Gwytnwch ac Arweinyddiaeth: Roman Kadlubiec yn Graddio o PCYDDS Llundain Wedi Taith Drawsnewidiol
Mae campws Llundain Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn dathlu gyda balchder fod Roman Kadlubiec wedi graddio. Ganed y myfyriwr yn y Weriniaeth Tsiec, ac mae ei benderfyniad, ei arweinyddiaeth a’i wytnwch wedi ysbrydoli cymheiriaid a staff fel ei gilydd.

Bu Roman yn byw ac yn gweithio yn y DU ers sawl blwyddyn, ac ymunodd â PCYDDS yn y lle cyntaf i ddilyn Tystysgrif Addysg Uwch mewn Sgiliau ar gyfer y Gweithle (Busnes a Rheolaeth). Fe wnaeth yr hyn a ddechreuodd fel cam cyntaf esblygu’n gyflym yn daith academaidd lawn, a’i phenllanw heddiw yw gradd BA mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
“I ddechrau, fy mwriad oedd cwblhau’r dystysgrif yn unig,” meddai Roman. “Ond ar ôl hynny, meddyliais, ‘Beth am fynd am y ddwy flynedd ychwanegol?’ Roedd y cwrs yn cyfuno sgiliau arwain ymarferol â mewnwelediad academaidd, a rhoddodd yr hyder i mi anelu’n uwch, yn broffesiynol ac yn bersonol fel ei gilydd.”
Gan weithio’n llawn amser yn Weithredwr Ystadau ers 2017, bu Roman yn cydbwyso ei swydd a’i astudiaethau gydag ymroddiad rhyfeddol. Drwy gydol y cwrs, bu’n cymhwyso’r hyn a ddysgodd yn uniongyrchol i’w weithle, gan wella cydweithio mewn tîm, symleiddio prosesau, a dangos y math o fentergarwch y lluniwyd y radd i’w meithrin.
Un o uchafbwyntiau ei amser yn PCYDDS oedd gwasanaethu yn Gynrychiolydd Dosbarth am dair blynedd yn olynol. “Roedd yn gyfle i ddatblygu sgiliau arwain yn y byd go iawn, gan gefnogi fy nghyd-fyfyrwyr, dod o hyd i atebion i’w cwestiynau, a gweithredu yn gyswllt rhwng myfyrwyr a darlithwyr,” meddai.
Ond nid oedd y ffordd at raddio bob tro’n esmwyth. “Yn ystod Lefel 4, roeddwn i bron â rhoi’r gorau iddi,” cyfaddefa Roman. “Roedd hi’n anodd rheoli popeth. Ond diolch i gefnogaeth fy nghyd-fyfyrwyr, des i o hyd i’r cryfder i gadw i fynd. Fe wnaeth y profiad hwnnw ddysgu gwytnwch i mi a pha mor hanfodol y mae anogaeth a gwaith tîm mewn gwirionedd.”
Nawr ei fod yn graddio, mae Roman wedi gosod ei olygon ar freuddwydion mwy o faint. “Rydw i eisiau agor canolfan hamdden, lle sy’n cyfuno fy hoffter o ffitrwydd, busnes, a gwasanaethu’r gymuned,” meddai. Mae hefyd yn gobeithio parhau â’i addysg gydag MBA, yn ddelfrydol wedi’i chyflwyno mewn fformat hyblyg ar gyfer gweithwyr proffesiynol.
“Byddwn yn sicr yn argymell y cwrs hwn i eraill,” ychwanega Roman. “Fe wnaeth PCYDDS ddarparu’r ansawdd academaidd yr oeddwn i’n chwilio amdano, ond yn bwysicach fyth, cynigiodd amgylchedd o gefnogaeth ac anogaeth go iawn. Mae’n profi nad yw hi fyth yn rhy hwyr i fuddsoddi ynot ti dy hun.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071