Ҵý

Skip page header and navigation

Mae’n bleser mawr gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyhoeddi y dyfarnwyd Doethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol i Bronwen Williams mewn cydnabyddiaeth o’i gwaith i ddatblygu Fframwaith Cyflogadwyedd i baratoi myfyrwyr am yrfaoedd ym maes plismona. 

A smiling graduate dressed in her robes standing on a staircase.

Archwiliai traethawd doethurol Dr Williams y modd y mae cynllun y Brifysgol ar gyfer Myfyriwr-wirfoddolwyr yr Heddlu mewn cydweithrediad â Heddlu De Cymru, yn cyfrannu at ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, gan baratoi myfyrwyr am yrfaoedd yng ngwasanaeth yr heddlu.  Roedd ei hymchwil yn cwmpasu cyfweld cyn-fyfyrwyr y rhaglen radd Gwasanaethau Cyhoeddus a oedd wedi cymryd rhan yn y cynllun Myfyriwr-wirfoddolwyr yr Heddlu ac wedi gweithio ym Man Cymorth Abertawe – canolfan triniaeth am alcohol sydd â’r nod o helpu unigolion meddw, agored i niwed, ac wedi’u hanafu ar nosweithiau allan yn Abertawe. 

Bellach mae’r graddedigion hyn wedi cychwyn ar yrfaoedd llwyddiannus ym maes gorfodi’r gyfraith.

Meddai Dr Williams:

“Cefais syniadau gwerthfawr o’u hadfyfyrio ar y sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer eu rolau cyfredol yng ngwasanaeth yr heddlu.  Roedd natur ymarferol y cwrs, yr asesiadau, ac, yn fwyaf arwyddocaol, y profiad a gafwyd drwy wirfoddoli wrth Fan Cymorth Abertawe, yn ganolog i’w twf proffesiynol.  Mae llwyddiant mentrau o’r fath yn dibynnu ar gydweithio cadarn rhwng y Brifysgol a phartneriaid diwydiant, megis y berthynas eithriadol rhwng PCYDDS a Heddlu De Cymru.”

Gwneud Gwahaniaeth: Man Cymorth Abertawe 

Mae Dr Williams hefyd wedi cael effaith arwyddocaol tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.  Yn 2013, ymunodd â gweithgor cydweithredol i ddatblygu Man Cymorth Abertawe, yn dilyn galwadau ar draws y ddinas am economi fwy diogel yn y nos i ddiogelu unigolion a’r gymuned ehangach. 

Lansiwyd Man Cymorth Abertawe ym mis Medi 2014 yn ystod Wythnos y Glas ac mae wedi dod yn enghraifft safon aur o ganolfan triniaeth am alcohol, gan helpu oddeutu 1,000 o bobl bob blwyddyn a lleihau’r straen ar adrannau brys ysbytai’n sylweddol.  Gweithiai Dr Williams wrth ochr partneriaid allweddol, yn cynnwys Daniel Jones o Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a’r diweddar Gerallt Davies, Comisiynydd Gorllewin Morgannwg ar gyfer St John Ambulance Cymru.

I gydnabod ei hymdrechion, dyfarnwyd Medal Urdd Sant Ioan: Chwaer i Dr Williams, gan adlewyrchu’i hymrwymiad i wella diogelwch y cyhoedd ac ymgysylltiad myfyrwyr. 

Gyrfa o Ymrwymiad i Addysg a’r Gymuned

Mae hyn yn nodi’r trydydd cymhwyster academaidd a ddyfarnwyd i Dr Williams gan PCYDDS (Prifysgol Fetropolitan Abertawe gynt) er 2007. Cwblhaodd ei chymhwyster TAR (PCET) o 2007 i 2009, ac wedi hynny gradd Meistr o 2009 i 2012.  Mae hefyd yn ynad ar gyfer Mainc Gorllewin Morgannwg ac yn aelod o Gymdeithas yr Ynadon.  Gydol ei thaith academaidd a phroffesiynol, mae Dr Williams wedi cydbwyso’i hastudiaethau â magu merched sy’n efeilliaid, gan roi credyd i gymorth diwyro’i gŵr am alluogi’i llwyddiant.  

Meddai Dr Williams: “Mae fy nghyflawniadau’n ganlyniad i waith caled, cydweithwyr cefnogol, a’m teulu.  Mae wedi bod yn fraint cyfuno fy ngwaith academaidd â phrosiectau cymunedol dylanwadol megis Man Cymorth Abertawe.  Rwy’n ymfalchïo’n fawr iawn yn yr hyn rydym ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon