Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Liah Evans, myfyriwr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi lleisio ei diolchgarwch dwysaf am y cymorth eithriadol a ddarparwyd gan y cwrs TAR yn ystod yr hyn mae’n ei ddisgrifio yn un o flynyddoedd mwyaf heriol a thrawsnewidiol ei hoes.

Liah Evans with her son in front of a lake

Ar ôl graddio yn 2019 gyda gradd BA Blynyddoedd Cynnar: Ymarferydd, penderfynodd Liah ddychwelyd i’r brifysgol i ddilyn y cwrs TAR, yn hyderus mai dod yn ôl i’w chartref academaidd oedd y penderfyniad iawn. Trwy gydol ei thaith, daeth ar draws heriau nodweddiadol hyfforddiant athrawon - dyddiadau cyflwyno heriol, pwysau academaidd, ac arsylwadau gwersi. Wedi’i hethol yn gynrychiolydd dosbarth, croesawodd y cyfle i gefnogi a dadlau dros ei chyd-fyfyrwyr.

Fodd bynnag, cafodd heriau academaidd Liah eu cymhlethu gan rwystrau personol iawn. Ar ddechrau ei chwrs, cafodd aelod agos o’r teulu ddiagnosis o salwch hirdymor. Meddai:

“Doedd gen i ddim syniad sut roeddwn i’n mynd i ymdopi â’r cythrwfl emosiynol, bod yn fam brysur i’m mab dyflwydd oed hyfryd, Oliver, a bod yn gystal myfyriwr ag y gallwn. Gwnaeth y gefnogaeth a gefais gan Jayne a Lil yn ogystal â’m cyfoedion, fy helpu drwy’r tymor cyntaf.”

Hanner ffordd drwy’r flwyddyn academaidd, fel roedd hi’n dechrau dod o hyd i gydbwysedd, cafodd ei mab ei atgyfeirio i’r tîm niwroamrywiaeth o ganlyniad i oedi lleferydd difrifol a diagnosis awtistiaeth posibl. Gwnaeth gofynion emosiynol ac ymarferol y sefyllfa hon ei wneud yn anodd rheoli llwyth gwaith dwys hyfforddiant athrawon. Eto i gyd, diolch i dosturi, dealltwriaeth ac arweiniad y tîm TAR, gwnaeth hi ddyfalbarhau â’i llwybr i fod yn athro - breuddwyd oes.

Chwaraeodd ymrwymiad a dull empathig Jayne Morgan, darlithydd, ran hanfodol yn y daith hon. Trwy ddarparu hyblygrwydd, clust i wrando, a mynediad at adnoddau ychwanegol, sicrhaodd Morgan y gallai Liah flaenoriaethu anghenion ei theulu wrth barhau i ragori’n academaidd. Meddai Liah:

 “Mae’r diwylliant o ofal a dealltwriaeth o fewn y gyfadran TAR yn PCYDDS wedi atgyfnerthu fy nghred yng ngrym addysg – nid dim ond fel arf ar gyfer cyrhaeddiad academaidd, ond fel cymuned o gefnogaeth ac anogaeth. Mae ymrwymiad y gyfadran i lesiant myfyrwyr yn destament i’w hymrwymiad i ddatblygu addysgwyr gwydn a thrugarog.”

Wrth i Liah agosáu at gwblhau ei TAR, mae’n parhau’n ddiolchgar tu hwnt i’r holl dîm TAR. Nid yn unig mae eu cymorth wedi ei helpu i lwyddo’n academaidd ond hefyd wedi siapio ei gweledigaeth ar gyfer creu amgylcheddau meithringar a chynhwysol ar gyfer ei myfyrwyr yn y dyfodol.

Dywed Jayne Morgan, darlithydd PCYDDS:

 “Cred yr Adran Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) bod pob myfyriwr yn wahanol. Rydym yn croesawu myfyrwyr o gefndiroedd, sefyllfaoedd teuluol ac oedrannau amrywiol. Rydym yn ymrwymo i gefnogi pob myfyriwr wrth iddynt weithio i fod yr athrawon gorau y gallant fod er gwneud eu cyfraniad unigryw eu hunain at addysg yng Nghymru.” 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon