ĂÜĚŇ´«Ă˝

Skip page header and navigation

Mae Molly Evans, a  raddiodd yn ddiweddar mewn Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), yn dathlu’r cam nesaf ar ei thaith yrfa wrth iddi baratoi i ddechrau TAR ym mis Medi, gyda’r nod o ddod yn athrawes ysgol gynradd.

image of Molly Evans in her cap and gown

Wedi tyfu i fyny ag angerdd am y Celfyddydau Perfformio, nid oedd Molly bob amser yn siŵr pa lwybr gyrfa yr oedd hi eisiau ei gymryd, ond roedd un peth yn sicr: roedd hi’n gwybod ei bod eisiau gweithio gyda phlant, yn enwedig ar Ă´l dod yn fodryb. Meddai:

“Mynychais ddiwrnod agored yn PCYDDS ychydig flynyddoedd cyn i mi wneud cais yn y pen draw. Roedd y cwrs Blynyddoedd Cynnar yn sefyll allan oherwydd ei fod yn cynnig cydbwysedd iawn o wybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol. Roedd hefyd yn darparu’r profiad ymarferol hanfodol roeddwn i’n gwybod bod angen i mi ei ddatblygu yn y maes hwn.”

Roedd Molly yn gwybod bod angen iddi gael gymaint o brofiad â phosibl. Roedd gweithio gyda phlant yn uchelgais mawr iddi, ond nid oedd ganddi unrhyw brofiad proffesiynol. Roedd hi’n deall pwysigrwydd cymryd rhan pryd bynnag y gallai, nid yn unig i gefnogi ceisiadau yn y dyfodol, ond i wella ei gwybodaeth a’i sgiliau. Drwy fod yn benderfynol, cwblhaodd Molly dros 700 awr o brofiad lleoliad yn ystod ei hastudiaethau, yn bennaf mewn ysgol gynradd. Ychwanegodd: 

“Fe wnes i fynd dros fy oriau yn bennaf oherwydd nad oeddwn i eisiau gadael! Fe wnes i hefyd wneud yn siŵr fy mod wedi cael profiad mewn meithrinfa, fel y gallwn ddeall pa amgylchedd oedd yn gweddu orau i mi yn bersonol ac yn broffesiynol.”

Mae hi’n cyfaddef bod dechrau lleoliad yn ei hail flwyddyn wedi golygu y buodd yn rhaid iddi weithio’n galetach i fodloni’r gofynion lleoliad. 

“Fe’m gwnaeth yn fwy penderfynol fyth. Cefnogais ysgol haf a threulio pob eiliad sbâr yn yr ystafell ddosbarth.”

I Molly, nid oedd y brifysgol yn ymwneud â chyflawniad academaidd yn unig - roedd hefyd yn ymwneud â meithrin cyfeillgarwch parhaol a magu hyder trwy brofiad. 

“Roedd gwneud ffrindiau yn y brifysgol ac yn y gweithle yn uchafbwynt go iawn. Roeddwn i wrth fy modd â phob munud o ddod i adnabod y plant roeddwn i’n gweithio gyda nhw.”

Mae Alison Rees - Edwards, Darlithydd Blynyddoedd Cynnar PCYDDS yn falch iawn o lwyddiant Molly fel myfyriwr:

“Rwyf wrth fy modd bod Molly bellach yn dilyn ei hangerdd ac yn astudio TAR. Mae Molly yn fyfyrwraig rwy’n ei chofio oherwydd ei brwdfrydedd a’i chymhelliant. Yn ein modwl awyr agored, er enghraifft, trefnodd ac arweiniodd Molly drefniadau i sicrhau bod gan ei charfan yr holl wybodaeth angenrheidiol i ymuno ag ymarferion ymweliadau maes mewn ysgol leol. Tra yn yr ysgol daeth yn amlwg bod Molly eisoes wedi datblygu arfer rhagorol. Roedd hi’n modelu chwilfrydedd ac yn annog plant i adeiladu ffau, archwilio natur ac arbrofi gyda gorsaf laid. 

“Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn amlygu’r angen am athrawon sy’n gallu cefnogi dysgu drwy brofiadau o’r fath.  Mae ymchwil hefyd yn amlygu’r angen am weithwyr proffesiynol sy’n deall sut mae chwarae ac mae gwybodaeth am ddatblygiad plant yn hanfodol i wella arfer ysgol. Mae astudio’r radd Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar yn golygu bod gan Molly eisoes y wybodaeth a’r ddealltwriaeth hon. Mae hi hefyd wedi graddio o radd sydd â phwyslais ar gynhwysiant, llesiant a hawliau plant ac rwy’n siŵr y bydd Molly yn cymryd y gwerthoedd hyn i’w gyrfa addysgu. 

Da iawn Molly, edrychaf ymlaen at dy weld di pan fyddi di’n arwain dy ddosbarth dy hun”.

Wrth adfyfyrio ar ei hamser yn PCYDDS, mae Molly yn talu clod i’r cwrs a’i elfennau ymarferol am ei helpu i lunio ei dyheadau gyrfa. 

“Dechreuais y radd heb syniad clir o ble roeddwn i eisiau bod yn y diwedd, ond gwnaeth y lleoliadau ganiatáu i mi archwilio gwahanol lwybrau. Cadarnhaodd fy awydd i weithio mewn ysgol a rhoddodd yr hyder i mi wybod y gallwn ei wneud.”

Mae Molly bellach yn edrych ymlaen at ddechrau ei TAR ym mis Medi, gyda’i golwg yn gadarn ar wneud gwahaniaeth ym mywydau plant ysgol gynradd.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ąó´ÚĂ´˛Ô:&˛Ô˛ú˛ő±č;07449&˛Ô˛ú˛ő±č;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon