Dysgu Seiliedig ar Waith yn Trawsnewid Gyrfa a Hyder Katy Hughes, un o raddedigion PCYDDS.
Mae Katy Hughes wedi graddio gyda BA mewn Arfer Proffesiynol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), gan gwblhau taith bwerus o dwf personol a phroffesiynol trwy ddysgu seiliedig ar waith. Roedd ei phrosiect terfynol yn gwerthuso’n feirniadol effaith y Rhaglen Ymyrraeth Llythrennedd Cynnar (ELIP) ar ddysgwyr â chanlyniadau B-D ar y Sgriniwr Dyslecsia, gan ddarparu mewnwelediadau pwysig i gymorth cynnar i blant â heriau llythrennedd.

Ymgymerodd Katy â’r radd ar ôl iddi gael ei chynnig trwy ei gweithle, gan gydnabod ei fod yn gyfle unigryw i symud ei gyrfa ymlaen wrth gyfrannu’n uniongyrchol at lwyddiant ei sefydliad.
“Rydw i wedi bod eisiau datblygu fy addysg ymhellach erioed, ond roedd profiadau’r gorffennol wedi gwneud i mi gwestiynu p’un ai dyna oedd y llwybr iawn i mi. Newidiodd y cwrs hwn hynny yn llwyr.”
Un o agweddau mwyaf gwerthfawr y cwrs i Katy oedd y gallu i hawlio credyd am ddysgu trwy brofiadau, a oedd yn caniatáu iddi dderbyn cydnabyddiaeth ffurfiol am y sgiliau a’r wybodaeth yr oedd wedi’u datblygu dros ei gyrfa 16 mlynedd.
“Fe wnaeth adeiladu ar fy nghymwyseddau presennol fy helpu i symud ymlaen yn gyflymach tuag at gyflawni fy nodau addysgol,” esboniodd.
Canolbwyntiodd ymchwil Katy ar werthuso sut mae’r ELIP yn cefnogi dysgwyr ifanc y nodwyd eu bod mewn perygl o ddyslecsia. Nid yn unig roedd ei chanfyddiadau’n dilysu’r gwaith sy’n cael ei wneud yn ei lleoliad ond hefyd roedd yn cynnig argymhellion ymarferol ar gyfer gwella a sut i’w gymhwyso’n ehangach.
“Roedd popeth a astudiais yn uniongyrchol berthnasol i fy swydd, ac nid yn unig roedd hyn yn dilysu’r gwaith rwyf wedi bod yn ei wneud am yr 16 mlynedd diwethaf ond hefyd fe roddodd fewnwelediadau a syniadau newydd i mi ar gyfer gwella.”
Disgrifiodd y cwrs fel un trawsnewidiol wrth roi hwb ei hyder, adeiladu ei meddwl adfyfyriol, a’i photensial fel arweinydd.
“Mae wedi fy helpu i gymryd mwy o gyfrifoldeb, archwilio cyfleoedd newydd, a herio’r status quo mewn ffordd adeiladol. Un o’r sgiliau newydd mwyaf gwerthfawr rydw i wedi’i ddatblygu yw adfyfyrio. Mae wedi gwneud gwahaniaeth amlwg yn broffesiynol ac yn bersonol, gan fy helpu i reoli sefyllfaoedd yn fwy effeithiol - wrth iddynt godi a chyn iddynt waethygu - gan arwain at ganlyniadau gwell i mi fy hun, y plant, a’r sefydliad.”
Roedd strwythur y cwrs yn cynnig yr hyblygrwydd sydd ei angen i gydbwyso astudio ag ymrwymiadau gwaith a theulu. Canmolodd Katy y gefnogaeth a gafodd gan ei thiwtoriaid yn y Drindod Dewi Sant, a dywedodd bod eu harweiniad wedi bod yn hollol anhygoel.
“Gwnaeth eu hanogaeth a’u cefnogaeth wahaniaeth mawr, ac ni allwn fod wedi gofyn am ragor ganddynt.”
I Katy:
“Byddwn yn argymell y cwrs hwn yn fawr i unrhyw un sy’n ei ystyried. Mae wedi bod yn un o’r profiadau addysgol mwyaf pleserus, boddhaus ac ystyrlon yn bersonol i mi ei gael. Mae’n caniatáu ichi dyfu a datblygu mewn meysydd sydd wir yn bwysig i chi.”
I gael rhagor o wybodaeth am fframwaith Arfer Proffesiynol PCYDDS, ewch i: Fframwaith Arfer Proffesiynol | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476