James Owen, y Gwneuthurwr Ffilmiau, yn ehangu Stori Cymru gyda thalent PCYDDS
Ers graddio yn 2021 gyda BA mewn Gwneud Ffilmiau o PCYDDS, mae James Owen wedi adeiladu cwmni cynhyrchu fideo dwyieithog ffyniannus, , yn ei dref enedigol, Llanelli. Bellach yn cael ei gydnabod yn un o entrepreneuriaid creadigol mwyaf cyffrous y rhanbarth, mae James nid yn unig yn tyfu ei fusnes, mae hefyd yn buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o dalent Gymreig drwy hurio un o’i gyd-raddedigion yn PCYDDS, Joseph Morris.

Mae Joseph, a raddiodd o gwrs BA Gwneud Ffilmiau Antur PCYDDS, wedi ymuno â’r cwmni yn swyddogol fel Arweinydd Creadigol ar ôl gweithio ar ei liwt ei hun gyda James am dros chwe mis. Mae’r penodiad yn nodi pennod newydd i Stori Cymru, wrth i’r tîm ehangu ei wasanaethau a chryfhau ei allu creadigol.
“Nid yw Joe yn ddieithr i Stori Cymru,” meddai James. “Cefais fy nghyfeirio ato gan fy nghyn-ddarlithwyr pan ddechreuais ystyried tyfu’r tîm, ac mae wedi bod yn ychwanegiad gwych. Gyda’r busnes yn tyfu, roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n bryd dirprwyo mwy o’r allbwn creadigol, ac mae Joe yn camu i’r rôl honno.”
Mae cyfrifoldebau Joe yn cynnwys arwain ochr greadigol gwaith cleientiaid y cwmni – yn enwedig cynhyrchu fideos – ac ehangu i ffotograffiaeth gan ddefnyddio’r gofod stiwdio yn eu canolfan yn Llanelli.
“Fy nheitl swyddogol yw Arweinydd Creadigol – a dyna’n union beth rwy’n ei fwynhau fwyaf: bod yn greadigol,” meddai Joe. “O drefnu lluniau o gynnyrch a phortreadau stiwdio i ffilmio mewn pob math o leoliadau gyda gwahanol bobl, mae’r Gwaith yn newid ac yn gyffrous o hyd. Mae cymaint o le i dyfu a dysgu, ac rwy’n ddiolchgar iawn i James a Stori Cymru – mae’n gwmni gwych i weithio iddo.”

I Joe, nid dim ond dod o hyd i’r swydd iawn a wnaeth drwy ymuno â Stori Cymru – roedd yn galluogi iddo gadw ei wreiddiau yn y gymuned a’r iaith a’i siapiodd.
“Wel, mae’r enw’n dweud y cyfan - mae straeon a Chymru yn bwysig i mi,” meddai. “I mi, mae’n fraint gallu cael gwaith mor agos at adref. Bydd pobl yn aml yn dweud bod angen i chi symud i Gaerdydd i gael cyfleoedd ym maes fideo a ffotograffiaeth, ond nid yw hynny’n wir. Mae Cymru yn llawn straeon lleol, pobl ddiddorol a golygfeydd hardd - mae’n fraint gallu eu cofnodi mewn lluniau.”
Mae Joe yn diolch i’r amser a dreuliodd yn PCYDDS am ei baratoi â sgiliau technegol a hyder creadigol.
“Roedd Gwneud Ffilmiau Antur yn gwrs gwych,” meddai. “Roedd fy narlithwyr yn barod i helpu bob amser a gwnaeth eu harweiniad fy helpu i leoli fy hun ar ôl gorffen y brifysgol. Maent yn canolbwyntio’n llawn ar y myfyrwyr ac mae ganddynt gyfoeth o wybodaeth. Maent hefyd yn eiriolwyr cryf dros gelf, dilysrwydd, a photensial creadigol Cymru. Roedd hynny’n rhan fawr o pam roeddwn i eisiau aros a gweithio’n lleol.”
Mae James hefyd yn teimlo bod penodiad Joe yn adlewyrchu gwerthoedd dyfnach y cwmni. “Mae cyflogi unigolyn â gradd gwneud ffilmiau, Cymraeg ei iaith, o Lanelli yn ticio’r bocsys i gyd,” meddai. “Mae’n ein hatgoffa o ba mor bell rydyn ni wedi dod, a pha mor bwysig yw buddsoddi mewn talent leol sydd â gwir angerdd am y diwydiant. Mae’r Gymraeg yn ganolog i hunaniaeth Stori Cymru, ac mae cael Joe yn y tîm yn golygu y gallwn barhau i gyflwyno straeon dwyieithog ystyrlon, heb gyfaddawdu.”
Mae effaith y cwmni wedi dal sylw pobl. Yn 2024, enillodd Stori Cymru wobr Busnes Creadigol a Digidol y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Sir Gaerfyrddin am ei arloesedd a’i wasanaethau digidol o ansawdd uchel. Eleni, dychwelodd y busnes fel noddwr, gan gadarnhau ei le fel grym creadigol lleol.

Dywedodd Brett Aggersberg, Uwch Ddarlithydd mewn Ffilm a’r Cyfryngau yn PCYDDS:
“Rwy’n hynod falch o bopeth y mae James wedi’i gyflawni. Mae wedi adeiladu un o’r cwmnïau cynhyrchu uchaf ei barch yng Nghymru, gan gynnig gwasanaeth dwyieithog pwrpasol i gleientiaid. Mae penodi Joseph yn ddiweddar yn dangos cryfder ein cyrsiau creadigol a’r cyfleoedd maen nhw’n eu hagor.
“Mae gan Joseph bersbectif ffres a sgiliau technegol cryf drwy ein cwrs Gwneud Ffilmiau Antur, a gyda’i gilydd, maen nhw’n enghraifft wych o’r galw am bobl greadigol Cymraeg eu hiaith yn yr ardal.”
Mae gan James gysylltiad agos â’r brifysgol o hyd, ac mae’n dychwelyd yn rheolaidd i siarad â myfyrwyr a rhannu ei daith broffesiynol. Ym mis Hydref, bydd yn cymryd rhan mewn Digwyddiad Cyflogwyr a Rhwydweithio yn Undeb y Myfyrwyr yng Nghaerfyrddin ar y 23ain, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr presennol gysylltu â gweithwyr proffesiynol y diwydiant a chael mewnwelediadau i lwybrau gyrfa creadigol.
Gyda thîm sy’n tyfu, cysylltiad dwfn â’i gymuned, a gweledigaeth greadigol feiddgar, mae James yn helpu i lunio dyfodol bywiog i draddodiad adrodd straeon Cymru - un stori ar y tro.
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;+447482256996