Mared Connick yn Cipio Gwobr Ysgoloriaeth BA Addysg Gynradd
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o gyhoeddi mai Mared Connick yw enillydd Ysgoloriaeth Gwobr BA Addysg Gynradd (cyfrwng y Gymraeg) eleni.

Yn enedigol o Gwm Gwendraeth, penderfynodd Mared astudio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant oherwydd yr awyrgylch gartrefol oedd yn bodoli ar y campws, a’i hymrwymiad clir i’r Gymraeg. Dywedodd:
“Roedd gallu astudio’r cwrs cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg yn hynod o bwysig i mi,”
Dewisodd y cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC oherwydd y cynnwys diddorol a gyniga’r cwrs, a’r pwyslais cryf oedd ar brofiad ymarferol.
“Roedd y cwrs yn baratoad perffaith i fod yn athrawes gynradd. Roeddwn i’n awyddus i gyrraedd y safonau uchaf posib ac i ddeall pob agwedd ar addysgu’n effeithiol,” meddai.
Cafodd Mared brofiadau gwerthfawr mewn ysgolion cynradd amrywiol ar draws tri chyfnod o leoliadau (PAP1–3), a sylwi fod yna ethos ac anghenion dysgu unigryw gan bob ysgol. Ychwanegodd:
“Roedd cwrdd a’r dysgwyr ifainc o bob oed a gallu ac adeiladu perthynas broffesiynol a nhw fel y gallwn i eu helpu i gael mynediad i ddysgu yn effeithiol yn bleser ac yn fraint.”
Un o uchafbwyntiau ei hastudiaethau oedd gweithio ar brosiect ymchwil ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gan ddyfnhau ei dealltwriaeth o faterion fel ADHD, awtistiaeth a dyslecsia. Meddai:
“Trwy’r ymchwil hwn, fe lwyddais weld dysgwyr gyda’r anghenion hyn mewn golau gwahanol a thrwy hynny eu haddysgu yn effeithiolach.”
Tra’n fyfyrwraig, llwyddodd Mared i gadw trefn drwy reoli amser yn effeithiol.
“Mae yn bwysig cadw golwg o ddyddiadau cau asesiadau a’r cyfnodau lle mae posibilrwydd bod y pwysau gwaith yn mynd i fod yn drwm. Drwy gadw golwg cyson o’r hyn sydd i ddod, fel petai, fe lwyddais gadw y pwysau a oedd arnaf dan reolaeth.”
Mae Mared eisoes wedi sicrhau swydd addysgu llawn amser yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe fis Medi.
“Mae’r cwrs wedi gosod seiliau cadarn i mi wrth i mi gychwyn ar fy ngyrfa proffesiynol. . Rwy mor ffodus i gael y cyfle hefyd i addysgu mewn ysgol sydd a thraddodiad mor wych am ei safonau dysgu a’i bywyd allgyrsiol.”
Dywedodd Fiona Jones, Rheolwr Rhaglen y cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC PCYDDS:
“Mae’n bleser mawr gennyf gydnabod Mared am ei pherfformiad rhagorol yn ei hastudiaethau academaidd a’i phrofiad addysgu proffesiynol. Drwy gydol ei hamser ar y rhaglen, mae hi wedi dangos lefel uchel o allu deallusol, ymrwymiad a phroffesiynoldeb. Mae wedi bod yn fraint i weld datblygiad Mared dros y tair blynedd ddiwethaf, wrth iddi ymrwymo cant y cant ym mhob agwedd o fywyd y Brifysgol. Mae ei record academaidd nid yn unig yn adlewyrchu rhagoriaeth ond hefyd ddealltwriaeth ddofn o’r theori. Yn ogystal, mae ei hymarfer addysgu proffesiynol wedi’i nodweddu gan greadigrwydd, rheolaeth ystafell ddosbarth effeithiol, ac angerdd gwirioneddol dros ddysgu disgyblion. Pob lwc i ti, Mared yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe. Mae’r plant yn lwcus iawn i gael athrawes mor hyfryd a brwdfrydig.”
I’r rhai sy’n ystyried gyrfa a dilyn cwrs BA Addysg, dywedodd Mared:
“Byddwn yn argymell y cwrs yn fawr oherwydd y modiwlau diddorol, ansawdd yr hyfforddiant a chefnogaeth gref gan ddarlithwyr agos atoch. Mae y pwyslais hefyd ar yr ochr ymarferol a’r cyfnodau hir yn yr ysgolion yn dda gan eich bod yn cael cyfle i roi ar waith yr hyn yr ydych wedi’i ddysgu mewn darlithoedd a gweithdai a gwerthuso hynny hefyd.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476