Ҵý

Skip page header and navigation

Mae myfyrwraig o Wcráin a ffodd rhag y rhyfel yn ei gwlad enedigol wedi graddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Ysgrifennu Creadigol a Saesneg o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Llambed, ddwy flynedd yn unig ar ôl cyrraedd y DU.

Kseniia Kulykivska at UWTSD Lampeter graduation

Wedi’i geni a’i magu yn Kyiv, Wcráin, roedd Kseniia Kulykivska yn astudio Ieithyddiaeth Saesneg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Ieithyddol Genedlaethol Kyiv pan orfododd goresgyniad Rwsia hi i adael ei chartref. Ar ôl cymryd amser i fyfyrio ar ei dyfodol, symudodd i’r DU ac ymgartrefu ychydig y tu allan i Lanllwni gyda’i gwesteiwr Liz Ellis a’i ffrind gorau Lisa Kytskai, sydd hefyd yn dod o Kyiv ac yn gweithio gyda thîm Gwasanaethau Digidol y Brifysgol.

Er nad oedd ganddi unrhyw brofiad blaenorol mewn ysgrifennu creadigol, dilynodd Kseniia ei hangerdd am lenyddiaeth a chofrestrodd ar y radd Ysgrifennu Creadigol a Saesneg yn y Drindod Dewi Sant. “Mae llenyddiaeth a’r diwydiant cyhoeddi bob amser wedi fy swyno,” meddai. “Roeddwn i eisiau treulio fy nyddiau yn darllen, ysgrifennu a dadansoddi - ac roedd y cwrs yn rhoi’r boddhad hwnnw i mi.”

Wedi’i gyrru gan ei chysylltiad dwfn â’i mamwlad, defnyddiodd Kseniia ei thraethawd hir i archwilio Canfyddiadau Unigryw o Ysgrifennu Ieithoedd Lleiafrifol yn Saesneg, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cynrychiolaeth ddiwylliannol mewn llenyddiaeth. Gydag arweiniad ac anogaeth tiwtoriaid, Dr Sarah Reynolds a’r Athro Matthew Jarvis, cafodd ei grymuso i rannu ei llais fel awdur o Wcráin.

Doeddwn i erioed wedi dychmygu y byddwn i’n gorffen gradd yn fy nhrydedd iaith - heb sôn am ennill Anrhydedd Dosbarth Cyntaf,” meddai. “Nid oedd y daith yn hawdd, yn enwedig ennill hyder yn fy sgiliau ysgrifennu Saesneg, ond roedd cefnogaeth fy ngwesteiwr, ffrindiau a thiwtoriaid yn ei gwneud hi’n bosibl.”

Fel myfyriwr, cymerodd ran mewn arddangosfeydd barddoniaeth a ffuglen fer a oedd yn rhoi hwb i’w sgiliau siarad cyhoeddus a’i chyflwyno i rwydwaith o gyfoedion creadigol. “Y cysylltiadau a wnes i yn y Drindod Dewi Sant yw’r hyn rydw i’n ei drysori fwyaf – roedd cael fy amgylchynu gan bobl o’r un anian yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

Nawr, mae Kseniia yn gobeithio dechrau gyrfa ym maes cyhoeddi. “Rwy’n angerddol am helpu eraill i ennill hyder yn eu hysgrifennu, yn union fel y cefais fy helpu. Ar hyn o bryd rwy’n chwilio am rolau lefel mynediad mewn golygu a chyhoeddi i ddechrau pennod nesaf fy nhaith .”

Mae Kseniia yn argymell y cwrs i unrhyw un, waeth beth fo’u cefndir: “Mae’n fwy na gradd ysgrifennu yn unig - mae’n eich dysgu i feddwl yn feirniadol, derbyn adborth, a defnyddio iaith gyda phwrpas.”

Lisa Kytskai, Kseniia Kulykivska and Liz Ellis

Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;01267&Բ;676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon