Mam yn ysbrydoli taith ddysgu
Roedd Ronke Olomola eisiau dilyn yn ôl traed ei mam a oedd yn athrawes am dros 35 mlynedd.

Heddiw mae hi’n graddio gyda BSc anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o’r Drindod Dewi Sant yn Llundain.
“Byddai fy mam bob amser yn fy annog i gychwyn ar y daith o raddio o brifysgol. Ar ôl gweithio yn y gwasanaeth gofal iechyd am bron i ugain mlynedd roeddwn i’n meddwl i mi fy hun ei bod hi’n bryd cychwyn ar fy mreuddwyd,” meddai Ronke.
Dechreuodd taith Ronke yn Y Drindod Dewi Sant yn Llundain drwy astudio’r cwrs tystysgrif mewn iechyd a gofal cymdeithasol lle enillodd ragoriaeth ac aeth ymlaen i dderbyn BSc mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol lle cafodd radd anrhydedd dosbarth 1af.
Ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Iechyd y Cyhoedd mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol ac astudiodd yr holl gyrsiau hyn ar gampws y Brifysgol yn Llundain.
“Mae fy nhraethawd hir ar gyfer fy BSc yn cael ei adolygu ar hyn o bryd gan un o fy narlithwyr ac fe’i cyhoeddir yn fuan. Y pwnc oedd “Dylanwad y cyfryngau cymdeithasol ar bobl ifanc yn eu harddegau sy’n dioddef o anorecsia nerfosa”.
“Rwyf mor hapus fy mod wedi dewis astudio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gan fod y darlithwyr yn ymroddedig i sicrhau eu bod yn cael y gorau o fyfyrwyr.
“Un o’m munudau hapusaf oedd pan wnes i sgorio 75% mewn un o’r modiwlau, fe dalodd fy ngwaith caled ar ei ganfed. Gwnaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wireddu fy mreuddwyd o raddio ac rwy’n teimlo’n falch iawn fy mod wedi cyflawni y tu hwnt i’r hyn yr oeddwn yn ei ddisgwyl. Rwy’n gobeithio darlithio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant rhyw ddydd!!”
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07968&Բ;249335