Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant  (PCYDDS) yn falch i ddathlu llwyddiant Patricia Mathias-Lloyd, Rheolwr Datblygu Addysg seiliedig ar Waith yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), a raddiodd yn ddiweddar gydag MA mewn Arfer Proffesiynol. Dychwelodd Patricia i astudio academaidd ar ôl dros ddegawd, gan ddefnyddio’r rhaglen Fframwaith Arfer Proffesiynol (FfAP) i adfyfyrio ar ei phrofiad proffesiynol helaeth, cryfhau ei sgiliau arwain, a chymryd y cam nesaf yn ei gyrfa mewn addysg gofal iechyd.

an image of Patricia Mathias Lloyd

Dewisodd Patricia yr MA mewn Arfer Proffesiynol oherwydd ei strwythur dysgu hyblyg, seiliedig ar waith. Am ei bod yn gobeithio camu i rôl rheoli uwch, gwelodd y byddai’r rhaglen yn alinio’n berffaith â’i hanghenion o ran datblygiad proffesiynol a chynllunio dilyniant. Nododd Patricia hefyd ei bod:

 “am fod yn fodel rôl i fy nhîm a dysgwyr i’w cefnogi gyda’u datblygiad.”

Trobwynt allweddol yn nhaith Patricia oedd ei phenderfyniad i hawlio credyd ar gyfer dysgu drwy brofiad, proses â’i galluogodd i adfyfyrio ar ddegawd o ddatblygiad proffesiynol a chyraeddiadau nad oeddynt wedi’u cydnabod o’r blaen. Ychwanega:

 “Roedd hawlio credyd ar gyfer dysgu drwy brofiad yn allweddol i gyflawni’r dyfarniad hwn. Roedd gallu gweld pa mor bell roeddwn wedi dod ar ôl ymchwilio’n feirniadol i’r hyn roeddwn wedi’i ddysgu, a sut, yn agoriad llygad. Roeddwn wedi gweithio ar ddarnau sylweddol o waith yn lleol ac yn genedlaethol ac maent i gyd wedi cyfrannu at fy natblygiad. Dim ond ers ymgymryd â’r modwl hwn rydw i wedi sylwi pa mor arwyddocaol maen nhw wedi bod.”

Nododd Sarah Loxdale, Arweinydd Modwl ar gyfer Cydnabod ac Achredu Dysgu: 
“Mae taith Patricia yn enghraifft bwerus o sut mae cydnabod a gwerthfawrogi dysgu drwy brofiad nid yn unig yn gallu trawsnewid cyrhaeddiad academaidd, ond hefyd hunanhyder a hunaniaeth broffesiynol. Ei gallu i adfyfyrio’n feirniadol ar ei harfer a throsi hynny’n gredyd academaidd ystyrlon yw’r union beth y cynlluniwyd y modwl hwn i’w gefnogi.”

Mae astudiaethau Patricia wedi cael effaith ddofn ar ei hyder a’i galluoedd proffesiynol. Ers dechrau’r cwrs, mae hi wedi cyflwyno mewn cynadleddau, cysylltu ag uwch reolwyr, a symud ymlaen o reoli un aelod o’r tîm i arwain tîm o un ar bymtheg. Bellach, yn ei rôl genedlaethol gyda AaGIC, mae hi’n datblygu a chefnogi rhaglenni addysg achrededig a heb achrediad sy’n dylanwadu ar y gweithlu gofal iechyd ledled Cymru.

Mae Patricia’n dweud bod y profiad wedi bod yn drawsnewidiol. 

 “Roedd cyflawni’r MA gydag anrhydedd yn brofiad anhygoel – gwnes i byth feddwl y buaswn i’n cyflawni hyn. Gwnaeth y cwrs fy helpu i sylweddoli arwyddocâd yr hyn roeddwn i wedi’i gyflawni – ac fe roddodd yr hyder a’r gred i fi y gallwn gymryd y cam nesaf yn fy ngyrfa.”

Gwnaeth natur adfyfyriol y cwrs hefyd trawsnewid ymagwedd Patricia at arweinyddiaeth.

 “Rwy’n teimlo fy mod wedi dod yn rheolwr mwy adfyfyriol ac rwy’n cymryd yr amser i adnabod sgiliau a galluoedd pobl eraill. Gallaf adnabod y dysgu drwy brofiad mae fy nhîm wedi’i ennill ac rydyn ni’n trafod hyn mewn sesiynau un i un a chyfarfodydd tîm. Mae hyn yn galluogi trafodaeth a hwyluso unigolion i weld eu bod yn dysgu a datblygu er nad ydynt yn sylweddoli hynny, ac mae rhoi’r amser iddynt allu ei wneud yn allweddol i mi.” 

Dywedodd Lowri Harris, Rheolwr Rhaglen ar gyfer y Fframwaith Arfer Proffesiynol: 

“Mae Patricia wedi dangos holl bwrpas y Fframwaith Arfer Proffesiynol; sef grymuso ymarferwyr proffesiynol i ddod â’u dysgu yn y gweithle’n fyw trwy astudio academaidd. Mae ei hymrwymiad a thwf trwy gydol y rhaglen wedi dangos sut y gall dysgu adfyfyriol, seiliedig ar waith gyfoethogi arweinyddiaeth a dylanwadu ar newid ar draws sectorau.”

Trwy gydol ei hamser yn PCYDDS, teimlodd Patricia ei bod wedi’i chefnogi’n llawn – yn arbennig yn ystod heriau’r pandemig byd-eang.

 “Roedd y tîm yn wych. Gwnaethant fy helpu i gadw ar y trywydd iawn a bodloni terfynau amser yn ystod cyfnod o newid enfawr ym maes addysg a hyfforddiant. Heb eu cefnogaeth, efallai na fuaswn wedi cwblhau’r rhaglen.

 “Trwy gydol pob modwl roedd y tiwtoriaid yn gefnogol iawn a chefais fy annog i barhau â’m hastudiaethau. Er nad oeddem yn gallu ymgymryd â’r rhaglen wyneb yn wyneb, rwy’n teimlo i mi sefydlu patrwm yn fuan lle’r oeddwn yn cydbwyso gwaith ac astudiaethau ac yn gwneud cynnydd. Mae’r wybodaeth a’r profiad rwyf wedi’u hennill yn ystod y rhaglen wedi cyfoethogi fy arfer a datblygiad proffesiynol. Bellach, rwy’n gweithio mewn rôl strategol ac i sefydliad sy’n cefnogi datblygiad addysg yn genedlaethol.”

Mae Patricia’n argymell y broses o hawlio dysgu drwy brofiad yn gryf, gan nodi:

 “Dydych chi ddim yn sylweddoli’r hyn rydych wedi’i ddysgu nes i chi gymryd yr amser i adfyfyrio. Mae’n broses addysgiadol tu hwnt.”

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen Fframwaith Arfer Proffesiynol, ewch i: Fframwaith Arfer Proffesiynol | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon