ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o ddathlu Charleigh Steel, a raddiodd yn ddiweddar o’r radd BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar, sydd wedi dod yn aelod cyntaf ei theulu i fynychu’r brifysgol.

Charleigh in her cap and gown

Roedd Charleigh yn mwynhau’r ysgol ac roedd bob amser yn gwneud yn dda. Roedd hi’n hoffi’r syniad o fynychu’r brifysgol, ac ar ôl sgwrs gyda’i hathrawes gofal iechyd yr oedd hi’n ymddiried ynddynt, penderfynodd Charleigh ddod i PCYDDS.

“Dewisais y cwrs Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar oherwydd roeddwn i’n hoffi’r syniad bod y cwrs yn eang ac yn gallu agor llawer o ddrysau i mi. Mae’r cyfle i astudio llawer o bynciau gwahanol mewn maes yr oedd gen i ddiddordeb ynddo, yn lleihau pwysau gorfod penderfynu ar lwybr gyrfa penodol yn ifanc.â€

I ddechrau, prif nod Charleigh oedd mwynhau’r profiad a bod yn hapus wrth ei hastudiaethau. Fodd bynnag, wrth i’w hyder dyfu, felly hefyd ei huchelgais. Meddai: 

 â€œRoedd pob modwl yn fy ngwthio i anelu’n uwch. Gwnaeth y modylau Diogelu a Dysgu Awyr Agored sefyll allan yn arbennig, yn ogystal â’r profiad amhrisiadwy a gefais yn ystod lleoliadau.â€

Yn ystod ei hastudiaethau, cynigiwyd rôl ran-amser i Charleigh ym man ei lleoliad, a roddodd brofiad ymarferol iddi y tu hwnt i’w chyfrifoldebau fel myfyriwr.

“Rhoddodd y cyfle hwnnw mewnwelediad dyfnach i mi ar ymarfer, yn enwedig diogelu a gweithio gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Fe roddodd hwb go iawn i’m hyder fel ymarferydd.â€

Er gwaethaf ei llwyddiant, mae Charleigh yn cyfaddef nad fuodd yn daith yn ddi-her.

“Peidio â chredu ynof fi fy hun a rhoi pwysau ar fy ngraddau oedd fy rhwystr mwyaf, ond dros amser, rydw i wedi tyfu i fod yn fersiwn hollol wahanol ohonof fy hun, yn broffesiynol ac yn bersonol.â€

Gyda chefnogaeth ei thiwtoriaid, ychwanega Charleigh: 

“Mae’r cwrs hwn wedi fy helpu’n enfawr yn broffesiynol ac yn bersonol! Rwy’n fersiwn hollol wahanol ohonof fy hun oherwydd fy mhrofiadau dros y 3 blynedd diwethaf.â€

Dywedodd Darlithydd Blynyddoedd Cynnar PCYDDS, Glenda Tinney: 

“Roedd addysgu Charleigh yn bleser. Roedd ei mewnwelediadau a’i thrafodaeth yn y dosbarth yn dangos ei hangerdd dros ddysgu. Ymunodd Charleigh ag ymweliad i gefnogi dysgu awyr agored mewn ysgol leol yn rhan o’i modwl ac fe wnaed argraff fawr arna’i gan y ffordd roedd hi a’i chyfoedion yn rhoi theori ar waith gan ddatblygu annibyniaeth plant ac annog eu chwilfrydedd a’u harchwilio, sy’n allweddol i arfer blynyddoedd cynnar o safon. ”

Mae Charleigh bellach yn gosod ei golygon ar y dyfodol gyda chynlluniau i ddilyn TAR ac, yn ddiweddarach, arbenigo mewn ADY, addysgu AAA, a diogelu. Mae hi’n annog eraill i ystyried y cwrs Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn PCYDDS:

“Dysgais gymaint amdanaf fy hun, yr hyn yr oedd gen i ddiddordeb ynddo, a’r hyn roeddwn i’n gallu ei wneud yn dda. Rhoddodd y cwrs wybodaeth a hyder i mi ar draws amrywiaeth o bynciau, gan alluogi i mi wneud penderfyniad gyrfa gwybodus, a chefais hwyl!â€

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar PCYDDS ewch i: Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Llawn amser) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07449&²Ô²ú²õ±è;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon