n athrawon iaith hyderus.
Un sydd newydd raddio o’r cwrs yw Joanne Bowers, athrawes o Ysgol Sageston, Sir Benfro.
Dywedodd:
“Y Cwrs Sabothol ydy’r peth gorau rydw i erioed wedi wneud. Ar y cwrs, roedd cymaint o gyfleoedd dysgu gwych sydd wedi fy helpu i dyfu fel athrawes. Roedd tiwtoriaid y cwrs yn llwyr ysbrydoledig a mor wybodus a phrofiadol. Gwnaethon nhw sicrhau bod gan bawb mynediad at y Gymraeg drwy ddulliau ac arddulliau dysgu amrywiol.”
Ar ôl cwblhau’r cwrs, mae’r athrawon yn dychwelyd i’w hysgolion gyda’r iaith, y sgiliau a’r brwdfrydedd i godi safonau’r Gymraeg ar draws yr ysgol a thu hwnt. Nododd nifer o’r athrawon gymaint roedd y cwrs wedi eu hysbrydoli a phawb yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i’w hysgolion i ysbrydoli gweddill y staff a rhannu syniadau ac arferion da.
Ychwanegodd Joanne eu bod nhw nawr yn gwneud Gwasanaethau Cymraeg wythnosol, Clwb Cymraeg ar ôl ysgol, gan gynnwys cefnogi athrawon eraill i gynllunio gwersi Cymraeg yn defnyddio Continwm Iaith Sir Benfro.
“Mae hyn wedi bod yn allweddol i ddatblygu’r Gymraeg ar draws yr ysgol.” meddai Joanne.

Mae Joanne wedi bod yn cydweithio’n agos iawn gyda Catrin Phillips, Swyddog Datblygu’r Gymraeg Cyngor Sir Benfro.
Meddai Catrin:
“Mae Joanne newydd gwblhau’r cwrs sabothol dau dymor gyda Rhagoriaith ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gan wneud cynnydd ardderchog yn ei sgiliau iaith Gymraeg ac yn ei dealltwriaeth o fethodoleg effeithiol ar gyfer caffael iaith. Mae hi eisoes wedi dychwelyd i’r ysgol gydag egni ac arbenigedd newydd i ddatblygu’r Gymraeg yn ei hysgol. Mae Joanne eisoes wedi cyfrannu ar lefel sirol drwy chwarae rhan allweddol mewn gweithgor tridiau i helpu llunio fframwaith addysgu ar gyfer datblygu’r Gymraeg yn y Dysgu Sylfaen. Roedd ei mewnbwn yn werthfawr dros ben – o ran addysgeg, adnoddau ac arferion ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Yn adeiladu ar y gwaith hwn, bydd Joanne yn rhan o dîm fydd yn arwain sesiwn Datblygiad Proffesiynol i ymarferwyr ledled y sir y tymor nesaf – gan sicrhau bod manteision ei chwrs sabothol yn parhau i gael effaith ehangach.”
Nid yn unig gwersi wythnosol sy’n cael eu cynnig i’r athrawon ond cefnogaeth a chyfleoedd ychwanegol i ddefnyddio ac ymarfer eu Cymraeg gan gynnwys ymweliadau, siaradwyr gwadd a sesiynau Paned a Sgwrs. Mae’r athrawon wedi mwynhau ymuno yn sesiynau wythnosol Paned a Sgwrs ar gampysau Abertawe a Chaerfyrddin.
Yn dilyn hyn mae Joanne, ar y cyd gyda’i ffrind Dave oedd hefyd ar y cwrs Sabothol, wedi penderfynu sefydlu sesiynau Paned a Sgwrs ym Mhenfro. Meddai:
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at y sesiwn gyntaf ym mis Gorffennaf. Rydyn ni’n gyffrous iawn i ddatblygu lle i bobl sydd eisiau siarad Cymraeg.”

Meddai Jeni Price, Rheolwr Rhaglen y cyrsiau Sabothol yn y Drindod Dewi Sant:
“Mae dathlu llwyddiannau ymarferwyr y Cynllun Sabothol Cenedlaethol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn hollbwysig i ni fel darparwr. Mae’n gyfle i ni rannu sut y mae’r cynllun yn sicrhau bod athrawon oedd ag ychydig o sgiliau yn y Gymraeg, yn medru dychwelyd i’w hysgolion yn athrawon iaith medrus a chyfrannu’n strategol at ddatblygu’r Gymraeg ar draws yr ysgol yn unol â gofynion Bil Y Gymraeg ac Addysg. Wrth i ni baratoi at weithredu’r Bil newydd hwnnw, ry’n ni’n falch iawn yn y Drindod Dewi Sant i ddathlu cyfraniadau’r athrawon fydd yn gwbl greiddiol i gyflawni ei amcanion.”
O dan nawdd Llywodraeth Cymru, mae’r Cwrs Sabothol yn parhau i drawsnewid profiadau athrawon ar hyd a lled Cymru, gan gynnig sgiliau, hyder ac ysbrydoliaeth i ddysgu ac addysgu drwy’r Gymraeg.
Ychwanegodd Joanne:
“Mae’r cwrs yn fwy na chwrs iaith, mae wedi newid fy mywyd. Mae’r Gymraeg yn ffordd o fyw, a dw i wrth fy modd fy mod i’n gallu rhannu fy nghariad at yr iaith, a fy sgiliau iaith gyda phlant fy ysgol a phlant Sir Benfro. Diolch Cwrs Sabothol!”

Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476