Ffenestr Liw Newydd i Anrhydeddu Morwyr a Dathlu Canmlwyddiant Stella Maris
Mae ffenestr liw newydd drawiadol, a ddyluniwyd ac a grëwyd gan Christian Ryan AMGP, artist a darlithydd yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS, wedi’i gosod yn Cornerstone yng Nghaerdydd. Comisiynwyd y gwaith celf i goffáu canmlwyddiant yr elusen forwrol ryngwladol Stella Maris ac i anrhydeddu masnachlongwyr a gwragedd o Gymru a wasanaethodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae’r gosodwaith yn nodi penllanw prosiect sydd wedi bod ar y gweill ers sawl blwyddyn, ac i Christian mae wedi bod yn daith o fyfyrio, cofio ac ymroddiad artistig. A hithau bellach wedi’i chwblhau, mae’r ffenestr yn sefyll fel teyrnged bwerus a pharhaus i’r rhai a wasanaethodd ar y môr, llawer ohonynt wedi gwneud aberth enfawr yn ystod y rhyfel.
Wedi’i sefydlu yn 1920, Stella Maris yw’r elusen fwyaf sy’n ymweld â llongau yn y byd ac elusen forwrol swyddogol yr Eglwys Gatholig. Gyda phresenoldeb mewn porthladdoedd ledled y byd, mae’r sefydliad yn cefnogi llesiant a hawliau morwyr a physgotwyr, llawer ohonynt yn treulio hyd at flwyddyn ar y tro i ffwrdd o gartref. Mae coffáu’r canmlwyddiant yn cydnabod hanes a chenhadaeth ddyngarol barhaus Stella Maris.
Mae Christian, a ddyluniodd ac a saernïodd y ffenestr o’i stiwdio ym Mhen-y-bont ar Ogwr, De Cymru, yn arbenigwr cydnabyddedig yn ei grefft. Am dros 25 mlynedd, mae wedi bod yn creu ffenestri lliw ar gyfer eglwysi, mannau cyhoeddus, a chomisiynau preifat ledled y DU ac yn rhyngwladol. Ac yntau’n aelod o’r British Society of Master Glass Painters ac Urdd y Gwneuthurwyr yng Nghymru, mae Christian wedi cael ei gydnabod am ei waith ym maes gwydr lliw ac wedi derbyn anrhydeddau gan sefydliadau pensaernïol am ei gydweithrediadau celf cyhoeddus.
Mae ei gyfraniad i wydr lliw yn ymestyn y tu hwnt i’w arfer: mae’n arwain y rhaglen Prentisiaeth Crefftwr Gwydr Lliw ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe, gan siapio’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr. Mae hefyd yn gynorthwyydd ymchwil i Dr Martin Crampin ar brosiect Archif Gwydr Lliw Abertawe, sy’n dogfennu etifeddiaeth gyfoethog Cymru o gelfyddyd wydr.
Wrth sôn am y gosodwaith, dywedodd Christian:
“Mae wedi bod yn anrhydedd fawr cyfrannu at y canmlwyddiant pwysig hwn gyda gwaith celf parhaol sy’n coffáu’r rhai a fu’n gwasanaethu a chenhadaeth barhaus Stella Maris. Mae’r ffenestr hon yn cynrychioli blynyddoedd o ymdrech greadigol a thechnegol ac mae’n emosiynol ei gweld yn ei lle o’r diwedd.”
Mae’r ffenestr newydd bellach yn rhan o gymuned fywiog a gofod diwylliannol Cornerstone yng nghanol Caerdydd. Mae’r gwaith yn ein hatgoffa o’r cysylltiadau dwfn rhwng Cymru a’r môr, a phŵer parhaol crefft i goffáu ac ysbrydoli.
Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau yn PCYDDS: “Mae gwaith Christian yn enghraifft o’r safonau uchaf o grefftwaith a gweledigaeth greadigol, ac rydym yn hynod falch o’i gael yn arwain y rhaglen Prentisiaeth Crefftwr Gwydr Lliw yn PCYDDS. Mae ei gomisiynau cyhoeddus, fel ffenestr canmlwyddiant Stella Maris, nid yn unig yn cyfoethogi cymunedau ond hefyd yn ysbrydoli ein myfyrwyr i weld effaith go iawn eu sgiliau a’u celfyddyd.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071