Dod â Byd Wonka yn Fyw: Myfyrwyr PCYDDS yn creu Setiau Hudolus ar gyfer Opera Ieuenctid Caerfyrddin
Mae myfyrwyr a staff o’r cwrs BA Dylunio a Chynhyrchu Setiau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi ymuno ag Opera Ieuenctid Caerfyrddin a’r Cylch (CDYO) ar eu cynhyrchiad diweddaraf, Charlie and the Chocolate Factory.

Bydd Opera Ieuenctid Caerfyrddin a’r Cylch yn perfformio Charlie and the Chocolate Factory yn theatr enwog y Lyric, Caerfyrddin, rhwng Chwefror 26ain a Mawrth 1af. Cysyllton nhw â’r tîm Dylunio a Chynhyrchu Theatr yn y Brifysgol i greu darnau dychmygus ar gyfer y set, gan gynnwys y tiwb Gloop enwog, cymylau candi-fflos llachar, a chwpanau a lolipops enfawr.
Mae’r cydweithredu hwn yn cyd-fynd yn berffaith â modwl Prosiect Cynhyrchu y myfyrwyr, lle mae gofyn iddynt weithio ar friff prosiect byw.
Meddai Stacey-Jo Atkinson, Rheolwr Rhaglen y cwrs BA Dylunio a Chynhyrchu Setiau yn PCYDDS:
“Mae’n brofiad gwych i’n myfyrwyr allu bod yn rhan o friff prosiect byw ar gyfer Opera Ieuenctid Caerfyrddin fel rhan o’u hail flwyddyn o astudio ar y radd. Dyma ein trydedd flwyddyn yn cydweithio ag Opera Ieuenctid Caerfyrddin a phob blwyddyn mae’r myfyrwyr wedi gallu dylunio a chreu pethau newydd a chyffrous ar gyfer eu sioeau. Mae eleni wedi bod yn llawn lliw a gwead a heriau datrys problemau i ddod ag elfennau o fyd Wonka yn fyw.
“Mae gallu rhoi profiadau o’r diwydiant go iawn i’r myfyrwyr wrth iddynt astudio yn rhan allweddol o’r rhaglen ac yn rhan annatod o’u cael i adeiladu eu set sgiliau a’u hyder. Mae’n berthynas waith werthfawr sydd wedi caniatáu i lawer o fyfyrwyr ennill gwybodaeth wrth weithio gydag amrywiaeth o ddefnyddiau newydd, gweithio gydag ymarferwyr y diwydiant a chael profiad cefn llwyfan gwerthfawr yn gwirfoddoli yn ystod y sioeau.”
Mae hwn wedi bod yn brofiad ymarferol gwych i’r myfyrwyr i’w helpu i baratoi ar gyfer gweithio yn y diwydiant.
Dywedodd y myfyriwr Maria Miralles:
“Rydw i wedi mwynhau’n fawr mynd ati i wneud rhan o set ar gyfer cynhyrchiad byw - rhywbeth nad ydyn ni erioed wedi cael y cyfle i’w wneud o’r blaen! Roedd gallu gweld popeth yn dod at ei gilydd yn rhyfeddol. Mae hyn wedi rhoi profiad anhygoel i mi yn y diwydiant, ac roeddem yn gallu gweld ein hunain fel gweithwyr creadigol a thyfu fel artistiaid.”
Yn ôl y myfyriwr Nina Campbell:
“Rydw i wedi bod wrth fy modd yn gweithio ar y prosiect hwn gan ei fod wedi fy ngalluogi i gwrdd â phobl newydd, pob un ohonynt yn hyfryd, a deall yr hyn sydd ei angen ar gyfer cynhyrchiad proffesiynol. Rydw i hefyd wedi bod yn eistedd mewn ymarferion ac yn helpu ar y sioe; mae’n llawer o hwyl ac mae’r cynhyrchiad yn edrych yn anhygoel! Rwy’n gobeithio y byddaf yn gallu cymryd rhan eto flwyddyn nesaf.”
Meddai’r myfyriwr Morven Montgomery,
“Fe wnes i wir fwynhau’r prosiect hwn yn ei gyfanrwydd, o gael helpu gyda’r broses ddylunio ar y dechrau, i fod yn rhan o’r criw llwyfan ar y diwedd! Mae’r cyfan wedi bod yn brofiad gwych ac yn rhywbeth y gallaf ei ddatblygu mewn prosiectau yn y dyfodol.”
Dywedodd Mike Rogers, Cadeirydd Opera Ieuenctid Caerfyrddin,
“Fel Cadeirydd yr Opera Ieuenctid, rwy’n falch iawn mai hon yw’r drydedd flwyddyn y byddwn yn gweithio ar y cyd â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae myfyrwyr ail flwyddyn y cwrs gradd BA Dylunio a Chynhyrchu Setiau wedi cael briff gan Dan ein Cyfarwyddwr Artistig i ddylunio ac adeiladu elfennau o’r golygfeydd i wella’r profiad ar y llwyfan ac oddi arno.
Am fwy o wybodaeth am y cwrs BA Dylunio a Chynhyrchu Setiau, ewch i: Dylunio a Chynhyrchu Set (Llawn amser) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Os hoffech docynnau ar gyfer y cynhyrchiad, ewch i:
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476