Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Cas Germain, a raddiodd yn ddiweddar o Ddiploma Cyswllt mewn Rheoli Pobl Lefel 5 CIPD ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi canmol y rhaglen am drawsnewid ei thaith broffesiynol a’i bywyd personol. Wedi’i gyflwyno o gampws y brifysgol yng Nghaerfyrddin, rhoddodd y cwrs y sgiliau a’r hyder i Cas gamu i rôl arwain newydd a chadarnhau ei lle ym maes Datblygu Sefydliadol (OD).

Cas Germain sitting in a kitchen

Gyda chefndir mewn cymdeithaseg ac addysg, gwnaeth Cas y penderfyniad beiddgar i drosglwyddo o addysgu i’r byd corfforaethol. Dywedodd hi: 

 “Rwyf wedi dwlu ar bobl o hyd. Diben symud i yrfa mewn Datblygu Sefydliadau i mi oedd helpu i greu mannau gwaith gwell i bawb. Pan welais y cwrs CIPD ym mis Awst 2023, fe wnes i gais ar unwaith. Roedd y ffaith fy mod yn byw yng Ngorllewin Cymru ac y gallwn gael mynediad at lwybr dysgu hyblyg wedi’i ariannu yn teimlo’n berffaith.”

Roedd enw da’r CIPD a’r model cyflwyno hybrid yn ffactorau allweddol yn ei phenderfyniad.

 “Roedd angen rhywbeth arnaf a fyddai’n gweithio o gwmpas swydd amser llawn wrth gefnogi fy nod o weithio yn y gofod pobl ac OD.” 

Er iddi ddechrau’r cwrs gyda sgiliau rhyngbersonol cryf a chefndir mewn Astudiaethau Rhywedd, dywed Cas fod y diploma wedi ei helpu i bontio’r bwlch rhwng profiad a theori. 

“Mae’r cwrs hwn wir wedi dyfnhau fy nealltwriaeth o sut mae gweithleoedd yn gweithredu a’r rôl ganolog y mae gweithwyr proffesiynol yn ei chwarae wrth lunio diwylliant sefydliad. Rhoddodd y sylfaen yr oedd ei angen arnaf i ffynnu.

“Rydym yn chwarae rhan annatod nid yn unig i’r busnes ond hefyd i sut mae’r diwylliant yn cael ei ffurfio ac mae gennym y fraint o lunio gweithfannau rhagorol i bobl eu mwynhau. Roeddwn i wrth fy modd yn dysgu am reoli talent, lles, AD, gwobrau a chydnabyddiaeth. Mae cymaint i’w gwmpasu ond mewn ffordd gynaliadwy a chyraeddadwy, yn enwedig gyda swydd llawn amser ac roedd bod yn fyfyriwr aeddfed yn golygu fy mod i’n gallu dod â phrofiad bywyd i mewn iddo hefyd.”

Un o fanteision amlwg y cwrs i Cas oedd ei effaith yn y byd go iawn. Yn fuan ar ôl cofrestru, cafodd ddyrchafiad fel Arweinydd Arweinyddiaeth ac OD yn ei sefydliad. Derbyniodd gydnabyddiaeth genedlaethol hefyd yng Nghynhadledd Diogelwch Cleifion 2024, lle enillodd ei gwaith ar lesiant yn y gweithle y categori poster. Mae Cas yn arwain Grŵp Llesiant ac Ymgysylltu ei gweithle, gan hyrwyddo dull a arweinir gan gydweithwyr o wella llesiant yn y gwaith.

Nid oedd ei thaith yn gwbl ddi-her. Collodd Cas sawl babi cyn ac yn ystod ei hastudiaethau, ac mae’n dweud bod y cwrs wedi tynnu ei sylw mewn ffordd ystyrlon ac wedi bod yn ffynhonnell o gryfder yn ystod cyfnod anodd. Ychwanegodd:

 “Mae gweithio yn rhan mor hanfodol o’n pwrpas. Doeddwn i ddim bob amser yn pasio aseiniadau y tro cyntaf, ond wnes i ddim rhoi’r gorau iddi. O’r diwedd, deuthum yn fam yn 2025 ychydig cyn graddio, a daeth y cwrs hwn yn rhan o daith iachâd. Mae wedi fy ysbrydoli i eirioli dros well cefnogaeth yn y gweithle mewn perthynas â cholli babanod a beichiogrwydd ar ôl profedigaeth - pynciau sy’n dal i fod ddim yn cael digon o sylw.”

Dywed Cas fod y cwrs wedi bod yn wych ac wedi ei bywiogi. Mae hi’n argymell y cwrs yn gryf i eraill:

 “Daeth i mi ar yr union adeg iawn. Roedd y tiwtoriaid yn gefnogol, ac roedd y dull dysgu hybrid yn ddelfrydol. Mae gwir ymrwymiad gan staff y Brifysgol i helpu myfyrwyr i lwyddo.”

Dywedodd Julie Thomas, Darlithydd CIPD yn y Drindod Dewi Sant

“Mae Cas wedi dangos cryn ddewrder a phenderfyniad drwy gydol ei hastudiaethau, ac rwyf wrth fy modd i glywed ei bod wedi elwa mewn sawl ffordd o gwblhau’r cwrs. Nid yn unig y mae’r cymhwyster hwn yn gwella gwybodaeth a sgiliau, mae’n magu hyder ac yn galluogi myfyrwyr i berfformio ar eu gorau – rydym yn hynod falch o’r hyn y mae Cas a’i gyd-fyfyrwyr wedi’i gyflawni.”

Nawr, gyda’i diploma wedi’i gwblhau, mae Cas yn edrych ymlaen at effaith bellach. 

“Rwy’n gyffrous i barhau i dyfu yn y gofod OD. Rydw i eisiau parhau â’m gwaith llesiant a siarad yn agored am golli babanod a beichiogrwydd ar ôl profedigaeth yn y gweithle, mae cymaint y gellir ei wneud o hyd.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon